gan Glyn Roberts, Llywydd UAC
Dros yr wythnosau, y misoedd a’r blynyddoedd nesaf bydd Bil Amaethyddiaeth Cymru yn dominyddu ein meddyliau fel diwydiant yn gynyddol, ac mae’n hollbwysig ein bod yn dylanwadu ar gynnwys y fersiwn derfynol gan y bydd yn pennu sut mae ein diwydiant a’n cymunedau gwledig yn edrych ac yn ffynnu am y degawdau i ddod.
Ymhen deng mlynedd, ni fydd ffermwyr Cymru yn diolch inni os ydym yn caniatáu i ddeddfwriaeth sy’n atal ffermio gael ei phasio, a rhaid inni felly barhau â’n hymdrechion i wneud gwleidyddion yn ymwybodol o ganlyniadau’r Bil a dylanwadu ar ei gynnwys.
Fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae perygl gwirioneddol y bydd y Bil yn ymwneud mwy â materion amgylcheddol nag y bydd yn ymwneud â chynhyrchu bwyd.
Yr ydym i gyd yn deall y ddadl y dylid gwario arian cyhoeddus er lles y cyhoedd. Ond mae angen sicrhau bod y gwleidyddion yn ymwybodol nad yw mor syml â'r llywodraeth yn cynnig taliadau wedi'u bwriadu'n gyfan gwbl i wella ansawdd ein hamgylchedd.
Mae ffermio wrth wraidd yr economi wledig ac ni ellir anwybyddu hynny. Byddai gwneud hynny’n gweld mwy a mwy o bobl yn symud i ffwrdd o gefn gwlad ac oddi wrth ffermio a diboblogi ardaloedd gwledig gyda goblygiadau difrifol i’n heconomïau, cymdeithas a diwylliant gwledig.
Mae'r pwyslais ar yr amgylchedd yn ddealladwy ond yn annoeth. Mae hefyd angen dealltwriaeth o anghenion amaethyddiaeth a'r economi wledig - a phwysigrwydd cynhyrchu a diogelu’r cyflenwad bwyd.
Does dim pwynt cael amgylchedd cynaliadwy ac amrywiol na all gynnal y bobl sy'n byw yno wrth fwydo'r wlad fwyaf poblog yn hemisffer y gogledd.
Ar bwynt arall, mae’r newyddion bod Asda wedi ymwrthod â’i addewid i werthu 100% o gig eidion ffres Prydeinig yn siom. Mae’r ffaith bod hyn wedi digwydd deufis yn unig ar ôl gwneud yr addewid a’r cyhoeddusrwydd da a ddilynodd yn sioc i rai, ond mae’n dangos pa mor anwadal y gall cwmnïau mawr o’r fath fod a pha mor gyflym y gall eu polisïau caffael newid yn seiliedig ar amodau’r farchnad.
Sy’n dod â mi at rai o’r cytundebau masnach y mae Llywodraeth San Steffan yn eu gwneud â gwledydd eraill. Rydym i gyd yn deall pwysigrwydd masnach ryngwladol, ond mae pob cytundeb masnach yn gweithio dwy ffordd ac yn rhy aml o lawer bydd y cytundebau hyn yn arwain at gynnydd enfawr o faint o gynhyrchion amaethyddol y gellir eu mewnforio, gan niweidio ein diwydiant a thanseilio ein safonau.
Darllenais fod oen yn pwyso 19kg, a aned yn Seland Newydd ym mis Medi yn werth £89 i’r ffermwr (yn dibynnu ar y gyfradd gyfnewid, yn amlwg). Byddem yn disgwyl £116 am oen o faint tebyg; bron i 30% yn fwy.
Rydyn ni i gyd yn hapus, rwy’n siŵr, bod prisiau yn y marchnadoedd ledled Cymru wedi parhau mor dda ag y maen nhw. Haleliwia!
Ond nid yw hyn i gyd yn newyddion da. Mae'n rhaid cydbwyso hyn yn erbyn y cynnydd uchel ym mhris gwrtaith, bwyd anifeiliaid a'r cynnydd sydd i ddod mewn prisiau ynni. Ac ar yr un pryd mae Llywodraeth y DU yn tanseilio ein masnach mewn ffordd y mae eu hasesiadau effaith eu hunain yn dangos a fydd yn lleihau cynhyrchiant bwyd y DU ac yn gostwng ein prisiau wrth gât y fferm.
Os na ellir atal neu addasu cytundebau masnach o’r fath i gynnwys mwy o amddiffyniad i’n cynnyrch ein hunain, bydd y ddibyniaeth ar y sefydlogrwydd a ddarperir gan gymorth uniongyrchol – sy’n darparu tua 80% o incwm ffermydd Cymru – yn cynyddu.
Ond gyda chymorth fferm yn Lloegr eisoes wedi’i dorri 10% yn 2021 ac i’w ddileu’n raddol dros y chwe blynedd nesaf, ac amcanion amgylcheddol i’w gweld yn cael blaenoriaeth dros les ariannol ffermydd teuluol, mae pwysau sylweddol yn parhau i fod ar Gymru i ddilyn arweiniad Lloegr.
Sydd wrth gwrs, yn dod â ni yn ôl at gynnwys Bil Amaethyddiaeth yr haf. Diolch byth, mae’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru, yn arwynebol o leiaf, wedi dod yn fwyfwy ymwybodol o’r peryglon o ddilyn polisïau dinistriol Lloegr yn ddall, ond mae angen inni sicrhau bod hyn yn parhau i fod ym mlaen eu meddyliau – holl Aelodau’r Senedd. Peidiwch â bod dan unrhyw gamargraff, mae’n flwyddyn dyngedfennol i ddyfodol ffermio yng Nghymru.