gan Ian Rickman, Llywydd UAC
Erbyn i'r golofn hon fynd i brint a'r papur wedi glanio gyda chi, bydd y mwyafrif o’n sioeau sirol wedi dod i ben. Ac am dymor i’r sioeau! Roedd yn bleser ymuno â staff y siroedd a swyddogion lleol yr Undeb mewn cynifer o sioeau ag y gallwn i fod yn bresennol ynddynt – gan gyfarfod ag aelodau a gwleidyddion i drafod y materion hynny sy’n effeithio ar ein ffermydd teuluol heddiw, yfory ac o bosibl am genedlaethau i ddod.
Er bod yna faterion lleol i’w trafod ym mhob sioe bob amser, roedd y pryderon mwyaf a amlygwyd gennym yn ein cyfarfodydd yn canolbwyntio ar rai meysydd allweddol. Roedd rhain yn cynnwys cynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, y cynllun cynefinoedd newydd sy’n cymryd lle Glastir, cynnal ein cyllidebau amaethyddol i sicrhau bod y cynlluniau newydd hyn yn cael eu hariannu’n briodol, TB mewn gwartheg, a’r cymhlethdodau ynghylch y rheoliadau NVZ a’r rhwystrau a wynebir gan aelodau wrth gynllunio fel y gallant gydymffurfio â'r rheoliadau sy'n cael eu gosod.
Wrth i ffermwyr ledled Cymru geisio paratoi ar gyfer trydydd cam y Rheoliadau Adnoddau Dŵr, maent yn wynebu nifer o rwystrau wrth geisio buddsoddi mewn seilwaith newydd, yn enwedig materion yn ymwneud â’r broses gynllunio. Mae hyn yn cynnwys gwrthdaro rhwng y Rheoliadau Adnoddau Dŵr a’r Gorchymyn Draenio Cynaliadwy lle mae rhai Awdurdodau Lleol yn gofyn am gymeradwyaeth System Ddraenio Gynaliadwy (SDCau), sy’n golygu bod ffermwyr yn gorfod mynd i mwy o gostau, bod yna oedi a’r posibilrwydd o golli allan gan grantiau Llywodraeth Cymru i’w helpu i wneud y gwaith - gwaith a fynnir gan y rheoliadau. Rydym angen eglurder ar hyn, ac mae angen yr eglurder hwnnw’n fuan.
Bydd yr Aelodau’n falch o wybod ein bod wedi codi’r mater hwn gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a’r Gweinidog dros Faterion Gwledig ar sawl achlysur (ym mhob un o’r sioeau y gwnaethom gyfarfod â hi) ac rydym wedi cael sicrwydd y bydd y canllawiau diweddaraf yn cael eu darparu i awdurdodau cynllunio er mwyn egluro pryd nad oes angen SDCau - gwyliwch y gofod hwn!
Buom hefyd yn trafod yr effaith y mae cynhaeaf grawn gwael yn ei chael ar borthiant da byw, a goblygiadau ehangach hyn ar gostau cynhyrchu a sut nad yw ein haelodau’n gallu osgoi’r argyfwng costau byw a’u bod nhw hefyd yn teimlo effaith cyfraddau llog cynyddol.
Sôn am arian – yr hyn a welsom yn y sioeau ledled y wlad eto oedd cynrychiolaeth o’r holl fusnesau ail a thrydydd sector sy’n dibynnu ar ffermio. Roeddem yn hynod bryderus felly o glywed y newyddion bod disgwyl toriadau gwariant pellach gan Lywodraeth Cymru a bod angen i bob adran wneud toriadau gwariant, gan gynnwys amaethyddiaeth.
Er ein bod yn deall nad oes unrhyw weinyddiaeth yn ddiogel rhag toriadau gwariant ac yn gwerthfawrogi bod chwyddiant a chostau cynyddol yn effeithio ar bob sector, mae gan sgil-effeithiau ar y sector amaethyddiaeth y potensial i niweidio’r economi wledig ehangach a’n ffermydd teuluol bach a chanolig eu maint.
