gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg
Gyda ninnau ynghanol cyfnod clo arall, a’n hysgolion wedi cau eu drysau ers cyn y Nadolig, beth yw realiti prysurdeb dyddiol fferm a cheisio sicrhau bod addysg y plant ddim yn dioddef? Cafodd Cornel Clecs fewnwelediad i fywyd prysur Anwen Hughes, (gweler ar y dde), Cadeirydd Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant Amaethyddol yr Undeb:
Beth mae cefn gwlad yn dysgu plant?
Mae cefn gwlad yn dysgu cyfrifoldebau i blant, hynny yw bod rhaid edrych ar ôl cefn gwlad, yr amgylchedd a byd natur. Mae’n gyfle hefyd i ddysgu am gylch bywyd, a sut mae parchu anifeiliaid.
A fyddech yn hoffi gweld mwy o amaethyddiaeth yn cael ei ddysgu o fewn y cwricwlwm addysg?
Buaswn, gan fod yn bwysig bod plant yn dysgu a deall lle mae ei bwyd yn dod o a sut i fwyta’n iach. Mae’n bwysig hefyd bod plant heddiw yn deall y gwaith i ni ffermwyr yn ei wneud i gadw a chynnal cefn gwlad.
Sut ydych chi wedi dod i ben a ffermio bob dydd yn ogystal â dysgu o adref?
Buaswn yn dweud celwydd petawn yn dweud yn hawdd, er bod fy mab yn un deg a phedwar ac yn lwcus iawn dim ond un allan o’r pedwar sydd yn yr ysgol erbyn hyn. Buaswn hefyd yn dweud celwydd os nag oes yna gwympo mas wedi bod i gael y mab i eistedd o flaen y cyfrifiadur yn lle edrych allan drwy’r ffenest a gwylio fi wrth fy ngwaith ar y tractor.
Rwyf wedi trio helpu fy mab gyda’r gwaith ysgol, ond gan fod ‘na rhai blynyddoedd ers i fi fod yn ysgol, mae’r ffordd o ddysgu wedi altro’n llwyr ers i fi fod yna.
Mae yna rhai diwrnodau lle dwi’n teimlo fel clown yn trio jyglo gwaith fferm, gwaith tŷ, gwaith papur ac yna sicrhau bod fy mhab yn eistedd wrth y cyfrifiadur i wneud ei waith yn lle chwarae Farming Simulator.
Ond mae’n rhaid cofio, nid yw’n hawdd i blant yn y cyfnod yma lle maen nhw wedi arfer fod yn ystafell llawn ffrindiau gydag athrawon i’w dysgu a’i helpu.
Mae’n rhaid i mi gymryd y cyfle yma nawr i dynnu fy nghap a dweud diolch yn fawr i’r holl athrawon, gan nad yw dysgu yn swydd hawdd.
Mae’n siŵr bod ni gyd erbyn nawr yn edrych ymlaen at gael ein plant nôl yn yr ysgol, ac yn lle codi llais arnynt i wneud eu gwaith o flaen y cyfrifiadur, byddwn yn codi llais i gael nhw allan o’r gwely ac i wisgo’i gwisg ysgol a thrio fod allan o’r tŷ cyn 8 i ddal y bws neu gael nhw i’r ysgol erbyn 9.