gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu’r Iaith Gymraeg
W’n i ddim amdanoch chi, ond mae yna bethau rwy’n hoff iawn am bob tymor (a llwyth o bethau dwi ddim mor hoff o hefyd!) ond mae adeg hyn o’r flwyddyn yn bert iawn, gyda’r dail yn dechrau newid lliw, ac i gael bod yn Gardi go iawn am funud, yn gwerthfawrogi’r hyn sy’n rhad ac am ddim ar stepen drws sef y cloddiau’n llawn mwyar duon a’r coed afalau’n llawn ffrwythau - dyna chi rai bwydydd lleol cynaliadwy ar eu gorau! A ninnau yng nghanol y tymor diolchgarwch - dyna ddechrau da ar y diolch am yr hyn sy’n lleol i ni.
Mae amser hyn o’r flwyddyn yn ddelfrydol hefyd i griw bach o ffermwyr entrepreneuraidd yng Ngogledd Ceredigion, ac roedd gweld miloedd o afalau heb eu casglu neu wedi cwympo mewn gerddi lleol ar ddiwedd bob haf yn gyfle perffaith i sefydlu busnes ecogyfeillgar newydd sy’n ariannu ei hun, a dyna gychwyn Seidr Pisgah Chi.
Mae’r criw tu ôl i Seidr Pisgah Chi, sydd â chysylltiadau agos a’r Undeb yng Ngheredigion, yn cynnwys 5 o ffrindiau o gefndir gwaith gwahanol, ond maent yn rhannu’r un awch a brwdfrydedd wrth ddatblygu’r fenter ymhellach.
Un sydd wedi bod yn rhan o’r daith o’r cychwyn cyntaf yw Elen Pencwm. Roedd Elen yn adnabod y rhan fwyaf o’r grŵp yn barod, ond yn rhinwedd ei swydd fel arweinydd Agrisgôp Cyswllt Ffermio, cefnogodd y criw wrth iddynt ddechrau ar eu menter newydd, ond o lle daeth y syniad o fragu a gwerthu seidr? Dyma Elen i egluro mwy: “Dechreuodd menter Seidr Pisgah Chi nôl yn 2019 wedi i griw lleol o ardal Pisgah ger Aberystwyth benderfynu eu bod eisiau creu rhywbeth o’r holl afalau oedd yn mynd yn wastraff ar hyd y lle.
“Dechreuwyd grŵp Agrisgôp, sef rhaglen datblygu rheolaeth ar gyfer teuluoedd ffermio, dan adain Menter a Busnes. Mae’n dod ag unigolion a theuluoedd at ei gilydd ar lefel leol er mwyn trafod a bwrw ymlaen â syniadau busnes.
“Bu’r criw wrthi’n cwrdd ac yn trafod, ac wedi ychydig o amser penderfynwyd mai mynd ati i greu seidr lleol oedd y freuddwyd. Diolch i Agrisgôp roedd modd cael cymorth a chydweithio gydag arbenigwyr megis Cymdeithas Perry a Seidr Cymru a Phroject Beacon Prifysgol Aberystwyth.”
Felly, ar ôl penderfynu ar y fenter, mynd ati i gasglu’r afalau, y broses fragi a’r poteli, sut mae mynd ati i farchnata Seidr Pisgah Chi? “Casglwyd a phroseswyd afalau lleol gan gynhyrchu 1,200 o boteli o seidr erbyn 2020 ac fe aethpwyd ati i’w hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol,” eglura Elen. “Croeso i chi ymweld â ni ar Seidr Pisgah Chi ar Facebook! Erbyn hyn roedd y busnes wedi ei sefydlu gyda help Business Wales a’r holl drwyddedau priodol yn ei lle, a gwerthwyd y cyfan oll o fewn ddeuddydd!”
Ar ôl cychwyn llwyddiannus dros ben, beth sydd ar y gweill nesaf ar gyfer y fenter? “Erbyn heddiw mae’r criw, sy’n cynnwys John Hopkins, Dilwyn Williams, Rhodri a Sion Davies a Dylan Jenkins yn edrych ymlaen at y dyfodol, gan gynhyrchu fwy o seidr wedi iddynt brynu offer eu hunain,” dywedodd Elen. “Mae’r profiad wedi bod yn un hwylus a buddiol tu hwnt, ac mae’r criw am ddiolch o waelod calon am y gefnogaeth maen nhw wedi ei gael gan yr ardal gyfan.
“Mae’r cynaeafu wedi gorffen am eleni, yr afalau wedi ei gwasgu ac wrthi’n ffrwtian yn dawel yn eu casgenni tan ddechrau’r flwyddyn - yn ara bach mae mynd yn bell medde nhw! Pwy a ŵyr le welwn ni boteli Seidr Pisgah Chi yn y dyfodol.”
Ie wir, pwy a ŵyr lle fydd poteli Seidr Pisgah Chi’n ymddangos nesaf, yn enwedig o weld y penderfyniad a’r angerdd sydd gan y criw i sicrhau bod nhw’n llwyddo, a hynny wrth fwynhau cwmni’i gilydd fel criw o ffrindiau, a hynny sydd wrth galon y fenter, yr elfen gymdeithasol sydd mor bwysig. Iechyd da!