Mae cynhyrchu bwyd ac edrych ar ôl yr amgylchedd yn mynd law yn llaw meddai teulu ffermio o Ogledd Cymru

Mae teulu ffermio o Ogledd Cymru yn arwain y ffordd wrth edrych ar ôl yr amgylchedd a chynhyrchu bwyd, ar ôl ymgymryd â gwaith adfer helaeth o fawndir ar eu fferm yn ddiweddar ar y cyd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Phrosiect Cynllun Rheoli Cynaliadwy (CRhC) Mawndiroedd Cymru i ddatblygu'r prosiect Cod Mawndir cyntaf yng Nghymru.

Mae'r teulu Roberts, sydd wedi ffermio yn Fferm Pennant, Llanymawddwy ers sawl cenhedlaeth, yn cadw gwartheg bîff a defaid, defaid mynydd yn bennaf a rhai croesfridiau. Maent hefyd yn cadw buches sugno fach a defaid croesfrid ar dir isel ac mae'r teulu wedi arallgyfeirio i lety gwyliau. Mae yna ymdeimlad cryf o gyfrifoldeb o ran edrych ar ôl yr amgylchedd a chreu cynefinoedd bioamrywiol, yn ogystal â chynhyrchu bwyd.

Wrth wireddu eu huchelgeisiau amgylcheddol, aeth aelodau Undeb Amaethwyr Cymru, Lisa a Sion Roberts, ati i wneud gwaith adfer i ail-broffilio a chau torlannau mawn a rhigolau ar draws safle Bwlch y Groes, a contractwyr mawndir profiadol fu’n gyfrifol am y gwaith ar ddiwedd 2020 a dechrau 2021.

Trwy adfer y safle amcangyfrifir y bydd 2,335 tunnell o allyriadau carbon yn cael eu hatal rhag cael eu rhyddhau dros y 35 mlynedd nesaf, sy’n fras yn gyfwerth â’r cyfaint o garbon deuocsid a gynhyrchir wrth losgi llond 632* tanc domestig o olew. Ar hyn o bryd mae'r allyriadau o fawndiroedd diraddiedig yn y DU yn cyfrif am 4% o gyfanswm yr allyriadau cenedlaethol, gan wneud adfer mawndir yn hanfodol bwysig ar gyfer targedau hinsawdd genedlaethol.

Mae Lisa Roberts, yn esbonio hanes y prosiect: “Roeddwn i ar gyfnod mamolaeth gyda'n hail blentyn, ac yn meddwl bod yn rhaid bod rhywbeth y gallwn ei wneud gyda'r mawn sydd gyda ni ar y mynyddoedd, yn yr un modd â chod carbon y coetir. Edrychais i mewn iddo a darganfod bod prosiect ar y gweill gyda'r Parc Cenedlaethol. Hwn oedd y cyntaf o'i fath ac yn gynllun peilot. Ar ôl llawer o ymchwil, achubwyd ar y cyfle a chychwynnodd y broses. Heddiw, mae'r prosiect adfer mawndir 65.77 hectar wedi'i gwblhau'n llwyddiannus yma ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri."

Yn rhedeg ar hyd ymyl ddwyreiniol Parc Cenedlaethol Eryri, mae ardal y prosiect o fewn y Berwyn a Mynyddoedd De Clwyd, sydd, yn 2,209 ha, yn un o'r ardaloedd mwyaf o rostir yr ucheldir yn Ewrop. Mae safle adfer mawndir Bwlch y Groes yn gors helaeth wedi'i lleoli mewn bwlch i'r gorllewin o Lyn Efyrnwy sy'n swatio rhwng Aran Fawddwy a mynyddoedd Berwyn yn ne Eryri. 

Dywedodd Lisa: “Roeddem yn ffodus iawn o’r gefnogaeth a gawsom ar gyfer y prosiect hwn oherwydd bod gennym y Parc Cenedlaethol, roeddent yn rhan o'r prosiect ac yn awyddus iddo weithio. Cawsom gefnogaeth o'r dechrau - cael y cyllid, dechrau'r gwaith adfer i werthu'r credydau carbon. Fy mhrif bryder yw y bydd y ffermwr cyffredin, nad oes ganddo gefnogaeth Parc Cenedlaethol, yn ei chael hi'n anoddach gwerthu'r credydau carbon. Mae'n brofiad newydd. Mae angen i chi sicrhau eich bod chi'n ei gael yn iawn os ydych chi am gael y cyllid carbon hwnnw ar y diwedd. Mae'n rhaid ei ddilysu ac mae'n rhaid i chi ofalu amdano am o leiaf 30 mlynedd. Mae'n ymrwymiad mawr ond y gellir ei gyflawni gyda'r gefnogaeth gywir ar gael.”

Mae cyllid i gyflawni’r prosiect wedi dod o gyfuniad o gefnogaeth gan Gynllun Rheoli Cynaliadwy (CRhC) Mawndiroedd Cymru a chyllid gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020), ochr yn ochr ag incwm carbon o werthu credydau carbon.

