gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu’r Iaith Gymraeg
Ydych chi’n gwybod lle mae Llain Isaf, Llain Uchaf, Cae Bach, Banc, Cae Pant Bach a Cae Ffynnon? Mae’n debygol iawn eich bod chi ddim yn gwybod yr ateb i’r cwestiwn yna, gan mae enwau rhai o’n caeau ni yma ar y fferm yw’r rhain.
Nid ydynt yn golygu dim i neb arall, ond i ni mae’r enwau hyn yn rhan naturiol o drefn a sgwrs ddyddiol y fferm. Mae gan bob parsel bach o dir enw penodol ac ystyr tu ôl i’r enw hynny. Er enghraifft, cae Ffynnon - mae’r ateb yn syml mae’n siŵr...mae yna ffynnon ddŵr ar waelod y cae hynny wrth gwrs. Beth am Llain Isaf a Llain Uchaf? Mae’r ateb yma yn syml hefyd yn dyw e?! Dyma ddwy lain hir a thenau o dir sy’n rhedeg yn gyfochrog a’r afon sy’n rhedeg o’r mynydd lawr am y môr heibio gwaelod lôn ein fferm ni yma.
Ychydig flynyddoedd yn ôl, mi gymerais ddeng munud i gofnodi enwau’r caeau ar Ffurflen y Taliad Sengl. Roedd dau reswm am hyn. Yn gyntaf, nawr mae’n haws taclo’r ffurflen wrth weld enwau caeau penodol yn hytrach na set o lythrennau a rhifau. Yn ail, mae’r enwau yna bellach lawr ar gof a chadw, ac yn fodd i gael eu trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf, yn yr un modd y trosglwyddwyd yr enwau i’r genhedlaeth yma.
Ond beth sydd wedi arwain at y drafodaeth yma ar enwau caeau rwy’n clywed chi’n gofyn? Wel, ychydig wythnosau nôl, cyhoeddodd Y Lolfa lyfr newydd o dan y teitl Cerdded y Caeau gan yr awdures Rhian Parry, sef cyfrol arloesol sy’n ymateb i’r diddordeb cynyddol mewn enwau lleoedd yng Nghymru.
Mae Cerdded y Caeau, sy’n gyfrol clawr caled wedi ei ddarlunio’n hardd gan luniau a mapiau, yn benllanw gwaith oes sy’n astudiaeth o enwau yn ardal Ardudwy, ond yn cynnig patrwm i unrhyw un sydd am olrhain enwau caeau yn eu hardal.
Datblygodd y gyfrol o ymchwil doethuriaeth yr awdur ac ynddi fe ddadlennir sut y gall yr ystyr y tu ôl i enwau lleoedd, ffermydd a chaeau uno tirwedd, hanes lleol a diwylliant Cymru gyfan. Dangosodd ffrwyth ymchwil Rhian Parry fod y mwyafrif o’r enwau ffermydd a chaeau yn hynafol iawn, hyd at chwe chanrif oed a mwy.
Magwyd Rhian yng Nghaer ac yna ym Mhenmon. Yn dilyn gyrfa mewn addysg a’r gwasanaeth sifil hŷn, cychwynnodd ar ymchwil dan gyfarwyddyd yr Athro Gwyn Thomas ym Mangor. Ar ôl ennill ei doethuriaeth, defnyddiodd ei hymchwil i rannu ei gwybodaeth â’r cyhoedd. Lluniodd a hwylusodd brosiectau a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, yn gyntaf i Gymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd ac yna i Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. Bu’n gyfrifol am yr ymchwil i ddwy gyfres o Caeau Cymru ar S4C, ac yn gyd-gyflwynydd. Dychwelodd i Fôn yn ddiweddar.
Dyma ychydig o eiriau gan Rhian yn sôn am gefndir Cerdded y Caeau: “Dim ond drwy gerdded y caeau y gallwn sylwi ar nodweddion y tir a sylweddoli bod yr enw a ddewiswyd yn hollol addas. Weithiau, mae enw hynafol yn ein cyffwrdd oherwydd cyd-destun ei leoliad, fel Cae Saffrwn yng Nglynebwy. Pwy fyddai’n disgwyl gweld crocws mewn dyffryn mor ddiwydiannol?”
“Mae enw’n fwy na label. Yn wir gallwn gyffwrdd â ‘hen bethau anghofiedig dynol ryw’ mewn enw. Bydd rhai enwau hynafol yn gyrru ias i lawr asgwrn fy nghefn, teimlad tebyg iawn i’r hyn a gaf wrth gyffwrdd â maen hir yn uwchdir Ardudwy. Teimlad anghyfarwydd, diflanedig a bron iawn bellach na fyddaf yn cyffwrdd ag atgof rhywbeth,” meddai Rhian.
Mae enwau o bob math yn gwegian dan fygythiad newidiadau cymdeithasol ac yn diflannu’n gyflym iawn. Gobeithir bod y gyfrol yma, ynghyd â gwaith gan sefydliadau fel Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, yn gofnod i’r dyfodol, yn ail-gyflwyno enwau sydd erbyn hyn yn angof ac yn ysbrydoli astudiaethau tebyg dros Gymru.
Wrth gofio nôl i’r ysbrydoliaeth a arweiniodd at gân fuddugol Cân i Gymru Rhydian Meilir Pughe yn Cornel Clecs mis diwethaf, pan fu’n sôn am ei hoff le ar y fferm i gymryd seibiant o fwrlwm a phrysurdeb bywyd, beth am gymryd pum munud, chwilio am lecyn tawel ar y fferm a mynd ati i gofnodi enwau’r caeau, mae’n siŵr bydd modd i chi egluro ystyr enwau cryn dipyn o’r caeau heb lawer o waith ymchwil, ac mae’n ffordd hwylus iawn o drosglwyddo darn bach o wybodaeth i’r genhedlaeth nesaf.