2022 - blwyddyn sydd wedi’n cadw ar flaenau’n traed!

Mae amser wir yn hedfan!  Mae 2022 wedi bod yn flwyddyn heriol a phrysur arall i Grŵp UAC a rhaid i mi ddiolch i’r holl staff a swyddogion am eu gwaith caled parhaus yn sicrhau bod gennym ni ffermydd teuluol ffyniannus a chynaliadwy yng Nghymru. Rydym wedi ffarwelio ag ambell wyneb cyfarwydd eleni a diolchaf i’r cyn-aelodau o staff sydd wedi gwasanaethu’r Undeb yn ddiwyd ers cymaint o flynyddoedd, gyda diolch arbennig i Peter Davies.

Mae’r pynciau yr ydym wedi ymdrin â hwy wedi bod eang, yn amrywio o faterion bachu tir, y rheoliadau ‘NVZ’, pryderon iechyd anifeiliaid, newid hinsawdd a thargedau plannu coed, y Bil Amaethyddiaeth gyntaf erioed i Gymru a fydd yn newid sut yr ydym yn ffermio am genedlaethau i ddod, yn ogystal â llawer o helyntion gwleidyddol yn San Steffan. Mae’n deg dweud inni gael ein cadw ar flaenau’n traed trwy gydol y flwyddyn.

Mae 2022 wedi bod yn her i economi’r DU gyda chyfraddau chwyddiant yn parhau i gynyddu’r pwysau ar aelwydydd yn ogystal â busnesau a chynhyrchwyr bwyd yn arbennig. Ar ddechrau’r flwyddyn, rhybuddiodd ein Pwyllgor Llaeth nad oedd y prisiau ynni cynyddol – ac sy’n wir o hyd, yn gynaliadwy i’r sector. Daeth y rhybudd yn syth ar ôl adroddiadau gan ffermwyr llaeth bod costau ynni yn codi hyd at £1,000 y mis.

Cynhalion gyfarfod adeiladol gyda Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Lesley Griffiths i dynnu sylw at, a thrafod camau y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd i liniaru effeithiau rhyfel Rwsia ar y Wcráin.  Rhybuddion ni nôl ym mis Mawrth fod y rhyfel yn cael, ac y byddai’n parhau i gael effeithiau mawr ar ein cadwyni cyflenwi bwyd a chostau mewnbwn, yn enwedig gan fod y DU yn dibynnu ar y Wcráin a Rwsia am tua thri deg y cant o’i chorn, yn ogystal â nifer o gynhwysion arall sy’n cael eu defnyddio ar gyfer porthiant anifeiliaid, a gwrtaith, a oedd ar y pryd tua mil o bunnoedd y dunnell.

O ganlyniad, lansiwyd ein Cynllun 5 Pwynt ar gyfer Llywodraethau’r DU ac mae’n hollbwysig ei fod yn cael ei weithredu er mwyn lleddfu’r pwysau ar ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd a chwsmeriaid yn y tymor byr, wrth hybu diogelwch ein cyflenwad o fwyd ac ynni mewn ffyrdd sy’n lleihau’r peryglon hirdymor o amlygiad i argyfyngau byd-eang.

Felly, croesawon gyhoeddiad Llywodraeth y DU ym mis Medi a oedd yn amlinellu cynlluniau i helpu i dorri biliau ynni busnesau, ond rhybuddion y gallai fod wedi bod yn rhy ychydig yn rhy hwyr i rai. Bydd yn cymryd blynyddoedd i fusnesau adfer yn llwyr ar ôl yr argyfwng ynni parhaus a’r cyfraddau chwyddiant presennol, ac ar ôl i’r pecyn cymorth gael ei gyhoeddi, anogon Lywodraeth y DU i ymestyn y capiau prisiau ar gyfer busnesau y tu hwnt i fis Mawrth 2023.

Wrth siarad am gymorth ariannol, croesawon gyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd cyllideb taliadau uniongyrchol 2022 yn cael ei chynnal ar lefelau 2020 a 2021. Roedd penderfyniad y Gweinidog yn cydnabod pwysigrwydd y gyllideb cymorth uniongyrchol nid yn unig i’r oddeutu 16,000 o fusnesau fferm sy’n dibynnu arni, ond hefyd y degau o filoedd lawer mwy o fusnesau sy’n elwa o’r taliadau hyn.

