gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu’r Iaith Gymraeg
Ni fyddai’n bosib ysgrifennu Cornel Clecs y mis hwn heb gyfeirio at Dai Llanilar. Fel un o blant yr 80au, gwylio Cefn Gwlad ar S4C fyddai’r hanner awr euraidd bob wythnos. Sicrhau bod swper wedi gorffen, a fiw i neb ffonio adeg Cefn Gwlad, byddai’r ffôn yn cael ei gadael i ganu!
Un o’r troeon diwethaf i mi weld Dai oedd mewn maes parcio yn Aberystwyth cyn cyfnod Covid. Roedd yn eistedd yn y Discovery yn aros i Olwen ddychwelyd o siopa, ac er nad oeddwn wedi ei weld ers tro cyn hynny, wyddech chi byth o hynny, oherwydd roedd y sgwrs mor ffres a petai ni wedi gweld ein gilydd y diwrnod cyn hynny.
Un o rinweddau anwylaf Dai oedd wastad gofyn am y teulu, ac am eiliad byddech yn anghofio eich bod yn siarad ag un o gewri byd darlledu Cymru. Diolch Dai am fod yn ffrind i bawb ac am sicrhau bod ffermio a chefn gwlad wastad yn cael y sylw cyntaf, hyrwyddwr cefn gwlad heb ei ail, dim ond un Dai Llanilar fydd.
Mae’n ddiddorol darllen teyrnged Elin Jones AS Ceredigion i Dai ar dudalen 4 wrth iddi gyfeirio at y ffordd y byddai Dai’n dadlau achos y ffermwr, yn enwedig y rhai ifanc, ac ymfalchïai Dai yn llwyddiannau bobl ifanc gyda balchder mawr.
Ar y penwythnos pan fu farw Dai, cynhaliwyd y gystadleuaeth Cân i Gymru, ac mae’n briodol tu hwnt mae mab fferm o Sir Drefaldwyn oedd enillydd haeddiannol eleni.
Mae’r ymadrodd ‘Dyfal donc a dyr y garreg’ yn hollol wir i Rhydian Meilir Pughe o Gemaes gan iddo gystadlu a chyrraedd rhestr fer y gystadleuaeth yn 2012, 2019 a 2020, ond 2022 oedd blwyddyn Rhydian wrth i’w gân, a berfformiwyd ar y noson gan Ryland Teifi ‘Mae Yna Le’ ddod i’r brig.
Gyda Rhydian yn gyn aelod o staff UAC a’i rieni yn aelodau ffyddlon o’r Undeb, mae’n bleser gan Gornel Clecs longyfarch Rhydian ar ei lwyddiant a gofyn iddo sut brofiad oedd cystadlu ac ennill cystadleuaeth gerddorol mor bwysig.
“Mae ennill Cân i Gymru i mi yn ganlyniad o’r llu o brofiadau diwylliannol yr wyf wedi eu cael o fyw yn fy Mro - Bro Ddyfi,” esbonia Rhydian.
“O fod yn rhan o bartïon a chorau, a pherfformio ar lwyfan yn ysgol Gynradd Glantwymyn, yn ogystal ag ysgol Uwchradd Bro Ddyfi (Ysgol Bro Hyddgen bellach), ac yn hwyrach, gydag Aelwyd Bro Ddyfi.
“Fel cyn-aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Bro Ddyfi hefyd, dwi’n ddiolchgar iddyn nhw hefyd am yr holl brofiadau dwi wedi eu cael efo nhw dros y blynyddoedd. Bum yn ddigon lwcus i ennill cadair yn Eisteddfod y Sir, Llanidloes nôl yn 2011 am ysgrifennu cerdd. Rwyf wastad wedi ymddiddori mewn grym a chynildeb geiriau, ac ysgrifennu’n greadigol, boed yn gerddi, neu yn eiriau/lyrics i ganeuon yr ydw i’n eu cyfansoddi.
“Mae profiadau eraill drwy’r ffermwyr ifanc yn cynnwys trefnu a chwarae mewn bandiau ar gyfer cystadlaethau hanner awr adloniant a pantomeims dros y blynyddoedd, yn ogystal â chyfansoddi caneuon ar eu cyfer, a pherfformio a bod yn rhan o gorau a phartïon canu. Yr holl brofiadau yma yn cyfrannu at fy natblygiad cerddorol, ac at gyrraedd fy uchafbwynt diweddaraf o ennill cystadleuaeth Cân i Gymru 2022.
“Cefais fy ysbrydoli gan lecyn tawel ar y ffarm ddefaid teuluol yng Nghemaes i ysgrifennu’r gân. Hwn yw hoff le’r defaid hefyd i gysgodi pan fydd tywydd mawr!!
“Cân ydi hi yn sôn am yr ‘hoff le’ sydd gen i, a phawb arall dwi’n siŵr, ac am y pwysigrwydd o lonyddu bob yn hyn a hyn ynghanol bwrlwm a phrysurdeb bywyd.
“Yn ddiweddar hefyd, ces y fraint a’r her o ysgrifennu arwyddgan newydd o’r enw ‘Byw i’r Dydd’ i’r elusen ‘Nerth dy Ben’ sy’n gofalu am iechyd meddwl yn y byd amaeth yng Nghymru.
“Fel mab fferm fy hun, teimlaf ei bod yn hollbwysig codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl ym myd Amaeth, ac er mor ffodus yden ni fel ffermwyr i gael byw a gweithio tu allan ynghanol tirwedd tlws cefn gwlad, mae oriau hir a blinedig allan yn yr awyr iach yn gallu bod yn unig iawn i lawer, yn enwedig pan fo’r ysbryd yn isel.”
Llongyfarchiadau mawr i ti Rhydian a diolch am rannu’r ysbrydoliaeth tu ôl i’r gân fuddugol. Mae’n braf gweld cymaint o ddylanwad mae cefn gwlad ac amaethyddiaeth yn ei gael ar bobl ifanc sy’n arwain at gyflawniadau mawr fel un Rhydian yn ddiweddar.