Felly, byddai rhagor o doriadau cyllid ar gyfer amaethyddiaeth yn gwbl annerbyniol a phwysleisiwyd y pwynt hwnnw wrth siarad â gwleidyddion o’r Senedd a San Steffan. Gofynnir i ffermwyr wneud mwy nag erioed, ac mae ein diwydiant yn wynebu bil am gydymffurfio yn sgil deddfwriaeth adnoddau dŵr newydd Llywodraeth Cymru sef oddeutu hanner biliwn o bunnoedd sy’n cyfateb i ddegau o filoedd o bunnoedd yr un, ar gyfartaledd ar gyfer y ffermydd teuluol sy’n bwydo ein cenedl ar adeg o brinder bwyd byd-eang.
Atgoffwyd y gwleidyddion bod maint y cymorth uniongyrchol mae ffermwyr yng Nghymru yn ei dderbyn eisoes wedi gostwng tua 25% ers 2015, ac y bydd yn gostwng ymhellach oherwydd chwyddiant eleni – felly byddai unrhyw doriad nominal i’r hyn y mae ffermwyr Cymru yn ei dderbyn yn gwaethygu’r hyn sydd eisoes yn doriad enfawr i daliadau sy’n cyfrif am tua 80% o elw ffermydd Cymru ar gyfartaledd.
Rydym wedi annog Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gryf i fynd i’r afael â’r diffyg yn y cyllid ar gyfer cyllideb amaethyddol Cymru. Gall yr Aelodau fod yn dawel eu meddwl inni godi hyn gyda gwleidyddion o bob plaid wleidyddol y gwnaethom gyfarfod â nhw yn y sioeau, gan gynnwys y Prif Weinidog Mark Drakeford, Gweinidog Amaethyddiaeth Cymru Lesley Griffiths a Gweinidog DEFRA Mark Spencer a byddwn yn parhau i lobïo i sicrhau bod gennym y cyllidebau sydd angen er mwyn i ni gefnogi ein ffermydd teuluol yng Nghymru.
I fynd ar drywydd arall - wrth deithio hyd a lled y wlad, rwyf wedi mwynhau gweld rhai o'r llety gwyliau a ddarperir gan ein haelodau ar eu ffermydd. Os oes gyda chi fenter hunanarlwyo neu os ydych chi'n rhedeg menter Gwely a Brecwast, yna cysylltwch â'ch swyddfa sirol fel y gallwn eich ychwanegu at ein rhestr o ddarparwyr llety posibl ar gyfer yr aelodau tîm hynny sy'n teithio ledled Cymru i weithio'n rheolaidd.
Tra dwi wedi bod yn brysur yn y sioeau mae dal angen gwneud gwaith ar y fferm. Mae Sean sy’n ffermio ar y cyd gyda ni yn Gurnos wedi bod yn gweithio’n galed, mae gwneud silwair wedi bod yn anodd oherwydd y tywydd yn ddiweddar ond rwy’n meddwl ein bod wedi gorffen o’r diwedd. Mae digon i’w wneud â’r defaid bob amser, ac mae’n ymddangos bod ein menter newydd o fagu lloi Wagyu yn mynd yn dda. Mae’n wych gweld brwdfrydedd Sean dros ffermio, er gwaethaf y pwysau yr ydym i gyd yn ei wynebu yn sgil costau mewnbwn uchel, baich rheoleiddio cynyddol, a’r ansicrwydd ynghylch cymorth i ffermydd yn y dyfodol.
Mae’n atgyfnerthu’r angen inni barhau i lobïo a chyfleu ein neges i sicrhau bod gennym ddiwydiant amaethyddol ffyniannus, hyfyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, a’r holl ffermwyr ifanc hynny fel Sean.