Tra bod y mwyafrif o ffermwyr yn gweld eu swyddogaeth fel magu a pharatoi stoc o safon uchaf ar gyfer y farchnad fyw neu yn uniongyrchol i’r lladd-dy, mae Sion Ifans, Cadeirydd UAC Sir Feirionnydd yn gweld cyfrifoldeb ehangach yn y gadwyn gyflenwi o’r ‘giât i’r plât’, ac wedi dangos mor bwysig yw cyfathrebu gyda’i gwsmeriaid.
Mae’r cefndir yn deillio o sgwrs a gafodd gyda pherchennog Canolfan Arddio a Siop Camlan yn lleol yn Ninas Mawddwy, ger Machynlleth. Pan ofynnodd Sion paham nad oedd modd gwerthu cig oen lleol yn y siop, yr ateb a gafodd oedd bod yn anodd dod o hyd iddo. Yn gwbl nodweddiadol o Sion, a gyda’i frwdfrydedd a’i ddiddordeb, penderfynodd wneud rhywbeth am y sefyllfa ac ymateb yn bositif.
Trefnodd i gael ei ŵyn ei hun o Fferm Brynuchaf wedi eu cludo i ladd-dy Randall Parker yn Llanidloes, ac yna eu torri gan y cigydd Marcus Williams, eto yn lleol yn Llanidloes. Penderfynwyd ar y telerau, a chychwynnodd y fenter ym mis Ebrill 2019. Buan y datblygodd i fod yn cyflenwi 2 oen yr wythnos i’r siop, ac erbyn hyn mae’n cyflenwi 3 oen yr wythnos yn weddol rheolaidd.
Datblygodd y brand ‘Cig Oen Mawddwy’ sydd bellach yn boblogaidd, nid yn unig gyda thrigolion lleol, ond hefyd gan y miloedd sydd yn mynd heibio yn ddyddiol ar y gefnffordd A470 gerllaw. Mae’r gwaith yn rhoi llawer iawn o bleser i Sion.
Mae yna bwysigrwydd mawr yn cael ei roi ar y gallu i olrhain y cig nôl i’r fferm ucheldir sydd yn pesgi ŵyn ar laswellt yn unig, a rhinweddau cig oen Cymreig ar ei orau. Mae egwyddorion cynaladwyedd, a bod yn gyfeillgar i’r amgylchedd yn holl bwysig yn y broses.
Prynu a gwerthu yn lleol cymaint â phosib sy’n bwysig i Sion a’i wraig Gwawr, sy’n ffermio ar y cyd gyda rhieni Gwawr ym Mrynuchaf, sydd tua 5 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Ddinas Mawddwy.
Mae’r bartneriaeth yn bwysig yma, gyda Gwawr yn gyfrifol am y marchnata ar wefannau cymdeithasol, a rhedeg y cyfrif Instagram @cigoenmawddwy. Mae balchder o weld y pecynnu taclus, a’r radd 5 hylendid bwyd a ddyfarnwyd yn ddiweddar, a’r ffaith bod y carcas i gyd yn cael ei werthu yno. Dywed Sion fod y galw yn sicr wedi cynyddu yn dilyn dyfodiad y Covid-19. Noder hefyd fod Lisa ac Ian Allsop yn hynod frwdfrydig am y siop fferm, ac yn awyddus i werthu ar-lein yn y dyfodol agos.
Mae Sion yn gwbl argyhoeddedig fod gan y diwydiant amaeth stori dda i’w hadrodd, ac mae’r fenter lleol yma yn rhan ganolog o hynny. Mae’n ymhyfrydu yn ei gynnyrch, ac mae balchder amlwg ar wyneb Sion pan ddaw adborth gan gwsmeriaid am flas arbennig y cig oen
Menter o raddfa fach yw hon ar hyn o bryd, ond dywed Sion fod y cyfan yn cyfrannu ychydig o leiaf i’r economi a’r gymuned yn lleol, a’r budd i’r hinsawdd sydd yn bwnc mor bwysig i’r dyfodol.
CAPTION: Sion yn cyrraedd y ganolfan gyda’r cyflenwad diweddaraf o gig oen Brynuchaf.