Myfyrwyr Daearyddiaeth Prifysgol Bangor yn mwynhau ymweld â fferm ym Meirionnydd

Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr Daearyddiaeth o Brifysgol Bangor y cyfle i fwynhau ymweld â fferm ym Meirionnydd ac i drafod #AmaethAmByth gydag Undeb Amaethwyr Cymru.

Croesawodd Olwen Ford, aelod o gangen Meirionnydd Undeb Amaethwyr Cymru pawb yn gynnes i’w fferm 70 hectar sef Fferm y Llan yn Llanfrothen.  Mae’r fferm yn ymestyn o lefel y môr i 500 troedfedd ac yn cynhyrchu cig oen a bîff o fridiau traddodiadol.  Roedd Geraint Davies, cadeirydd cangen UAC Meirionnydd ac sydd newydd gael ei benodi fel cadeirydd Pwyllgor Llais yr Ifanc dros Ffermio UAC a Gweithredwraig Cyfrif FUWIS Eirian Lloyd Hughes hefyd yn bresennol.

Dywedodd Swyddog Polisi UAC Charlotte Priddy: “Roedd hi’n gyfle gwych i’r myfyrwyr weld y gwahanol gaeau a dysgu sut mae tir ar lefel y môr yn wahanol i hynny ar dir uwch. Trafodwyd gwahanol bolisïau sy'n effeithio ar ffermwyr yng Nghymru, megis y manteision ac anfanteision o bolisïau amaeth-amgylcheddol a manteision a chyfyngiadau polisi bwyd a masnach, yn ogystal â tharddiad bwyd, dyfodol polisi bwyd ac amgylcheddol ar ôl Brexit."

Yn siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd Olwen Ford “Rwy'n credu bod digwyddiadau fel hyn yn hollbwysig i ddyfodol y diwydiant. Bwriad y diwrnod oedd ceisio archwilio cynhyrchu bwyd lleol, cadwyni bwyd ac i dreulio amser yn meddwl am ble mae’n bwyd ni’n tarddu o.

"Mae gwahodd myfyrwyr o'r Brifysgol i'r fferm fel hyn yn ffordd wych o godi ymwybyddiaeth o'r systemau cynhyrchu bwyd ac i weld popeth y mae ffermio yn ei gynnwys - mae'n bosibl iawn mai rhai o'r myfyrwyr hyn fydd gwneuthurwyr polisi'r dyfodol!"

Siaradodd Geraint Davies, sy’n ffermio  fferm sy’n dringo o 750 troedfedd i fwy na dwy fil troedfedd, gyda'r myfyrwyr am ffermio mynydd, gan amlygu'r gwahanol feintiau a mathau o ffermydd o fewn yr un sir. Ychwanegodd: "Roedd y diwrnod yn llwyddiant llwyr a hoffwn ddiolch i Olwen am gynnal y digwyddiad. Roedd yn wych clywed gan gymaint o bobl ifanc sy'n awyddus i ddysgu am y diwydiant a byddwn yn parhau â'n hymdrechion i addysgu a gweithio gyda gwneuthurwyr polisi'r dyfodol."

Ymunodd Dr. Eifiona Thomas Lane, Darlithydd mewn Cynllunio Amgylcheddol a Daearyddiaeth â'r myfyrwyr ac esboniodd: "Roedd hwn yn gyfle anarferol o newydd i'n myfyrwyr flwyddyn olaf mewn Daearyddiaeth i glywed yn uniongyrchol am ddylanwad polisi amaeth-amgylcheddol a bwyd ar ffermydd teuluol, y gymuned wledig ehangach a'r economi fwyd lleol. Yn sicr, roedd yr ymweliad a mewnbwn arbenigol UAC yn ysgogi trafodaeth danllyd yn ddiweddarach yn y bws mini ar y ffordd yn ôl i Fangor am yr awgrym bod bwyd wedi dod yn isgynnyrch o ffermio yng Nghymru.

"Bydd llawer o'r rhai hynny sydd wedi dewis modiwl newydd Prifysgol Bangor mewn Daearyddiaeth Arloesedd Bwyd a Diod yn dod yn gynllunwyr, athrawon, gwneuthurwyr polisi bwyd ac ymchwilwyr gwleidyddol felly mae cysylltu â rhanddeiliaid go iawn yn agwedd hynod bwysig o'u dysgu academaidd a'u rhagolygon o swyddi fel graddedigion sydd bellach yn deall yn well sut y gall cefn gwlad weithio.”