Ffermwr bîff o Geredigion yw arweinydd newydd Pwyllgor Iechyd a Lles Anifeiliaid UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi penodi ffermwr bîff o Geredigion fel cadeirydd newydd y pwyllgor Iechyd a Lles Anifeiliaid mewn cyfarfod diweddar yn Aberystwyth.

Mae Ian Lloyd yn ffermio 115 erw yn Hafan Hedd, Beulah ar gyrion Castell Newydd Emlyn, Ceredigion ac yn cadw 25 o wartheg sugno Aberdeen Angus, 25 o loi a 27 o rhai blwyddi.

Yn siarad am ei benodiad, dywedodd Ian Lloyd: “Mae’n fraint cael arwain y pwyllgor hollbwysig hwn ac rwyf am ddiolch i’r cyn cadeirydd, Dr Catherine Nakielny am ei holl waith caled dros y blynyddoedd.

“Mae gen i ddiddordeb mawr mewn iechyd a lles anifeiliaid, ac rwy’n edrych ymlaen at gynorthwyo UAC i ddatblygu’r meysydd eang sy’n cael sylw’r pwyllgor.

“Er gwaethaf y rhaglenni dileu niferus dros y blynyddoedd, mae TB yn parhau i achosi anawsterau emosiynol ac ariannol, gan ddinistrio llawer o deuluoedd amaethyddol, a bydd hyn yn parhau i fod yn bwnc allweddol i'r pwyllgor hwn.

Rydym yn gwybod bod lefelau presennol TB mewn gwartheg yng Nghymru yn uwch na'r hyn sy’n dderbyniol i wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd pan fydd y DU y tu allan i'r farchnad sengl ac rydym yn bryderus iawn y gall statws presennol y clefyd fod yn bwnc trafod heriol.

“Mae’r agwedd ranbarthol newydd, a ddaeth i rym ym mis Hydref eleni, yn hynod o gymhleth ac ymrannol, ac o bosib yn mynd i ostwng incwm drwy greu marchnad dwy haen ar gyfer gwartheg. Wrth gwrs, roedd UAC yn gwrthwynebu'r agwedd ranbarthol yma, ac amser a ddengys os yw’r strategaeth hon wedi cael unrhyw effaith ar lefelau TB mewn gwartheg yng Nghymru.

"Hoffwn hefyd annog ffermwyr Cymru i sicrhau eu bod nhw’n mynychu'r seminarau TB teithiol sy’n cael eu trefnu gan UAC mewn cydweithrediad ag APHA, i sicrhau eu bod nhw’n gyfarwydd â'r rheolau a'r rheoliadau newydd."