gan Glyn Roberts, Llywydd UAC
Dros y misoedd diwethaf, mae llawer ohonom wedi bod yn cyfarfod â’n cynrychiolwyr etholedig o Gaerdydd a San Steffan i drafod y materion amaethyddol mwyaf allweddol. Un o’r rhain wrth gwrs yw Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru. Bydd dyluniad, cyllideb ac ymarferoldeb y cynllun yn amlwg yn cael effaith enfawr ar ein sector yn y blynyddoedd i ddod.
Rydym ni, fel y byddai aelodau’n disgwyl, wedi bod yn ymgysylltu â’r cynigion ac yn gyffredinol rydym wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i daliad sylfaenol i bob ffermwr, a fydd yn darparu sefydlogrwydd angenrheidiol ar gyfer ffermydd teuluol sy’n cynhyrchu bwyd.
Rydym yn credu’n gryf y dylid defnyddio’r rhan fwyaf o’r gyllideb i ddarparu’r taliad sefydlogrwydd hwn yn gyfnewid am fodloni’r Gweithredoedd Sylfaenol newydd sy’n ofynnol gan ffermwyr, yn enwedig gan y byddant yn ychwanegol at y ‘Safonau Gofynnol Cenedlaethol’ newydd (yn seiliedig ar y trawsgydymffurfio presennol). Mae gennym bryderon o hyd am effaith y toriadau yn y gyllideb o San Steffan a maint y gyllideb ar ôl 2023, yn bennaf oll gan fod y cynigion yn uchelgeisiol ac yn cwmpasu ystod eang o amcanion ar adeg pan fo ffermwyr yn gweld cynnydd sylweddol mewn costau.
Rydym hefyd wedi bod yn glir yn ein trafodaethau ag Aelodau’r Senedd bod hi’n hynod o siomedig nad yw’r canlyniadau sy’n ofynnol gan y cynllun, sy’n seiliedig ar egwyddorion Rheoli Tir yn Gynaliadwy fel Aer Glân ac Ecosystemau Gwydn, dal ddim yn ymgorffori cynaliadwyedd economaidd teuluoedd ffermio, cadwyni cyflenwi amaethyddol, cymunedau gwledig a chynhyrchu bwyd. Heb i amcanion o’r fath fod yn ganolog i’r cynllun, mae perygl o niwed economaidd, yn enwedig os na all cyfrifo cyfraddau taliadau sylfaenol ystyried cymorth economaidd o’r fath.
Byddai llawer o’r Gweithredoedd Sylfaenol arfaethedig yn gwbl anymarferol i nifer fawr o ffermwyr ac felly byddai angen ystyriaeth fanwl bellach. Yn fwyaf nodedig yw’r gofyniad i bob fferm gyrraedd 10 y cant o orchudd coed yn ystod eu cytundeb er mwyn cael y taliad sylfaenol.
I ffermwyr sy'n denantiaid, sydd â llawer iawn o dir cynefin neu ddynodiadau anaddas i'w plannu, neu sy'n ffermio mewn ardaloedd lle na fydd coed yn tyfu, byddai hyn yn anodd neu'n amhosibl. Byddai’r cynnig hefyd yn hynod heriol i ffermydd cynhyrchiol iawn, yn enwedig o ystyried y straen presennol ar ddiogelu’r cyflenwad bwyd.
Er nad yw'r ddogfen ddiweddar yn ymgynghori'n benodol ar y Safonau Gofynnol Cenedlaethol, bydd y cynllun yn cael ei ategu gan y fframwaith deddfwriaethol hwnnw. Rydym wedi pwysleisio dro ar ôl tro bod yn rhaid ystyried sicrhau nad yw llinell sylfaen reoleiddiol uwch yn arwain at anfantais gystadleuol i ffermwyr Cymru o gymharu â mewnforion o wledydd â safonau amgylcheddol a lles anifeiliaid isRwy’n falch o weld bod fframwaith y cynllun wedi newid yn sylweddol ac yn adlewyrchu llawer o’r materion rydym wedi bod yn lobïo arnynt ers ymgynghoriad Brexit a’n Tir yn 2018. Mae newidiadau cadarnhaol yn cynnwys darparu taliad sylfaenol ar gyfer ymgymryd â Chamau Gweithredu Cyffredinol, defnyddio Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein a chasglu data presennol, ystyried capio taliadau, cyfnod pontio hir i osgoi sefyllfa ariannol ddyrys, pwyslais ar ffermwyr actif, a thaliadau ar gyfer cynnal a chreu canlyniadau amgylcheddol.
Gall aelodau fod yn sicr y bydd ein gwaith yn parhau ar y mater hwn a bod pob un o’n cynrychiolwyr a’n staff yn gweithio’n galed i sicrhau bod gennym ffermydd teuluol ffyniannus a chynaliadwy yma yng Nghymru am flynyddoedd i ddod.
Enghraifft gadarnhaol o faint o’r pethau hyn a allai weithio, oedd rhywbeth a ddysgais pan ymwelais ag Iwerddon yn ddiweddar i weld sut y mae taliadau ar sail canlyniadau yn cael eu gweithredu yno.
