gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu'r Iaith Gymraeg
"Hir yw pob ymaros" yw’r hen ddywediad, ond wrth gwrs, mae rhai pethau’n werth aros amdanynt, ac rwy’n siwr y byddai un person o Gwm Senni yn cytuno a hyn.
Rwyf am fynd a chi nôl i rhifyn mis Medi 2020 o Y Tir wrth i ni gyhoeddi bod Gorsedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn mynd i anrhydeddu Mr Glyn Powell, un o hoelion wyth yr Undeb gyda’r Wisg Las yn ystod Eisteddfod Ceredigion 2021 yn Nhregaron.
Er mawr siom i bawb, gohiriwyd yr Eisteddfod am flwyddyn arall o dan cwmwl parhaus y coronafeirws. Ond, i ddefnyddio dywediad arall, “Mi ddaw eto haul ar fryn”, dyna’n union beth ddigwyddodd yn Nhregaron rai wythnosau nôl pan gafodd y dref ei chyfle i ddisgleirio a chynnal yr Eisteddfod o’r diwedd.
Ac o’r diwedd hefyd, ar ôl dwy flynedd o aros, cafodd Glyn y cyfle i dderbyn Gwisg Las yr Orsedd. Ond sut brofiad oedd y cyfan iddo? Dyma Glyn i ddweud mwy wrthym:- “Teimlais ryw wefr ryfeddol wrth fod yno ymhlith pobl roeddwn wedi eu hedmygu erioed. I mi roedd yr anrhydedd yn annisgwyl gan fy mod yn adnabod cymaint o bobl eraill a oedd yn fwy haeddiannol” eglura Glyn. “Bûm yn ffodus i gael fy enwebu gan ddwy o ferched mwyaf blaenllaw llên Cymru ac o gymharu â nhw, doeddwn i ddim yn teimlo’n deilwng o’r Wisg Las. Roeddwn yn disgwyl rhyw drefniant ac awyrgylch braidd yn swyddogol ac amhersonol, ond roedd pawb mor gyfeillgar a hwylus a merched y gwisgoedd yn rhyfeddol o amyneddgar a chyfeillgar. Wrth ymuno yn yr orymdaith, rhyfeddais fod un o’r “werin datws” yn rhan ohoni a chynifer o’r eisteddfodwyr yn fy nghymeradwyo. Dw i ddim wedi datgelu i neb o’r blaen ond pan oeddwn yn Swyddog yn y fyddin ym Malaya, dywedodd yr Uwch Gapten wrtha i y byddwn yn aelod o’r Orsedd ryw ddiwrnod! Roedd e’n ymwybodol o’m harfer o fynnu siarad Cymraeg gyda’r milwyr o Gymru a phobl eraill y buaswn yn dod ar eu traws ac am fy mod yn derbyn llyfrau Cymraeg yn gyson oddi wrth fy nghyn athro Cymraeg a Bedwyr Lewis Jones fy nghyfaill coleg agosaf”.
Rhywbeth sy’n fy niddori i yn bersonol yw dysgu beth yw cefndir dewis gwahanol bobl o enw barddol, a dyma gyfle perffaith i holi i Glyn am ei ddewis ef. “Doeddwn i ddim am bechu naill ai Crai, lle bûm yn byw am 30 o flynyddoedd neu Senni, cartre’r teulu wedi hynny ac am fy nghysylltiad gyda’r frwydr dros ddeng mlynedd i achub y cwm rhag ei foddi,” eglura Glyn. Felly, dewisais enw Cwm Cilieni lle bu Mam yn byw a lle buodd fy nhad yn was ffarm adeg eu priodas. Dw i wedi bod yn ymwneud â’r Epynt oddi ar hynny. Gwnes i gystadlu yn eisteddfod olaf Capel Y Babell a hefyd dioddefais wythnosau o ymarfer filwrol ar yr Epynt cyn mynd i Korea.”
Wrth edrych nôl ar Eisteddfod Ceredigion yn Nhregaron, beth fydd yn aros yn y cof i Glyn? “Rwy’n ddiolchgar i Dregaron am roi’r llwyfan i mi dderbyn yr anrhydedd pennaf all ddod i Gymro bach o wreiddiau cwbl werinol. I goroni’r achlysur, fe wnaeth Undeb Amaethwyr Cymru drefnu digwyddiad i ddathlu fy urddo a’m mhen-blwydd yn 90.”
Yr hyn sy’n fy nharo i wrth ddarllen geiriau Glyn, ac rwy’n siŵr y cytunwch ei fod yn cyfeirio at ei hun fel un o’r “werin datws” yn rhan o’r Orsedd. A dyna ddisgrifio Glyn yn berffaith. Mae cyfraniad oes Glyn i’w filltir sgwâr a’i gymuned leol yn aruthrol ac yn destun edmygedd i bawb.
Wrth gysylltu â Bethan, merch Glyn cyn mynd ati i lunio’r erthygl hon, diddorol oedd darllen erthygl ganddi am anrhydedd ei thad pan gafodd ei enwebu gyntaf a ymddangosodd ym mhapur bro Aberhonddu, Y Fan a’r Lle. Mae’r erthygl yn frith o’i gyfaniadau at yr ardal leol, yn genedlaethol, a’i angerdd byrlymus dros yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. Yn athro; ffermwr brwd; cefnogwr ffyddlon o’r CFfI; beirniad, cyd-drefnydd ac arweinydd eisteddfodau a nosweithiau llawen lleol a sirol; aelod selog ac yn flaenor yng Nghapel Triniti, Defynnog, cyn Is Lywydd a Dirprwy Lywydd yr Undeb ac arweinydd deallus o ymgyrchoedd tyngedfennol, mae’n hawdd iawn gweld pam bod “un o’r werin datws” bellach yn aelod haeddiannol o’r Orsedd.
Ar ran pawb sy’n gysylltiedig â’r Undeb, yn aelodau a staff, llongyfarchiadau mawr i chi Glyn a diolch i chi am eich anogaeth a chefnogaeth dawel a chyson.