Rhannon rwystredigaeth a dicter Llywodraeth Cymru bod addewid Llywodraeth y DU i ddisodli cyllid yr UE yn llawn wedi’i dorri. Roedd ffermwyr Cymru eisoes wedi colli £137 miliwn o ganlyniad i adolygiad gwariant Hydref 2020, ac ym mis Tachwedd 2021 cyhoeddwyd y byddai’r gyllideb ar gyfer amaethyddiaeth yn cael ei thorri o £106 miliwn bellach o gymharu â’r hyn a addawyd.

Mae’r Undeb hefyd wedi bod yn rhagweithiol wrth fynd i’r afael â’r duedd bryderus o dir fferm Cymru yn cael ei werthu i fuddsoddwyr sy’n ceisio manteisio ar y farchnad garbon gynyddol a phrisiau coed uchel. Mae coedwigo hefyd yn cael ei yrru gan gyfuniad o dargedau Sero Net, galw cynyddol am wrthbwyso carbon a thargedau plannu coed Llywodraeth Cymru.

Er mwyn helpu i fynd i'r afael â phryderon ynghylch y duedd hon, cynhalion gweminar brecwast arbennig yn ôl ym mis Ionawr. Clywsom gan ymgyrchydd 50 Shades of Green o Seland Newydd, Mike Butterick, sydd hefyd yn ffermwr bîff a defaid yn Wairarapa. Amlinellodd Mr Butterick sut mae buddsoddwyr marchnad garbon yn Seland Newydd yn achosi colled anghynaladwy o dir fferm i blanhigfeydd cyffredinol o binwydd egsotig heb eu cynaeafu.

Mae UAC wedi gweld ffigurau sy’n dangos bod 75% o’r ceisiadau coedwigo yng Nghymru ar gyfer dros 50 hectar o blannu yn dod gan elusennau a chwmnïau preifat sydd wedi’u lleoli yn Lloegr, gyda chynnydd o 450% mewn ceisiadau coedwigo Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (AEA) i Gyfoeth Naturiol Cymru rhwng 2015 a 2021. Dim ond 20% o geisiadau oedd gan unigolion preifat neu fusnesau wedi'u lleoli yng Nghymru. Rydym yn benderfynol bod rhaid cyrraedd Net Sero fel diwydiant a gwlad gyda ffermio’n rhan o’r ateb.

Roeddem hefyd yn gadarn yn ein hymateb o ran TB mewn gwartheg a mynegwyd pryder mawr gennym fod ymgynghoriad Rhaglen Ddiwygiedig ar gyfer Dileu TB Llywodraeth Cymru wedi’i lunio heb unrhyw asesiad o effeithiau’r cynigion ar lawr gwlad. Fe wnaethom hefyd amlygu y byddai’r cynnig i symud i werthoedd tabl cyfartalog ar gyfer iawndal TB wedi lleihau’r iawndal a gafodd y diwydiant yn 2020 - 2021 tua £5 miliwn.

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fabwysiadu dull cyd-gynhyrchu wrth ddatblygu polisïau TB mewn gwartheg yn y dyfodol yn dilyn ymchwiliad gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i’r ymgynghoriad diweddaraf ar Raglen Ddiwygiedig ar gyfer Dileu TB. Gwnaeth adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig , a gyhoeddwyd ym mis Mai, gyfanswm o 14 o argymhellion i Lywodraeth Cymru yn dilyn yr ymchwiliad. Roedd y rhain yn cynnwys sicrhau bod y diwydiant yn bartneriaid cyfartal wrth ddatblygu polisi, cynnal ymchwil pellach ar drosglwyddo TB rhwng bywyd gwyllt a gwartheg a chynnal asesiad effaith manwl ar newidiadau posibl i’r drefn profi TB.

Cyn Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynigion diweddaraf ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yng Nghymru yn y dyfodol a osododd yr agenda ar gyfer nifer o gyfarfodydd yn ystod yr wythnos brysur yn Llanelwedd.

