“Mae’r genhedlaeth nesaf yn dibynnu arnon ni ac rwy’n hollol benderfynol o beidio â’u siomi!”

“Mae’r genhedlaeth nesaf yn dibynnu arnon ni ac rwy’n hollol benderfynol o beidio â’u siomi!”

gan Ian Rickman, Llywydd UAC

Dechreuais fy ngholofn fis diwethaf drwy ddweud pa mor brysur oedd dechrau 2024, ac fel y gwyddom ni i gyd mae’r mis diwethaf wedi bod yr un mor brysur. Yn ystod y brotest ddiwedd Chwefror yng Nghaerdydd daeth ffermwyr o bob cwr o Gymru i’r Senedd i ddangos i’r gwleidyddion etholedig, yn ddi-flewyn-ar-dafod, cryfder y dicter a’r rhwystredigaeth yr ydym yn ei deimlo ar hyn o bryd.

Roedd yn enghraifft wych o’n cymunedau gwledig yn cydweithio i sicrhau bod y diwrnod yn llwyddiant ysgubol. Rydym yn ddiolchgar i’r trefnwyr am eu gwaith caled a’u hymdrechion, y busnesau lleol niferus, yn ogystal â’n swyddfeydd sirol UAC, a gefnogodd drwy drefnu bysus gyda phawb yn gweithio fel un i sicrhau mai hon oedd y brotest fwyaf a welwyd erioed o flaen y Senedd.

Roedd yn bleser edrych allan dros y dorf a gweld y placardiau niferus gyda’n logo FUW/UAC a diolch, nid yn unig i bawb a wnaeth yr ymdrech i gyrraedd Caerdydd y diwrnod hwnnw, ond hefyd i’r nifer oedd eisiau bod yno ond hefyd yn gorfod aros gartref ar y fferm ar un o adegau prysuraf y flwyddyn. Gwnaethom ein pwynt yn heddychlon a gydag urddas, gallwch weld rhai lluniau o’r brotest ar dudalennau 21 a 22.

Gobeithio bod Llywodraeth Cymru nawr yn sylweddoli bod angen newid mwy na ambell i beth bach yn yr SFS - mae angen inni weld newid sylweddol i wneud haen gyffredinol y cynllun yn wirioneddol hygyrch i holl ffermwyr Cymru.

Mae’r neges gan ffermwyr ar hyn o bryd yn glir, os yw’r cynllun yn parhau ar ei ffurf bresennol, yna mae llawer yn teimlo na allant ymuno â’r SFS, ac yn y sefyllfa honno nid oes neb yn ennill, rydym i gyd yn colli, yn enwedig ein cymunedau lleol a’r llu o fusnesau a swyddi sy’n dibynnu ar ein cymorth.

Ond nid yw popeth mor ddu â hynny, mae gennym gyfle nawr gyda newid wrth y llyw yn Llywodraeth Cymru. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Vaughan Gething a Huw Irranca Davies, ac ni fydd ganddynt unrhyw amheuaeth ynghylch pryderon yr aelodau, nid yn unig ynghylch yr SFS ond hefyd TB a’r rheoliadau NVZ. Mae angen i ni ddod o hyd i ffordd ymlaen a gweld rhywfaint o newid ystyrlon - gweithredoedd nid geiriau.

Nid yn unig rydym wedi bod yn lleisio eich pryderon i Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd ond roedd mis Mawrth hefyd yn fis prysur gyda chynadleddau gwanwyn y pleidiau gwleidyddol yma yng Nghymru. Rydym wedi bod yn bresennol yn y tri, yn siarad ag aelodau a gwleidyddion y Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru. Mae ein trafodaethau wedi cynnwys eich pryderon a thrwy weithio gyda’n cyfatebwyr yn NFU Cymru rydym wedi cyflwyno neges gref, unedig ar y tri mater allweddol hynny sef SFS, TB a NVZs.

Ymysg yr holl lobïo mae yna amser wedi bod ar gyfer rhywfaint o ffermio. Fel llawer ledled Cymru rydym yn brysur yn wyna yma yn y Gurnos, ac rwy’n ddiolchgar i fy ngwraig Helen a Sean, fy mhartner busnes ifanc, am ofalu am y defaid yn fy absenoldeb. Mae'r ddau yn fedrus ac yn effeithlon ac yn cael eu cefnogi gan ein bechgyn ar benwythnosau gyda Lily Annie, y myfyriwr milfeddygol, yma hefyd yn gweithio gyda ni. Mae’n wych cael y bobl ifanc o gwmpas, mae cenedlaethau’r dyfodol mor hanfodol i’n diwydiant gwych a’n cymunedau.

Wrth i mi ysgrifennu rydym dros hanner ffordd trwy’r wyna, felly gyda’r gwanwyn, a thywydd gwell, gobeithio, rownd y gornel, mae gweld y defaid a’u hŵyn allan yn y caeau bob amser yn gyfnod o optimistiaeth.

Mae’n rhaid i ni aros yn bositif, mae’r genhedlaeth nesaf yn dibynnu arnom ni ac rwy’n hollol benderfynol o beidio â’u siomi!