Ni ddylai Coronafirws thanseilio iechyd da byw yn yr hir dymor, meddai FUW

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi ysgrifennu at Weinidog Economi Cymru, Ken Skates, i gefnogi galwad Cymdeithas Filfeddygol Prydain i weithredu er mwyn sicrhau nad yw’r pandemig Covid-19 yn arwain at ostyngiad yn y gallu milfeddygol yn y dyfodol.

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Lles Anifeiliaid FUW, Mr Ian Lloyd: “Nid yw’r pandemig presennol yn newid pwysigrwydd sicrhau bod lefelau staffio mewn milfeddygfeydd yn golygu bod gofal brys 24/7 ar gyfer da byw yn cael ei ddarparu er mwyn diogelu iechyd a lles anifeiliaid.  Efallai y bydd hyn yn golygu galw staff nôl o Furlough ac mae'n hanfodol bod y cynllun Furlough yn ddigon hyblyg i ymdopi â'r math hwn o drefniant."

Mae'r FUW hefyd wedi galw am gefnogaeth ar ffurf Rhyddhad Cyfradd Busnes i leihau'r risg o filfeddygfeydd yn mynd yn anghynaladwy yn ariannol yn ystod y pandemig, a'r gostyngiadau posibl yn y gallu ar gyfer gwasanaethau hanfodol fel profion TB.

“Mae ffermwyr yng Nghymru yn gweithio ar y cyd â’u milfeddyg fferm i fagu da byw i safonau uchel o iechyd a lles anifeiliaid ac yn cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif. Rhan hanfodol o gynnal a gwella iechyd da byw yw milfeddyg y fferm ac felly mae'n bwysig nad yw canlyniadau ariannol y pandemig hwn yn cau milfeddygfeydd, yn lleihau’r gallu milfeddygol ac yn lleihau ein gallu i ofalu am dda byw yn y dyfodol.

“Mae goblygiadau enfawr i ffermwyr os bydd yn rhaid i milfeddygfeydd gau. Pan fydd effaith y pandemig hwn wedi lleihau, ac wrth i'r DU baratoi cytundebau masnach ar ôl Brexit yn y dyfodol, mae'n hanfodol sicrhau bod y swyddi hynny sy'n amddiffyn ein statws fel cynhyrchwyr bwyd diogel o ansawdd uchel yn cael eu gwarchod.

“Blaenoriaeth FUW bob amser fydd sicrhau dyfodol ffermydd yng Nghymru. O ystyried bod milfeddygfeydd yn rhan hanfodol o’r gadwyn gyflenwi, mae’r Undeb wedi ysgrifennu at yr ysgrifennydd busnes i gefnogi galwad Cymdeithas Filfeddygol Prydain am gamau adferol i sicrhau nad yw’r pandemig hwn yn arwain at ostyngiad yn y gallu milfeddygol yn y dyfodol,” ychwanegodd Mr Lloyd.

Diwedd