gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg, Y Tir
Ar ôl tymor wyna prysur, byddai unrhyw un yn meddwl ein bod ni wedi syrffedi gweld defaid! Ond mae’r dywediad Saesneg “live and breathe” yn berthnasol i ni lle mae defaid yn y cwestiwn! Ar ddechrau gwyliau’r Pasg a ninnau yn Aberystwyth am fore, daethom ar draws arddangosfa “DEFAID” sy’n cael ei chynnal yn Amgueddfa Ceredigion hyd nes Mehefin 29. Roedd rhaid mynd mewn am sbec!
Mae’r arddangosfa’n llawn ffotograffau, propiau, ffilmiau a gwaith celf, a’r cyfan yn canolbwyntio ar un o anifeiliaid mwyaf poblogaidd ac arwyddocaol amaethyddiaeth Cymru sef y ddafad.