gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu’r Iaith Gymraeg
Ydych chi’n gwybod lle mae Llain Isaf, Llain Uchaf, Cae Bach, Banc, Cae Pant Bach a Cae Ffynnon? Mae’n debygol iawn eich bod chi ddim yn gwybod yr ateb i’r cwestiwn yna, gan mae enwau rhai o’n caeau ni yma ar y fferm yw’r rhain.
Nid ydynt yn golygu dim i neb arall, ond i ni mae’r enwau hyn yn rhan naturiol o drefn a sgwrs ddyddiol y fferm. Mae gan bob parsel bach o dir enw penodol ac ystyr tu ôl i’r enw hynny. Er enghraifft, cae Ffynnon - mae’r ateb yn syml mae’n siŵr...mae yna ffynnon ddŵr ar waelod y cae hynny wrth gwrs. Beth am Llain Isaf a Llain Uchaf? Mae’r ateb yma yn syml hefyd yn dyw e?! Dyma ddwy lain hir a thenau o dir sy’n rhedeg yn gyfochrog a’r afon sy’n rhedeg o’r mynydd lawr am y môr heibio gwaelod lôn ein fferm ni yma.
Ychydig flynyddoedd yn ôl, mi gymerais ddeng munud i gofnodi enwau’r caeau ar Ffurflen y Taliad Sengl. Roedd dau reswm am hyn. Yn gyntaf, nawr mae’n haws taclo’r ffurflen wrth weld enwau caeau penodol yn hytrach na set o lythrennau a rhifau. Yn ail, mae’r enwau yna bellach lawr ar gof a chadw, ac yn fodd i gael eu trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf, yn yr un modd y trosglwyddwyd yr enwau i’r genhedlaeth yma.
Ond beth sydd wedi arwain at y drafodaeth yma ar enwau caeau rwy’n clywed chi’n gofyn? Wel, ychydig wythnosau nôl, cyhoeddodd Y Lolfa lyfr newydd o dan y teitl Cerdded y Caeau gan yr awdures Rhian Parry, sef cyfrol arloesol sy’n ymateb i’r diddordeb cynyddol mewn enwau lleoedd yng Nghymru.