gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu’r Iaith Gymraeg
Gŵr, tad, cymydog, ffrind, amaethwr, bardd...dyma gyflwyno Rob Tycam i chi neu Robert Edward Morris Jones yn swyddogol.
Collodd ardal gyfan berson arbennig iawn pa fu farw Rob yn 2018, a hynny yn rhy gynnar o lawer, ond mi lwyddodd i adael ei farc ar yr hen fyd yma! A gadael ei farc wnaeth Rob ar ein teulu ni hefyd, yn ffrind agos, a’n gwas priodas.
Gadawyd bwlch mawr ym mywydau llawer ar ôl colli cymeriad mor fawr â Rob, yn enwedig ei deulu, ei wraig Ann, a’i blant Llŷr, Gwenan a Ffion. Ond mawr yw parch ardal gyfan o’r ffordd mae’r teulu wedi mynd ati i gofio Rob a helpu eraill yn y broses.
Roedd Rob Tycam yn un o feirdd gwlad gyfoes ardal wledig ei filltir sgwâr, sef Mynydd Bach, sy’n sefyll uwchben Trefenter yng Ngheredigion. Gadawodd yr ysgol yn 14 oed ac yn ffermwyr wrth ei alwedigaeth. Ac wrth ei waith bob dydd ar y fferm, y byddai’r awen yn taro ac yn dechrau barddoni ar unrhyw ddarn o bapur y medrai cael gafael ynddo o’i boced! Er cof am Rob, y penderfynodd y teulu fynd ati i gyhoeddi cyfrol o’i waith, ac yn ddiweddar cafodd Cornel Clecs gyfle i holi Ann ymhellach am y gyfrol, a’i synod fel teulu o sut ymateb sydd wedi bod:
“Byddai Rob yn cyfansoddi barddoniaeth ac yn ysgrifennu’n gyson trwy gydol y flwyddyn. Byddai’r themâu a ddewisai yn ddibynnol ar elfennau megis beth oedd y testunau llenyddol yn y rhaglenni eisteddfodau fyddai’n dod i’r tŷ, neu os oedd priodas neu ben-blwydd arbennig yn digwydd.
“Os byddai tro trwstan neu ddigwyddiad anarferol yn codi, yn aml byddai hyn yn sbardun a’r awen yn dechre llifo. Wrth gyfansoddi, mi fyddai’n dianc i’w fyd bach ei hun ac ofer fyddai ceisio cynnal sgwrs neu drafodaeth ar yr adegau hyn! Wedi i gyfnod o amser basio, byddai’r ‘campwaith’ yn dod i’r golwg boed yn frawddeg, penillion neu limrig er mwyn i ni gael rhoi ein barn arno. Rhaid cyfaddef y medrwn i fod yn go llym fy meirniadaeth (a finnau’n athrawes!).
“O ganlyniad, ceisiai wella rhediad neu fynegiant y darn ar gyfer yr ailddarlleniad. Pan fyddai’n hapus a’r cyfansoddiad byddai’n gofyn i mi ei deipio allan. Roedd bywyd yn aml yn brysur, a finnau’n grwgnach ar y cais. Ond teipio oedd rhaid ac eisteddai Rob wrth fy ochr tra ‘mod i ar y cyfrifiadur yn ceisio deall ei ysgrifen baglau brain!
“Ar nifer o achlysuron, roedd yn cael trafferth deall llawysgrifen ei hun, a’r ddau ohonom yn chwerthin yn uchel o ganlyniad! Yn aml byddai’r cynnwys yn ddigri hefyd, a doedd hyn ddim yn helpu i roi taw ar y sterics! Mae cyfieithiad lletchwith Y Twrci yn parhau i wneud i’r plant a finnau chwerthin fel ffyliaid!
“Ymddangosai’r syniad o gasglu a chreu cyfrol o’i waith yn un go hawdd i gychwyn, ond rhaid cyfaddef bu’n rhaid rhoi oriau o waith casglu, teipio ac ysgrifennu i mewn er mwyn cael y llyfr i fwcwl. Ond mae’n rhyddhad gwybod fod goreuon ei waith i gyd yn ddiogel rhwng dau glawr llyfr bellach, a bod ei bersonoliaeth a’i synnwyr digrifwch yn cael ei adlewyrchu trwy’r cynnyrch.
“Mae’r ymateb i’r llyfr wedi bod yn wych hyd yn hyn, sy’n rhyddhad, gan i ni amau a chwestiynu oedd y gwaith yn ddigon safonol i warantu creu llyfr o’r cynnwys. Dywed y Sais “Publish and be damned” ac rwy’n tueddu i gytuno efo’r dywediad yma erbyn hyn! Wrth weld y llyfr ar silff siop, anodd oedd gwybod beth fyddai’r cyhoedd yn meddwl ohono. Mae dehongliad pob unigolyn o’r gwaith yn wahanol wrth gwrs, ond mae clywed bod pobl yn ei fwynhau yn galondid mawr i ni.
“Roedd clywed dieithryn yn gofyn am y llyfr yn Siop Inc, Aberystwyth y diwrnod o’r blaen yn rhyfeddol ac yn wefr! Mae’r llyfr bellach ar gael yn Swyddfa Bost Llanrhystud, Siop y Pethe a Siop Inc yn Aberystwyth yn ogystal â Siop Amaethyddol Clynderwen a Cheredigion (CCF) yn Aberystwyth am bris o £8. Mae croeso i unrhyw un gysylltu â Gwenan, Ffion neu fi ar Facebook neu trwy ffonio 01974 272317.
“Carem ddiolch i bawb sydd eisoes wedi prynu’r llyfr ac am bob cefnogaeth. Bydd yr elw i gyd yn mynd at achos haeddiannol iawn a hynod agos at ein calonnau ni fel teulu sef sefydlu’r Uned Cemotherapi newydd yn Ysbyty Bronglais.”
Felly dyna i chi Rob Tycam. Y cymeriad a oedd ganddo gymaint o lefelau’n perthyn iddo, ac o ddarllen teyrnged i’w thad gan Gwenan yn y gyfrol, yn sicr mi gewch syniad go dda o’i gymeriad. Yr un oedd yn medru uniaethu a chydweithio efo ieuenctid yr ardal, yn Gymro, cenedlaetholwr i’r carn, hyrwyddwr yr iaith Gymraeg, traddodiadau, a’r frwydr i gynnal ein cymunedau a’n ffordd o fyw. Ie dyna i chi Rob Tycam.
I gloi dyma flas o un o benillion y gerdd Y Taliad Sengl:
Tra bydd y Taliad Sengl
Amaethu fydd o hyd
Ac wedi dydd yr amlen
Bydd dal rhaid bwydo’r byd