gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg
Rhyw ffordd neu’i gilydd, mae Cornel Clecs wedi glanio ar dudalennau Y Tir bob mis ers Hydref 2015. Mae’n dipyn o sialens ambell i fis, ond ddim cymaint o sialens a’r mis yma, y mis cyntaf i mi ysgrifennu’r golofn o’n swyddfa fach newydd, adref. Mae’n ffordd o fyw ni gyd wedi newid dros nos, gweithio o adre, a Ladi Fach Tŷ Ni bellach yn derbyn ei haddysg drwy gyfrwng y we, adref. Ond rydym yn gwneud y gorau o’r sefyllfa hyll sydd ohoni ac yn cyfri ein bendithion am gael bod yn iach ac yn ddiogel adref ac yn diolch i’r rhai hynny sy’n allweddol i gadw olwynion ein gwlad i fynd.
Ynghanol argyfwng y coronofirws presennol, rwy’n cyfaddef, ar adegau, fy mod yn edrych ar fwyd a’i baratoi mewn ffordd wahanol. Gyda phawb yn gaeth i’r cyfyngiadau symud, nid yw’n bosib picio i’r siop fel mae’r awydd yn codi. Mae ymweliad o’r fath yn gorfod cael ei gynllunio yn ofalus, dyddiau o flaen llaw, ac yn aml, yn gorfod cyd-fynd gyda mynd i’r fet, i’r syrjeri i moen presgripsiwn neu neges hanfodol arall.
Ar ddechrau’r argyfwng presennol, a phan oedd rhai nwyddau yn brin, roeddwn yn meddwl dwywaith cyn meddwl coginio ambell bryd, gan boeni mewn ffordd, a fyddai digon o hwn a’r llall gyda fi tan y ‘siopa’ nesaf. Rwy’n perthyn i genhedlaeth sydd erioed wedi gorfod meddwl fel hyn o’r blaen, wedi cael ein sbwylio yn ôl rhai efallai. Ond meddyliwch gorfod meddwl fel hyn am fwyd am gyfnod mwy na rhai misoedd. Dyna fel oedd pethau adeg y rhyfeloedd.
Yn ffodus iawn, daeth teulu ochr fy nhad at ei gilydd am gwpwl o oriau dros y Nadolig, ni feddyliodd neb bryd hynny, ni fyddai’n bosib dod at ein gilydd am beth amser wedyn. Roedd mis yma fod yn fis pwysig o ran dathliadau VE, y Fuddugoliaeth yn Ewrop, a gyda sôn am hyn ers sbel, roedd Ladi Fach Tŷ Ni wedi cymryd diddordeb yn hanes y rhyfel, ac yn fwy pwysig hanes ei hen dad-cu yn gwasanaethu yn y rhyfel. Cafodd gyfle i weld rhai pethau’n eiddo i’n nhad-cu adeg y rhyfel.
Wrth edrych ar yr holl bethau, tynnwyd fy sylw at y llyfr bach dogni bwyd. Meddyliwch gorfod byw gyda’ch siâr chi o fwyd am gyfnod penodol o amser. Gyda nwyddau megis siwgr, cig, olew coginio, a bwyd mewn tin yn cael eu dogni i sicrhau bod digon ar gyfer pawb.
Meddyliwch am heddiw, sefyllfa i’r gwrthwyneb yn hollol. Dim llyfr dogni bwyd gan fod digon o laeth, a digon o gig ar gael. Ond mae gweld ffermwyr llaeth yn arllwys llaeth ffres i lawr y draen, gan fod dim galw amdano yn dorcalonnus. Mae pawb yn gorfod bwyta adref yn hytrach na mynd allan i fwyta, ac yn golygu bod neb digon mentrus i goginio’r darnau gwell o gig fel y stêcs ayyb, a hynny’n arwain at ostyngiad yn y galw.
Rydym mor ffodus yma yng Nghymru o’n ffermwyr, sy’n gweithio bob awr posib i edrych ar ôl eu hanifeiliaid i sicrhau bod bwyd gwych o safon ardderchog ar gael ar y plât. Mae’n amser i ni gyd gyfrif ein bendithion a diolch i’r rhai hynny sy’n sicrhau bod digon o fwyd ar gael i ni.
Beth am gofio am aberth fy nhad-cu a’i gyd-filwyr ar ddiwrnod VE eleni wrth gefnogi’n arwyr modern, ein ffermwyr. Cofiwch am y stecen gorau o bîff neu’r golwyth o gig oen sy’n tynnu’r dŵr o’ch dannedd, a chodwch wydriad o laeth i’n ffermwyr oll - Iechyd da bawb!