Ym mis Tachwedd, gwnaethom ymateb yn ffurfiol i’r cynigion ar ôl ymgynghori’n helaeth â’n haelodau ledled Cymru, gan bwysleisio, er bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud, fod rhai pryderon a rhwystrau mawr yn parhau.

Gyda dyfodol polisi amaethyddol mewn golwg, gwelsom ddrafft cyntaf Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn cael ei osod gan y Gweinidog Lesley Griffiths gerbron y Senedd ynghyd â’i ddogfennaeth ategol ym mis Medi.

Mae’r Bil hwn, os caiff ei gynllunio’n briodol, yn gyfle i ddatblygu polisïau ffermio sydd wedi’u teilwra ar gyfer anghenion y rhai sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru ac sy’n sail i’r newid mwyaf i amaethyddiaeth yng Nghymru ers i’r DU ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.

Ers refferendwm Brexit, rydym wedi sefyll ein tir ac wedi dadlau dros ehangu egwyddorion Rheoli Tir yn Gynaliadwy (SLM) i gynnwys cynaliadwyedd economaidd ein ffermydd teuluol, cynhyrchu bwyd olrheiniadwy diogel a chynaliadwy, diwylliant Cymru a’n hiaith.

Roeddem yn falch felly o weld bod y Bil yn nodi pedwar amcan Rheoli Tir yn Gynaliadwy sy’n cynnwys cynhyrchu bwyd cynaliadwy a chynaliadwyedd y Gymraeg, a bydd gofyn i bob un ohonynt gyfrannu at y nodau llesiant.

Fodd bynnag, mewn sesiwn dystiolaeth Pwyllgor Amgylchedd, Masnach a Materion Gwledig (ETRA) a gynhaliwyd yng Nghaerdydd, adnewyddon ein galwad am ychwanegu pumed amcan ym Mil Amaethyddiaeth (Cymru) sy’n ceisio’n benodol sicrhau bod economeg a hyfywedd fferm yn cael eu cwmpasu o dan fframwaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Symud ymlaen wedyn at Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru), croesawyd cyhoeddiad adolygiad Pwyllgor Amgylchedd, Masnach a Materion Gwledig o'r rheoliadau 'NVZ' a oedd yn ystyried y pryderon a godwyd gennym yn ein tystiolaeth ysgrifenedig a llafar - a gwnaethom alw i’r argymhellion gael eu gweithredu’n llawn.

Trodd ein sylw wedyn at sicrhau bod Llywodraeth Cymru, a Phlaid Cymru fel rhan o’r cytundeb cydweithredu, yn rhoi’r sylw haeddiannol i’r adroddiad wrth ymateb i argymhellion y pwyllgor gan geisio lliniaru canlyniadau difrifol y rheoliadau

Cyn y ddadl, cynigiodd datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Lesley Griffiths, a oedd yn nodi’r bwriadau i ohirio gweithredu’r terfyn nitrogen blynyddol fferm gyfan o 170kg fesul hectar ac ymgynghori ar gynllun trwyddedu i gynyddu’r terfyn hwnnw, gyfle i ddylanwadu ar newid.

Roedd y datganiad yn cydnabod, o ganlyniad i ansicrwydd, y bydd rhai busnesau fferm wedi oedi cyn gwneud penderfyniadau buddsoddi a gwneud y paratoadau angenrheidiol.

I gydnabod yr amgylchiadau hyn, nododd y Gweinidog ei bwriadau i ymgynghori ar gynllun trwyddedu'r hydref hwn i fod yn weithredol tan 2025 a darparu estyniad byr i weithredu terfyn nitrogen y fferm gyfan o 170kg yr hectar tan fis Ebrill 2023.

Fodd bynnag, dim ond un rheoliad yw hwn allan o bedwar deg chwech a nodir yn y darn hwn o ddeddfwriaeth, ac felly rhaid ystyried goblygiadau hirdymor y rheoliadau hyn yn eu cyfanrwydd i’n haelodau.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu £20 miliwn ychwanegol mewn cyllid ychwanegol i gefnogi cydymffurfiaeth â’r rheoliadau, ac yn cyflymu ei gwaith i annog atebion technolegol amgen posibl gan ddefnyddio mecanwaith Rheoliad 45.

