gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu’r Iaith Gymraeg
Wrth dyfu lan yn yr wythdegau (wedai ddim yn union pa flynyddoedd, neu byddai’n datgelu gormod o gyfrinachau am fy oedran!), nid oedd llawer o sôn am fynd ar wyliau dramor. Yr uchafbwynt bob gwyliau i mi oedd cael mynd am drip i’r mart lleol, boed hynny yn Aberystwyth neu yn Nhregaron. Roeddwn wrth fy modd yn cerdded lan a lawr pob ali yn edmygu’r stoc, ond gallai hynny gymryd peth amser wrth gwrs, pan fyddai angen stopio’n aml i siarad â hwn a’r llall.
Mae diwrnod mart yn parhau i fod yn ddiwrnod pwysig hyd heddiw, ac wedi cyfnod hir o fod yng nghau, dychwelodd y bwrlwm nôl i galon mart Caerfyrddin ar ddechrau’r mis. Roedd tipyn o edrych ymlaen at weld y lle’n ail agor, gan mae dyna’r mart lleol i nifer o’n haelodau’n Sir Gaerfyrddin a chyfagos ac yn cynnig cyfleusterau gwych a chyfleus i werthwyr a phrynwyr.
Cwmni Nock Deighton Agricultural LLP sydd bellach yng ngofal gweithredu mart Caerfyrddin, ond beth yn union yw pwysigrwydd sicrhau mart lleol i amaethwyr? Dyma Mark Burgoyne o’r cwmni i ddweud mwy: “Nid yw bob amser yn amlwg i’r cyhoedd beth yw pwrpas mart, ond mae cau mart yn creu gwactod enfawr yn y gymuned amaethyddol na ellir ei lenwi’n hawdd. Mae’n newyddion gwych bod Mart Caerfyrddin wedi ail agor ar yr 2il o Fawrth,” dywedodd Mark.
“Mae diwrnod mart yn rhoi amser oddi ar y fferm i ffermwyr, lle gallant werthu eu da byw a’u troi’n arian parod ar gwymp morthwyl yr arwerthwr. Ers canrifoedd mae’r mart wedi bod yn ganolbwynt cymdeithasol i’r sector gwledig lle gall bobl o’r wlad, o’r un anian siarad am y materion sydd o ddiddordeb iddynt neu sy’n eu poeni, fel arfer yng nghysur caffi’r mart. Ni fyddai ffermwyr sy’n gweithio ar ben eu hunain mewn ardaloedd anghysbell iawn yn gweld llawer o bobl oni bai am y mart.
“Mae masnachwyr cysylltiedig yn aml yn mynychu mart ac mae masnachu arall yn digwydd, gan sicrhau bod y diwrnod yn fwy na gwerth chweil i bawb dan sylw.
“Mae partneriaid Nock Deighton Agricultural LLP wedi ymrwymo’n llwyr i’r sector ac maent bellach yn rhedeg tair mart yng Nghymru a Swydd Amwythig.”
Wrth lawenhau bod y mart nôl yng Nghaerfyrddin unwaith eto, mae yna ardal arall yng Nghymru’n gobeithio y bydd modd iddyn nhw ddathlu hefyd yn y dyfodol agos. Collwyd mart y Bont-faen ychydig flynyddoedd nôl, ond a oes yna lygedyn o obaith ar y gorwel? Dyma Sharon Pritchard, Swyddog Gweithredol Sirol Morgannwg i ddweud mwy: “Wrth galon ein cymunedau amaethyddol a gwledig mae’r mart. Mewn rhai achosion mae’r mart ar y stepen drws i rai, ac i eraill mae’n daith ddwy awr,” esbonia Sharon.
“Yn cael ei hadnabod fel tref farchnad ers 750 o flynyddoedd, saif y Bont-faen bellach heb y prysurdeb a ddaw yn sgil dydd Mawrth. Byddai tref farchnad draddodiadol bob amser yn denu ffermwyr a’u teuluoedd yn wythnosol. Galw i mewn gyda’r masnachwyr porthiant, siopa bwyd a’r daith bwysig i’r banc. Teimlwyd yr effaith o golli mart y Bont-faen ar draws ardal eang, ond yn enwedig gan y cymunedau lleol - gyda cholli busnes i fusnesau’r stryd fawr, ac o ganlyniad i gyfleusterau bancio. Ar ôl blynyddoedd o werthu da byw mae’r mart bellach wedi’i dymchwel ac yn cael ei defnyddio fel maes parcio.
“Y Mart, Y Farchnad ni waeth pa air a ddefnyddiwch i ddisgrifio’r canolfannau gwerthu da byw, nid dyna’i hunig ddiben. Cynhelir ambell i ddadl dros baned a brecwast gan ddod â’r eneidiau unig sy’n ffermio wythnos ar ôl wythnos yn gwbl ynysig at ei gilydd. Lle i rannu gofid a phryderon ac i’ch cysuro pan fydd pethau’n mynd yn anodd. Mae’r farchnad yn cynnig ymdeimlad o gymuned a’r drws agored hollbwysig hwnnw sy’n croesawu pawb. Mae yna ganran o ffermwyr sy’n byw ac yn gweithio ar ben eu hunain ac mae peidio â gweld neb am wythnosau yn realiti llym i’w galwedigaeth. Pan fydd y pryderon yn pentyrru, gall arwain at ganlyniadau dinistriol.
“Ni fu erioed amser pwysicach mewn amaethyddiaeth a’r cymunedau gwledig i ddod ynghyd ac i rannu eu gofidiau a’u pryderon. Gydag amaethyddiaeth bellach yn canolbwyntio ar effeithlonrwydd a chynaliadwyedd, mae’n rhaid i ni fel diwydiant edrych ar sut y gallwn leihau allyriadau. Wrth ddymchwel mart y Bont-faen, mae’n rhaid gyrru awr i’r naill gyfeiriad neu’r llall i werthu gwartheg neu ddefaid. Gyda chyfyngiadau ar gludo da byw dros 65km, mae hyn yn gost ychwanegol i gynhyrchwyr, ynghyd â’r effaith ar eu hôl troed carbon.
“Mae UAC yn cynnal trafodaethau gyda’r cynghorau lleol er mwyn datblygu’r prosiect. O sgwrsio gyda ffermwyr lleol, ffermwyr iau a’r rhai yn y cymunedau cyfagos, rydym am alluogi’r ardaloedd cyfagos i elwa o ased a fydd yn rhan o Hyb Gwledig neu Hyb Amaeth. Rhagwelwn y bydd yna ystafell gyfarfod, cyfleusterau rhannu desgiau ar gyfer pob math o fusnesau, cyfleusterau arlwyo a’r adeilad yn un amlbwrpas os yn bosibl. Rydym yn croesawu pob adborth ynglŷn â pha weledigaeth sydd gan ein haelodau ar gyfer hyn. Mae croeso i chi ffonio neu e-bostio gyda gwybodaeth am y prosiect hwn.”
Wrth ddathlu bwrlwm mart Caerfyrddin unwaith eto, a gobeithio mae’r un fydd yr hanes yn ardal y Bont-faen yn y dyfodol, mae un peth yn gyffredin, y mart lleol yw calon ein cymunedau amaethyddol, hir oes iddynt!