Dyfodol amaethyddiaeth yn ddiogel yn nwylo’r ifanc

gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu’r Iaith Gymraeg

Rwy’n siŵr bod chithau fel minnau wedi mwynhau edrych ar luniau a darllen hanes ein swyddfeydd sirol yn mynd allan i’w hysgolion lleol i ddathlu Diwrnod Llaeth Ysgol y Byd yn ddiweddar.  

Mae cyfleoedd fel hyn yn hollbwysig er mwyn addysgu plant o oedran ifanc iawn lle yn union daw’r bwyd sydd ar eu plât bob dydd o. Fel Undeb rydym yn hynod o ffodus bod gennym aelodau sy’n fodlon gwneud yn union hynny, rhoi ychydig o’u hamser gwerthfawr er mwyn treulio amser gyda phlant ysgol i’w haddysgu am bwysigrwydd amaethyddiaeth a hyrwyddo holl fanteision y bwyd maent yn ei gynhyrchu.  

Un sy’n defnyddio’r ffaith ei fod yn ffermio un o atyniadau mwyaf poblogaidd Cymru, Y Gogarth yn Llandudno i fanteisio ar y cyfle i addysgu’r cyhoedd a phlant ysgol yw Dan Jones. Roedd Dan yn un o nifer o ffermwyr oedd yn rhan o’n hymgyrch Bwyd, Tir a Phobl llynedd, a oedd yn canolbwyntio ar amryw o faterion cynaliadwyedd, ac yn tynnu sylw at y gwaith cadarnhaol y mae ffermwyr yng Nghymru yn ei wneud i fynd i’r afael â nodau datblygu cynaliadwyedd. 

Yn ogystal ag addysgu pobl ar bob cyfle posib, mae Dan, aelod o’r Undeb yng Nghaernarfon, hefyd yn croesawu’r ysgol leol yn Llandudno ar ymweliad a’i fferm ar y Gogarth yn flynyddol er mwyn addysgu’r plant am bwysigrwydd ffermio ac i esbonio’n union le daw bwyd o. Mae Dan newydd groesawu’r ysgol yn ôl eleni, a chafodd Cornel Clecs gyfle i gael sgwrs gydag ef am yr ymweliad.

“Un o’r heriau rwy’n ei wynebu ar fy fferm, ac o fewn y diwydiant ffermio yn ei gyfanrwydd, yw’r cydbwysedd rhwng rhedeg busnes preifat ac addysgu’r cyhoedd am faterion ffermio a chynhyrchu bwyd,” eglura Dan. “Ar un llaw, mae ffermio a bywyd gwledig yn cynnig caeau gwyrdd, awyr iach a’r gallu i fwrw ymlaen â’ch gwaith yn annibynnol, ac mae’n ffordd o fyw. Ar y llaw arall, mae’n fwyfwy pwysig addysgu pobl am gynhyrchu bwyd a sut mae ffermio’n llunio cefn gwlad a mannau gwyrdd sy’n cael eu mwynhau gan gynifer.

“Wythnos diwethaf cawsom ein hymweliad blynyddol gan yr ysgol gynradd leol, Ysgol San Siôr, ysgol natur-gyfeillgar sydd â Chlwb Eco ar ôl ysgol, menter wyau a chychod gwenyn. Mae hwn bob amser yn fore llawn hwyl gyda disgyblion brwdfrydig Blwyddyn 1 yn gwneud y daith i fyny’r allt o Landudno. 

“Diolch byth roedd y tywydd yn garedig a’r siacedi pac-a-mac a’r welingtons gliter yn addas ar gyfer y daith fferm hon. Mae gan blant ffordd adfywiol o fod yn hollol uniongyrchol, rhywbeth fel oedolion y gallem ddysgu oddi wrtho. Y cwestiwn cyntaf i’r grŵp o blant 5 a 6 oed a oedd yn gwrando’n eiddgar oedd “Pam rydyn ni’n ffermio?” Daeth ateb ar unwaith “Er mwyn i ni gael bwyd i’w fwyta”. Gwnaeth yr ateb yna argraff arnaf, gofynnais pwy oedd wedi siarad â hi ynghylch o ble mae bwyd yn dod, yr ateb “Mam”. Roedd y ffaith bod rhieni yn rhannu gwybodaeth werthfawr gyda’u plant yn gadael argraff fawr arnaf, a gofynnais beth yw enw dy fam. Yr ateb:- “Mam”!

“Un o uchafbwyntiau’r ymweliad yw gwylio Tian y ci defaid yn hel grŵp o famogiaid sy’n cael eu dewis yn arbennig (mae’r rhai sy’n creu helynt yn cael eu gadael yn ddiogel yn y gorlan!) Rwy’n ceisio ail-greu stori “Y Ddafad Golledig” lle mae dafad yn ailymuno a’i phraidd. Dros y blynyddoedd, bu ambell dro yn y stori. Chwalwyd y disgwyliadau uchel llynedd pan ddihangodd y ddafad goll cyn yr amser iawn yn y stori! Eleni fodd bynnag, er mawr lawenydd i’r plant ac er mawr ryddhad i mi, ailymunodd y ddafad â’r praidd. Ac wrth gwrs, Tian yw’r arwr ac yn cymryd yr holl glod.

“Wrth ffarwelio â’r dosbarth a nôl Tian oddi ar y bws, meddyliais am ba mor werth chweil oedd y bore wedi bod. Er bod Llandudno yn dref glan môr ac nad yw’n enwog am ei chysylltiadau cryf â’r gymuned ffermio, mae’n braf siarad â’r bobl ifanc hyn am ffermio, bwyd a’r amgylchedd a gwybod bod ganddynt ddealltwriaeth dda o’r pwnc hwn eisoes. Mae’r math hwn o ymgysylltu â’r cyhoedd yn hynod werthfawr a gobeithio y bydd yn helpu i bontio’r bwlch rhwng ffermwyr a’r genhedlaeth nesaf.”

Diolch yn fawr i chi Dan am rannu’r stori fach hyfryd yna gyda ni, ac mae’n profi bod y berthynas rhwng ffermwyr a’r genhedlaeth nesaf yn cryfhau o hyd, a bod plant gwirioneddol yn awchu am wybod mwy am ein ffordd o fyw fel ffermwyr, ac weithiau wrth gwrs, mae yna bethau allwn ni gyd ddysgu wrthyn nhw hefyd - gan y gwirion y ceir y gwir!