Swm pitw iawn yw’r cyllid ychwanegol pan ystyriwn fod y costau seilwaith posibl i ffermwyr Cymru bellach dros £450 miliwn o ystyried y cyfraddau chwyddiant presennol o 25% ar gyfer deunyddiau adeiladu.

Fodd bynnag, o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio mecanwaith Rheoliad 45 i ystyried atebion technolegol amgen posibl i reoliadau penodol, ac y bydd yn ystyried canlyniad yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol penodol, ac yn ofynnol i adolygu effeithiolrwydd y rheoliadau ym mis Ebrill 2025, rydym yn parhau i gredu’n gryf y dylid gohirio’r rheoliadau sydd i’w cyflwyno ym mis Awst 2024 hefyd.

Er y bydd y cyhoeddiad hwn yn rhoi rhywfaint o seibiant i ffermwyr Cymru dros y ddwy flynedd nesaf, mae’n warthus disgwyl i ffermwyr Cymru adeiladu storfeydd slyri newydd erbyn mis Awst 2024 gyda chymorth y cyllid ychwanegol, dim ond i Lywodraeth Cymru ystyried a gweithredu technolegau amgen yn 2025 a allai wedyn negyddu’r angen am gyfnodau caeedig a gosod capasiti storio slyri yn y dyfodol.

Cyflwynwyd hefyd gyfres o fesurau amgen i’r rheoliadau a oedd yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried gohirio’r rheoliadau er mwyn lleddfu’r pwysau ar ffermwyr; ystyried ffactorau eraill megis y goblygiadau ariannol i fusnesau ffermio wrth adolygu’r rheoliadau a defnyddio technolegau i ganiatáu ar gyfer symud oddi wrth ofynion storio penodedig a chyfnodau caeedig penodol, ochr yn ochr â nifer o gynigion eraill.

Tua diwedd mis Ebrill disgrifion gynlluniau i ohirio archwiliadau ar y ffin ar nwyddau a fewnforiwyd o’r UE am y pedwerydd tro fel ‘gwarth byd-eang’ gan ddweud y bydd y cam yn ymestyn consesiynau i fusnesau tramor a allai ‘hefyd gael eu hanelu’n fwriadol at danseilio ffermwyr a chynhyrchwyr y DU'.

Dylai gwiriadau ar fewnforion o’r UE fod wedi’u cyflwyno’n wreiddiol ym mis Ionawr 2021 pan ddaeth cyfnod pontio Brexit i ben, ond roedd methiant llywodraethau’r DU i baratoi safleoedd archwilio ffiniau yn golygu na chawsant eu gweithredu bryd hynny ac maent wedi’u gohirio deirgwaith yn y 28 mis dilynol. Roedd gwledydd yr UE yn drefnus a dechreuon nhw weithredu gwiriadau llawn ar ein hallforion o’r DU ar Ionawr 1 2021. Ac eto er ei bod yn fwy na phum mlynedd ers i Theresa May gyhoeddi bod Llywodraeth y DU yn bwriadu dilyn polisi Brexit caled, a byddai angen archwiliadau ar y ffin, nid yw'r DU yn barod o hyd.

Ar yr un pryd, mae Llywodraeth y DU yn parhau i fynd ati i lofnodi cytundebau masnach rydd ag Awstralia a Seland Newydd y mae eu ffigurau eu hunain yn cadarnhau y byddant yn niweidiol i’n sectorau bwyd a ffermio ac yn tanseilio ein diogelwch bwyd.

Nid oes angen inni edrych ymhellach na’r hyn sy’n digwydd yn y Wcráin ac mewn perthynas â chyflenwadau nwy a thanwydd i weld pa mor gyflym y gall pethau newid ar y llwyfan byd-eang, ac eto mae polisi masnach Llywodraeth y DU yn tanseilio diogelwch ein cyflenwad bwyd yn ddi-hid drwy symud dibyniaeth i wledydd sydd ddegau o filoedd o filltiroedd i ffwrdd.

