UAC yn ymateb i Gynllun Gwrth-laeth Gordewdra Plant

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn rhybuddio y gallai'r mesurau ariannol argymhelliedig a amlinellwyd yng Nghynllun Gordewdra Plant Pwyllgor Iechyd Tŷ’r Cyffredin gael goblygiadau niweidiol a phellgyrhaeddol ar gyfer sector llaeth Cymru.

Disgwylir i'r Llywodraeth gyhoeddi fersiwn newydd o Gynllun Gordewdra Plant 2016 cyn hir. Fel rhan o'r adroddiad hwn, awgrymwyd bod yna gynlluniau i ymestyn yr ardoll dreth ar ddiodydd melys i ddiodydd llaeth, a hynny ‘ar frys' gan Bwyllgor Iechyd Tŷ’r Cyffredin.

Mae UAC yn cytuno ag amcanion y Cynllun Gordewdra Plant ac yn cefnogi gweithredu ar ehangu iechyd. Ond, mae'r Undeb yn gwrthwynebu'n gryf y bwriad y dylai diodydd melys a phob diod llaeth gael yr un ardoll treth. Nid yw’r cynhyrchion yn debyg ac felly byddai gosod cosb ardoll ar ddiodydd llaeth maeth yn amhriodol.

Dywedodd Dai Miles, Cadeirydd Pwyllgor Llaeth UAC: "Mae cynhyrchion llaeth yn cynnwys fitaminau a mwynau sy'n hanfodol ar gyfer iechyd a lles, gan gynnwys calsiwm, ïodin, ribofflafin a fitamin B12.

"Mae UAC yn credu bod y Modelu Proffiliau Maeth wedi niweidio cynnyrch llaeth maethlon ac o bosib yn effeithio ar farn y prynwyr.”

Mae UAC yn parhau i hyrwyddo’r manteision iechyd o gynnyrch llaeth ac yn gweithio gyda’r rhanddeiliad perthnasol i drafod ffyrdd sut dylai’r cynllun hwn symud ymlaen.