Rhoddodd prif gyllidwr y prosiect, Cronfa Datblygu Gynaliadwy Gŵyr, a weinyddir gan AoHNE Gŵyr, gyfle i ni ymuno â thaith astudio i Iwerddon i ymweld â phedwar prosiect sy’n gweithredu ar ddull talu ar sail canlyniadau, sy’n gweithredu i gefnogi ac annog rheolaeth fferm gynaliadwy. Cynhaliwyd yr ymweliad rhwng Medi 12 a 15 2022.
Roedd y daith astudio yn ddefnyddiol ac yn addysgiadol iawn, a’r ffactor mwyaf a gyfrannodd at lwyddiant y cynlluniau hyd y gallwn i weld oedd bod Llywodraeth Iwerddon yn cydweithio gyda ffermwyr. Roedd ffermwyr Iwerddon yn gweithio gyda'r Llywodraeth ac yn gweithredu’r camau angenrheidiol i gyflawni'r canlyniad. Roedd y cynlluniau’n seiliedig ar ganlyniadau a gafodd eu monitro drwy gerdyn sgorio ac roedd gan y ffermwyr yr opsiwn i fonitro’r canlyniadau gwahanol i adlewyrchu’r cerdyn sgorio. Yn amlwg, po uchaf yw'r cerdyn sgorio, yr uchaf yw'r taliad. Yr oedd yn braf gweld hyn, ac yn fwy o ddull abwyd na ffon.
Crynodeb o'r prosiectau yr ymwelwyd â nhw
Roedd y ddwy fenter gyntaf i ni ymweld â nhw (Pearl Mussel Project a Hen Harrier Project) yn brosiectau mawr a oedd yn destun galwadau penodol am dendr gan Lywodraeth Iwerddon o dan y Cynllun Datblygu Gwledig diwethaf. Wedi'u nodi fel Prosiectau EIP, cawsant eu rhedeg o dan y Mesur Cydweithredu, gan ganiatáu datblygu datrysiadau yn ystod oes y prosiect, a chaniatáu ystod o 'fesurau' (taliadau tebyg i AECM, taliadau cyfalaf tebyg i fuddsoddiadau anghynhyrchiol, agweddau tebyg i wasanaethau cynghorol) i’w datblygu a’u darparu’n ddi-dor yn ystod oes y prosiect.
Eu pwrpas oedd datblygu atebion arloesol posibl i'r hyn a ddaeth yn amlwg fel problemau anhydrin ar gyfer y modelau darparu rhagosodedig yn achos dwy rywogaeth Atodiad - y Boda Tinwyn a'r Fisglen Perl Dŵr Croyw. O’r herwydd, y bwriad oedd eu bod yn ‘hysbysu’r Cynllun Datblygu Gwledig nesaf’ a digwyddodd y daith astudio ar adeg o drawsnewid o’r prosiectau ‘EIP’ arwahanol i gynllun Cydweithredu ACRES lled-genedlaethol mwy, gyda’i 8 tîm Prosiect Cydweithredu. Bydd y tîm PMP yn gyfrifol am 2 o’r timau hynny a’r HHP am 3.
Ceir rhagor o fanylion am y ddau brosiect hynny, gan gynnwys cardiau sgorio o’r cyfnod ‘EIP’ (dogfennaeth ACRES sy’n dal i gael ei pharatoi), ar eu gwefannau: Henharrierproject.ie / Pearlmusselproject.ie
Mae’r Burren Programme yn llawer hŷn, gyda’r gwaith wedi dechrau yn y 2000au cynnar ar ffurf BurrenLife, gan drosglwyddo i'r PAC yn 2010 fel Cynllun Erthygl 69, gyda'r ymgorfforiad diweddaraf fel prif ffrwd, ond AECM lleol yn y Cynllun Datblygu Gwledig diwethaf. Bydd hefyd yn trosglwyddo i un o ardaloedd Cydweithredu ACRES, gan ehangu ei hôl troed ac ymgorffori prosiect EIP Aran (Caomhnú Árann) hefyd. Manylion pellach yn: Burrenprogramme.com
Roedd yr ymweliad olaf ag ardal wahanol iawn, gyda’r prif sector yn ffermio llaeth dwys. Dechreuwyd prosiect BRIDE yn wirioneddol ar lawr gwlad ac fe’i hariannwyd dan alwad agored am brosiectau ‘EIP’ â ffocws amgylcheddol, sydd eto’n cael eu rhedeg o dan y Mesur Cydweithredu. Mae’r prosiect bellach ar ben ond cafodd yr un tîm hefyd brosiect bach o dan alwad tebyg mwy diweddar, y tro hwn ar gyfer prosiect sy’n anelu at ychwanegu gwerth at gynnyrch, o’r enw Farming with Nature. Rhagor o wybodaeth yn: www.thebrideproject.ie/
Cyn cloi, hoffwn ddiolch i Gwyn Jones o’r Fforwm Ewropeaidd ar Gadwraeth Natur a Bugeiliaeth am drefnu’r daith werth chweil. Mae llawer o wersi y gallwn eu cymryd o'r ymweliad hwn.