Gwnaethom hefyd ailadrodd ein pryderon am gytundeb fasnach bresennol Awstralia a’i heffeithiau ar amaethyddiaeth y DU wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig Senedd Cymru. Mae yna bryder naturiol bod rhyddfrydoli’r fasnach nwyddau amaethyddol yn llawn yn peryglu dadleoli cynhyrchiant bwyd Cymru a’r DU.

Er bod asesiad effaith Llywodraeth y DU yn awgrymu colled amcangyfrifedig o £29 miliwn mewn allbwn gros ar gyfer sectorau cig eidion a defaid Cymru, mae angen ystyried hyn yn y cyd-destun bod cytundeb y DU-Awstralia yn debygol o osod cynsail ar gyfer cytundebau masnach yn y dyfodol. Mae’r effaith gronnol y byddem yn ei disgwyl o gytundebau masnach â gwledydd fel Seland Newydd ac eraill o fewn y Bartneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar Gwledydd y Môr Tawel (CPTPP) yn golygu bod £29 miliwn wedyn yn dod yn llawer mwy, yn y tymor hwy o leiaf.

Gwnaethom hefyd fanteisio i’r eithaf ar y cyfle i roi tystiolaeth i bwyllgor Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd) ar Hydref 12. Er bod y Bil Masnach yn cyfeirio’n benodol at adrannau caffael y cytundebau masnach ac, os cânt eu pasio, hwn fydd y darn olaf o’r jig-so i Lywodraeth y DU gadarnhau’r cytundebau, serch hynny rhoddodd cyfle inni leisio ein pryderon ynghylch effeithiau posibl a’r broses graffu bresennol.

Os gall cynhyrchwyr Seland Newydd ac Awstralia wneud cais am gontractau caffael yn y DU, mae'n gweithredu fel cymhelliant pellach i orlifo ein marchnadoedd domestig. Mewn gwirionedd, mae’n annhebygol y byddai cynhyrchwyr y DU yn gallu cystadlu am gytundebau caffael yn eu gwledydd oherwydd gwahaniaethau mewn maint a dulliau cynhyrchu, ond mae hyn yn pwysleisio’n syml pa mor bwysig yw cyfeirio polisïau caffael yn y DU at gynnyrch Cymreig a Phrydeinig. 

Mae angen i Aelodau Seneddol sicrhau bod y craffu ar unrhyw gytundebau masnach yn y dyfodol yn effeithiol fel nad yw eu pwerau fel Gwleidyddion yn cael eu tanseilio. Mae’r ffaith na chafodd y llywodraeth gyfle i gynnal dadl o dan broses CRaG, a bod yn rhaid i’r Bil Masnach hwn gael ei basio er mwyn newid y gyfraith ddomestig i fod yn unol â’r hyn a gytunwyd, ac i gadarnhau’r cytundebau, yn dangos pa mor frysiog a difeddwl y bu'r broses graffu.

Ategwyd ein pryderon gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar y pryd, George Eustice, a ddywedodd yn fwy diweddar wrth ASau yn y Senedd fod y DU “wedi rhoi llawer gormod i ffwrdd yn gyfnewid am ychydig iawn” er gwaethaf dechrau trafodaethau “gyda’r dylanwad cryfaf posib” a bod y trafodwyr wedi cael eu tanseilio gan y cyn Weinidog Liz Truss pan fynnodd bod cytundeb gydag Awstralia yn cael ei gytuno cyn uwchgynhadledd y G7 yng Nghernyw ym mis Mehefin 2021 – gan gadarnhau popeth y mae UAC wedi’i ddatgan drwyddi draw.

Mae ein hymgysylltiad gwleidyddol wedi bod ar ei anterth eto eleni, gan gyfarfod yn rheolaidd â chynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol yn y Senedd ac ASau Cymreig a Gweinidogion y Llywodraeth.

O ran San Steffan, cytundebau masnach, marchnad yr Unol Daleithiau ar gyfer cig oen a chynhyrchu bwyd cynaliadwy oedd ar frig yr agenda pan gyfarfu swyddogion UAC â’r Is-ysgrifennydd Seneddol (Swyddfa Cymru) ac AS Sir Fynwy David TC Davies, cynrychiolydd Swyddfa Cymru yn y Tŷ Arglwyddi, y Farwnes Bloomfield, yr Arglwydd Wigley, ac edrychwn ymlaen at gyfarfod â'r Arglwydd Morris o Aberafan yn y flwyddyn newydd.

