gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu’r Iaith Gymraeg
Onid ydym yn lwcus o le rydym yn byw? A mwy na hynny’r gallu i gyfathrebu a’n gilydd trwy’r Gymraeg?
Mae dwy ferch o Geredigion wedi lansio cymdeithas newydd i siaradwyr Cymraeg sy’n gweithio yn y maes Cyfathrebu, ac mae gan y ddwy gysylltiad agos gydag Undeb Amaethwyr Cymru.
Mae Gwenan Davies yn ferch fferm i deulu Cwmcoedog, Mydroilyn sydd yn aelodau o’r Undeb ers blynyddoedd lawer. Mae Cwmcoedog erbyn hyn wedi datblygu i gynnig bythynnod a chyfleusterau glampio o’r safon uchaf.
Mae Manon Wyn James yn byw yn Nhregaron ac yn wraig i Gwion James sy’n Uwch Weithredwr Yswiriant yn swyddfa’r Undeb yn Llanbed.
Aeth y ddwy ati i sefydlu SYLW er mwyn creu cymuned o arbenigwyr Cyfathrebu i rannu syniadau, creu cysylltiadau a datblygu gyrfaoedd mewn awyrgylch gwbl Gymraeg.
Mae’r pandemig wedi golygu bod modd trefnu cynadleddau Cyfathrebu yn rhithwir a denu aelodau drwy system ddigidol.
“Mae Cyfathrebu yn faes sy’n parhau i dyfu,” meddai Manon. “Does dim un sefydliad neu gwmni yn mynd i allu gweithredu heb fod yna dîm neu berson Cyfathrebu wrth y llyw. Mae’n faes cyffrous tu hwnt i weithio ynddo, ac mae’n faes lle mae cysylltiadau mor bwysig. Gobeithio felly bydd SYLW yn gyfle i arbenigwyr Cyfathrebu Cymru ddod i adnabod ei gilydd a dysgu o brofiadau ei gilydd hefyd.”
Gyda nifer helaeth o gyrsiau hyfforddiant ar gael yn Saesneg eisoes, does dim amheuaeth fod galw mawr am gymuned Gymraeg i gynnal digwyddiadau arbenigol ym maes Cyfathrebu.
“Fe wnaethom ni ddechrau sgwrsio rhai misoedd yn ôl, ar ôl bod ar sawl cwrs hyfforddi yn y Saesneg a gweld galw gwirioneddol ar gyfer rhywbeth tebyg yn y Gymraeg. Mae angen rhoi’r cyfle i siaradwyr Cymraeg sy’n gweithio yn y maes i rwydweithio yn Gymraeg,” meddai Gwenan.
“Doedden ni ddim am aros tan ddiwedd y pandemig felly fe wnaethon ni benderfynu mynd ati i lansio nôl ym mis Mai.”
Cynhaliwyd cynhadledd rithwir gyntaf SYLW ym mis Mehefin gyda dros 80 yn mynychu. Mae cyfres Sgyrsiau SYLW ar y ffordd ym mis Medi a chynllun Mentora yn cael ei lansio yn yr Hydref.
“Mae’r ymateb hyd yma wedi bod yn arbennig, ac mae gan SYLW dros 270 o aelodau erbyn hyn. Ry’n ni’n edrych mlaen at ddatblygu’r fenter ymhellach.”
Pob hwyl i Manon a Gwenan gyda’r fenter newydd, ac mae’n braf gweld dwy o ferched cefn gwlad yn fodlon mentro a thorri tir newydd gan roi Cymru ar y map a rhoi platfform i’r Cymry gael dweud ei dweud a sicrhau bod sylw teilwng yn cael ei roi i bopeth Cymraeg.