Mae 2024 yn argoeli i fod yn flwyddyn hynod bwysig, nid yn unig i amaethyddiaeth yng Nghymru, wrth inni ddelio ag ymgynghoriad olaf y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ond ar draws y byd gwleidyddol, gydag Etholiad Cyffredinol ar y gorwel. Byddwn hefyd yn cael Prif Weinidog newydd, gyda’r Blaid Lafur yma yng Nghymru ar fin cynnal etholiad i ddewis arweinydd newydd, yn dilyn penderfyniad Mark Drakeford i gyhoeddi ei ymddeoliad.
I Gymru a’r byd ffermio mae yna faterion mawr ar droed. Ar flaen ein meddyliau y mae ymgynghoriad olaf y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS). Y Cynllun hwn fydd yn ffurfio’r mecanwaith ar gyfer darparu cymorth i ffermwyr yng Nghymru o 2025 ymlaen. Rwy’n eich annog fel aelodau i gydweithio’n llawn â ni ar y mater hwn ar frys. Dyma’r newid pwysicaf i’r polisi amaethyddol yng Nghymru ers sefydlu’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn 1962 ac rydym ni, fel Undeb, yn gwybod na allwn fforddio cael hwn yn anghywir.
Rhaid i unrhyw gynllun taliadau yn y dyfodol sy’n seiliedig ar ganlyniadau amgylcheddol a nwyddau cyhoeddus ddiogelu ffermydd teuluol, cefnogi cymunedau gwledig a chynnal cyflogaeth yng nghefn gwlad Cymru. Rhaid i gynllun o’r fath sicrhau bod amaethyddiaeth yn gynaliadwy a gwerth chweil. Mae methu â gwneud hynny’n debygol o wneud difrod difrifol i ffermydd teuluol yng Nghymru a’r rôl a chwaraeir ganddynt o fewn economi, cymdeithas, diwylliant a thirwedd Cymru.
Mae’r blaenoriaethau polisi rydym wedi’u hamlinellu dro ar ôl tro yn ystod 2023, ac yn ystod amryw o ymgynghoriadau eraill dros y pum mlynedd diwethaf, yn parhau i fod yn sail i’n gofynion allweddol mewn perthynas â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Rhaid i’r Cynllun hwn fod yn un ymarferol i holl ffermwyr Cymru, a rhaid iddo’n helpu i gyrraedd ein nodau cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol. Efallai bod yna rai yn ein plith all ymdopi heb y cymorth uniongyrchol hwn, ond o edrych ar Arolwg Busnesau Fferm Cymru, mae’r rhan fwyaf ohonom yn dibynnu ar gymorth o’r fath er mwyn i’n busnes fferm oroesi. Mi fyddai’n ffolineb awgrymu y gallwn, fel sector, ddal ati a ffynnu heb unrhyw gymorth.
Mae sicrhau cyllid ar gyfer y sector felly yn parhau i fod yn elfen hanfodol o’n ffocws ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Er ein bod yn cydnabod yr heriau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu, mae cyllideb gyfan yr Adran Materion Gwledig o £482 miliwn yn cynrychioli 2% yn unig o Gyllideb Llywodraeth Cymru. Mae’n hanfodol bwysig bod y gyllideb hon yn aros yr un fath o leiaf, i sicrhau ein bod yn cyflawni’n hymrwymiadau a’n dyheadau mewn perthynas â bwyd, natur a’r amgylchedd.
Os ydych chi wedi darllen ein hadroddiad ‘Rôl cymorth i ffermwyr o fewn cadwyni cyflenwi da byw yng Nghymru’, mae’n glir beth fyddai angen newid petai’r taliadau cymorth uniongyrchol yn cael eu lleihau’n sylweddol. Mi wnaethon ni ddefnyddio pum mlynedd o ffigurau Arolwg Busnesau Fferm Cymru i ymchwilio i’r math o gynnydd o ran elw, neu ostyngiad o ran costau mewnbwn dethol y byddai ei angen i gynnal elw da byw cyfartalog ffermydd petai’r cymorth uniongyrchol yn cael ei gwtogi 50% a 100%. Mae’r ffigurau’n rhai anodd eu darllen a dylent fod yn rhybudd i’r rhai sy’n meddwl y gall y diwydiant ddal ati i gynhyrchu bwyd, gan barhau ar yr un pryd i gyflawni’r holl ofynion allweddol eraill a osodir ar amaethyddiaeth gan y Llywodraeth.
Wrth inni ddechrau Blwyddyn Newydd a all weld newid o ran y Llywodraeth yn San Steffan, ac arweinyddiaeth newydd o fewn y Llywodraeth yma yng Nghymru, mae’n bwysicach nag erioed bod ein gwleidyddion a’n llunwyr polisïau yn llwyr ddeall y rôl economaidd a chwaraeir gan gymorth i ffermwyr o fewn cyd-destun ein heconomi wledig. Gadewch imi fod yn hollol glir - mi fydd unrhyw doriadau, waeth beth fydd eu maint, yn cael effaith hefyd ar nifer o fusnesau eraill yma yng Nghymru, yn ogystal â busnesau fferm, gyda’r senario achos gwaethaf a fodelwyd gennym yn dangos y byddai rhai o’r sectorau hyn yn colli degau o filiynau o incwm.
Mi fyddai effaith anorfod dirywiad o’r fath yn y gweithgaredd busnes yng nghefn gwlad Cymru yn ddiamau yn cael effaith uniongyrchol ar hyfywedd busnesau, cyflogaeth wledig, a’r union gymunedau sy’n asgwrn cefn i’r Gymru wledig. Mae yna hefyd ddatgysylltiad clir iawn rhwng dyheadau’r Llywodraeth i gael polisïau amgylcheddol â’i methiant (fel y gwelsom gyda Chynllun Cynefin Cymru) i gefnogi cynlluniau o’r fath gyda chyllid digonol.
Mi fydd y flwyddyn sydd i ddod yn ddiamau yn dod â nifer o heriau yn ei sgil, ond mi fyddwn ni yno ar gyfer ein haelodau, yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod gennym ffermydd teuluol ffyniannus a chynaliadwy yma yng Nghymru am genedlaethau i ddod.