Yn ogystal â chyfarfod ag ASau yn San Steffan a Bae Caerdydd, rydym hefyd wedi achub ar y cyfle i groesawu cynrychiolwyr i ffermydd aelodau ac wedi defnyddio ein presenoldeb yng nghynadleddau Llafur Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru i wneud yn siŵr bod llais ffermio Cymru yn cael ei glywed.

Ar faterion datganoledig, cawsom gyfarfod â Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething i drafod y cyfraniad hanfodol y mae amaethyddiaeth yn ei wneud nid yn unig i’r economi wledig ehangach ond hefyd i economi Cymru yn ei chyfanrwydd. Yn ogystal â chwrdd â’r Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles, lle bu inni ailadrodd arwyddocâd y Gymraeg mewn llawer o gymunedau gwledig ledled Cymru a pha mor bwysig fydd ffermwyr a’r diwydiant amaethyddol i gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg.

Buom hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd â’r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths, a’r ddau lefarydd amaethyddol yr wrthblaid, Mabon ap Gwynfor AS dros Blaid Cymru a Sam Kurtz AS dros y Ceidwadwyr, gan godi’r materion sydd fwyaf pwysig i’n haelodau drwy gydol y flwyddyn. Gan gynnwys rhybuddio am effeithiau’r goresgyniad Rwsieg o’r Wcráin ac awgrymu mesurau lliniaru, yn ogystal â’r Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol), cyd-gynllunio parhaus y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a Bil Amaethyddiaeth (Cymru).

Ar ben hynny, rydym hefyd wedi codi’r materion hyn mewn cyfarfodydd di-rif gydag Aelodau Seneddol, ASau a Chynghorwyr yn ogystal ag ymgysylltu ar lefel leol boed mewn Sioe neu’r farchnad leol, i drafod y materion sy’n wynebu pob un o’n siroedd.

Wrth i’r flwyddyn hon dynnu at ei therfyn a ninnau’n dechrau paratoi ar gyfer cyfleoedd, a heb amheuaeth, heriau 2023, edrychaf ymlaen at weld staff UAC ac FUWIS yn cymryd rhan unwaith eto yn her Run1000 ym mis Ionawr, a bydd y manylion yn cael eu rhannu ar ddechrau’r flwyddyn newydd. Mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn ystod y blynyddoedd blaenorol ac rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o un o’r heriau cerdded a rhedeg mwyaf, sy’n anelu at ysbrydoli cymunedau gwledig i fynd i gefn gwlad i helpu i wella eu hiechyd meddwl.

Bydd timau UAC ar draws y wlad hefyd yn cynnal amrywiaeth o frecwastau ffermdy, sy’n rhoi cyfle i hyrwyddo’r cynnyrch lleol o’r safon gorau posib y mae ffermwyr yn ei ddarparu ar ein cyfer bob dydd o’r flwyddyn, a thrwy gydol yr wythnos frecwast byddwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd ein heconomi wledig, fel y gwnaethom eleni ac y byddwn yn ei wneud am flynyddoedd lawer i ddod.

Mae'r digwyddiadau hyn wrth gwrs hefyd yn codi arian hanfodol ar gyfer ein hachos elusennol sef Sefydliad y DPJ. Cadwch olwg am fanylion yn y flwyddyn newydd am frecwast sy'n digwydd yn agos atoch chi!

Ar nodyn olaf eleni, hoffwn ddiolch i’n Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp Guto Bebb, ein holl staff ar draws grŵp UAC, ein swyddogion a’n cadeiryddion am eu holl waith caled drwy gydol y flwyddyn. Yn ystod blwyddyn brysur arall o weithio hybrid rwy’n meddwl bod pawb wedi gwneud gwaith anhygoel wrth wasanaethu ein haelodau, lobïo a thynnu sylw at y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud ar ran aelodau a chwsmeriaid. Byddaf yn codi gwydraid i chi gyd ar ddydd Nadolig gan obeithio y cewch chi fwynhau Nadolig heddychlon a Llawen a dymunaf y gorau i chi ar gyfer y Flwyddyn Newydd.