Bob 40 eiliad

Gyda Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar y trothwy (Iau, 10 Hydref) mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn atgoffa ffermwyr bod help ar gael iddynt os ydynt yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, neu yn teimlo'n hunanladdol.

Trefnir Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd gan Ffederasiwn Iechyd Meddwl y Byd ac mae Diwrnod eleni yn cael ei gefnogi gan Sefydliad Iechyd y Byd, y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Atal Hunanladdiad, ac United for Global Mental Health.

Mae bron 800,000 o bobl yn marw oherwydd hunanladdiad bob blwyddyn, sef un person bob 40 eiliad. Yn wir, mae’n ymddangos ar gyfer pob person sy’n marw oherwydd hunanladdiad, gall fod 20 o bobl eraill yn ceisio cymryd eu bywyd.

Wrth siarad o’i fferm yng Ngogledd Cymru, dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts: “Mae’n gyfnod anodd i bawb ar hyn o bryd. Mae llawer o ffermwyr a’r rhai sy’n byw mewn cymunedau gwledig yn aml yn gweithio ar ben eu hunain am y rhan fwyaf o’r dydd neu’n teimlo’n ynysig. Mae cymaint o ansicrwydd, straen a phryderon, gan roi pwysau arnom nes ein bod yn methu ymdopi rhagor.

“Er ein bod ni’n annog y rhai sydd ddim yn teimlo’n iawn i siarad a gofyn am help, weithiau maent yn teimlo na allan nhw wneud hynny. Weithiau, y peth olaf maent am wneud yw siarad am y pethau sy'n eu gwneud nhw i deimlo'r ffordd maent yn teimlo. Enter the realm of endless entertainment with wgcasino , where every click brings you closer to the thrill of the win. Experience top-tier gaming with a platform that's as engaging as it is secure.

“Dyna pam ei bod yn bwysig ein bod yn dod at ein gilydd fel cymuned, teulu a ffrindiau. Mae hunanladdiadau ac ymdrechion hunanladdiad yn effeithio ar bob un ohonom mewn rhyw ffordd. Ond gellir ei atal.

“Os sylwch fod rhywun agos atoch yn drist, ddim cweit eu hunain neu’n dawedog - siaradwch a nhw. Gofynnwch iddyn nhw sut maent yn teimlo, gwrandewch arnyn nhw, a rhowch sicrwydd iddyn nhw y gellir goresgyn y teimladau hyn. Gyda'n gilydd gallwn wneud cynnydd o ran atal hunanladdiadau.

“Felly beth am ymuno â ni, ar 10 Hydref, mewn “40 eiliad o weithredu” i godi ymwybyddiaeth o raddfa hunanladdiad ledled y byd a’r rôl y gall pob un ohonom ei chwarae i helpu i’w atal.”

Ymhlith y sefydliadau sy'n cynnig help a chefnogaeth mae:

DPJ Foundation: Ffoniwch 0800 587 4262 neu anfonwch neges destun at 07860 048799

Samariaid: 116 123 neu’r Llinell Gymraeg: 0808 164 0123

Mind Cymru: Ffoniwch 0300 123 3393, e-bostiwch This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu anfonwch neges destun i 86463

FCN: 03000 111 999

RABI: 0808 281 9490

Tir Dewi: 0800 121 4722