“Mae Bil Amaethyddiaeth (Cymru) hanner ffordd yna”

gan Glyn Roberts, Llywydd UAC

Roedd Medi 26 yn ddiwrnod hanesyddol wrth i’r Bil Amaethyddiaeth gyntaf erioed i Gymru ynghyd â’i ddogfennaeth ategol gael ei osod gerbron y Senedd gan Weinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, cyn dadl yn y Senedd a drefnwyd i ddechrau ymhen tua thair awr o amser ysgrifennu’r golofn hon.

Mae’r Bil yn rhoi’r cyfle i ni ddatblygu polisïau ffermio a allai fod o fudd gwirioneddol i’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Bydd yn nodi’r ddeddfwriaeth gynhwysfawr ac yn sbarduno’r newid mwyaf i amaethyddiaeth yng Nghymru ers i’r DU ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.

Ers refferendwm Brexit, rydym wedi sefyll ein tir ac wedi dadlau o blaid ehangu egwyddorion Rheoli Tir yn Gynaliadwy i gynnwys cynaliadwyedd economaidd ein ffermydd teuluol, cynhyrchu cynaliadwy o fwyd olrheiniadwy diogel, diwylliant Cymru a’n hiaith sy’n rhoi ystyriaeth lawn i nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac amcanion Cymreig eraill.

Rydym felly’n falch o weld bod y Bil yn nodi pedwar amcan Rheoli Tir Cynaliadwy sy’n cynnwys cynhyrchu bwyd cynaliadwy a chynaliadwyedd yr iaith Gymraeg, a bydd gofyn i bob un ohonynt gyfrannu at y nodau llesiant.

Ynghlwm wrth y rhain bydd yna ofyniad bod gweinidogion Cymru yn paratoi ac yn cyhoeddi adroddiadau bob pum mlynedd yn nodi’r cynnydd a wnaed ers i’r amcanion ddod i rym, ac yn ystyried amcanion o’r fath wrth gyflwyno mecanweithiau neu reoliadau cymorth newydd.

Fodd bynnag, ar yr olwg gyntaf credwn fod y darn cynhwysfawr o ddeddfwriaeth ond wedi cyrraedd hanner ffordd at ddarparu sylfaen sefydlog i ddyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru gan fod llawer o’r pryderon a godwyd gennym yn ein hymateb i Bapur Gwyn Amaethyddiaeth (Cymru) Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth y llynedd yn parhau. 

Er nad yw’r rhestr o ddibenion y gellir darparu cymorth ar eu cyfer yn holl gynhwysfawr ac y gellir ei ddiwygio, ei ddileu ac ychwanegu ato, mae’n destun pryder nad yw llesiant economaidd busnesau fferm na’r Gymraeg wedi’u cynnwys yn benodol.

Rhaid i ni sicrhau bod tâl ac amodau byw priodol i ffermwyr a gweithwyr mewn amaethyddiaeth ac elw digonol ar fuddsoddiad cyfalaf yn y diwydiant yn cael eu cynnwys fel amcanion diffiniedig o’r Bil. Heb egwyddorion sylfaenol o’r fath, bydd amcanion eraill y Bil yn cael eu tanseilio neu eu negyddu’n llwyr.

Mae yna ddarpariaethau hefyd i gynyddu mynediad cyhoeddus i gefn gwlad, diffyg ystyriaeth i newydd-ddyfodiaid ifanc, a hepgor rheolau sy'n ymwneud â Safonau Gofynnol Cenedlaethol a Sancsiynau Sifil, a chredir y cânt eu gweithredu maes o law.

Bydd y Bil nawr yn symud ymlaen drwy Gam un o’r broses seneddol tan ddechrau 2023 a fydd yn cynnwys archwiliad gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd, ac yna’r Cyfnod Diwygio yn y Gwanwyn cyn pleidleisio arno yng Nghyfarfod Llawn y Senedd yn ddiweddarach y flwyddyn nesaf.

Rhaid i ni nawr werthuso’r 500 tudalen o ddeddfwriaeth, y Memorandwm Esboniadol a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol fel y gallwn ddod o hyd i’r manylion yn y print mân a pharhau i weithio gydag Aelodau’r Senedd a phwyllgorau perthnasol i sicrhau bod y Bil yn cyflawni ar gyfer sector ffermio cynaliadwy ffyniannus yma yng Nghymru.