Mae’r ardal amgylchynol yn cynnal y darn helaethaf trwy Gymru o gors sydd fwy neu lai’n gwbl naturiol, a hefyd yr ardal ucheldir pwysicaf ar gyfer adar sy’n magu, yn cynnwys amrywiaeth eang o rywogaethau o bwysigrwydd rhyngwladol.  Mae safle'r prosiect yn gorwedd o fewn nifer o ardaloedd ACA, AGA a SoDdGA dynodedig. Yn ogystal ag atal colli carbon o'r safle a diogelu'r storfa sylweddol o garbon sydd yn y mawndir, rhagwelir daw buddion eraill yn sgil y gwaith fel gwell ansawdd dŵr, llif dŵr mwy cyson, mwy o fioamrywiaeth, a gwella amodau cynefin ar gyfer infertebratau dŵr croyw. Fodd bynnag, nid yw'n alwad am gael gwared â da byw o'r mynydd.

“Mae ffermio da byw ac edrych ar ôl yr amgylchedd yn mynd law yn llaw yma. Rydym wedi cadw defaid a gwartheg yma ar y mynydd. Maent yn rhan hanfodol o gadw'r fioamrywiaeth i ffynnu yma ar y mynydd. Dydw i ddim eisiau meddwl sut olwg fyddai arno pe na baent yma, unllystyfiant fyddai yma i raddau helaeth. Mae'n ymwneud â rheoli, nid gor-stocio. Mae angen i ni reoli'r hyn sydd gennym a'i reoli'n dda i hyrwyddo'r fioamrywiaeth honno ar y mynydd hwn. Mae'r gwartheg sydd yma wedi gwella'r tir, wedi agor y glaswelltau ac yn helpu i reoli brwyn a chorlwyni fel grug sy'n sychu'r mawn. Mae'r cyfan yn rhan o'r ecosystem a sut y cafodd ei reoli ers canrifoedd,” esboniodd Lisa.

Yn ymwybodol o ganfyddiad y cyhoedd o ffermio a’r pryder sylfaenol ynglŷn â newid yn yr hinsawdd, mae Lisa a Sion yn glir bod ffermio yma yng Nghymru yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i’r afael â phryderon o’r fath. “Mae pobl yn fwy craff nawr ac yn gofyn o ble mae eu bwyd yn dod. Maent yn poeni mwy am ôl troed carbon y cynnyrch. Mae mwy o bwysau ar y diwydiant, fodd bynnag, mae angen i ni weiddi ychydig yn uwch am y gwaith da rydyn ni'n ei wneud. Mae hon yn enghraifft dda o hynny ac mae yna lawer o waith da arall yn digwydd ledled y wlad,” meddai Sion Roberts.

“Nid yw ffermwyr yn gyfrifol am ddinistrio'r amgylchedd. Yn gyffredinol, pan gewch yr ystadegau mawr hyn, cewch olwg gyffredinol fyd-eang ar amaethyddiaeth ac mae ymhell o'r hyn sy'n digwydd yma yng Nghymru. Rydym ar y blaen i lawer o wledydd eraill o ran edrych ar ôl yr amgylchedd. Byddai'n braf gweld trwy gynlluniau amaeth-amgylchedd fel Glastir faint o wrychoedd sydd wedi'u plannu a choetiroedd sydd wedi'u creu eisoes. Byddai'r ystadegau hynny'n eithaf anhygoel. Mae angen i ni fod yn well am gipio a chyhoeddi’r wybodaeth honno. Mae cymaint o ffermwyr hefyd bellach yn ceisio gwella effeithlonrwydd ffermydd trwy leihau diwrnodau i dorri a gwneud gwell defnydd effeithiol o laswellt, mae'r cyfan yn helpu pan ddaw at ein hôl troed carbon fel diwydiant,” ychwanegodd Lisa.

Mae'r teulu bellach hefyd yn edrych ar blannu coed i wella eu hôl troed carbon ymhellach. “Nid ydym wedi penderfynu ar faint eto ac nid ydym yn mynd i blannu’r fferm gyfan yn llawn coed. Ar hyd o bryd rydym yn ystyried rhannau serth y tir, lle na allwn gael y tractor i, a lle na allwn bori llawer o dda byw a lle mae wedi'u gorchuddio â rhedyn. Rydyn ni wedi nodi rhai parseli bach o dir lle rydyn ni'n meddwl nad ydyn nhw'n gynhyrchiol iawn o ran cynhyrchu bwyd ac rydyn ni'n gobeithio eu troi'n barseli coetir bach a gwerthu'r credyd carbon neu eu rheoli at ein dibenion ein hunain,” meddai Lisa.

Nid yw uchelgeisiau i leihau ffermio da byw dan ffurf atal newid yn yr hinsawdd mewn sefyllfa dda yn ôl teulu Roberts. “Trwy wahanol gynlluniau amaeth-amgylchedd fel Glastir bu’n rhaid i ni leihau nifer y da byw yma ond yn sicr ni allent fynd unrhyw is. Mae'r da byw yn chwarae rhan hanfodol ​​wrth reoli'r dirwedd a'r amgylchedd hwn. Maent yn gwella bioamrywiaeth ac mae'n creu cynefinoedd. Mae hon yn ardal SoDdGA ac mae gennym amrywiaeth enfawr o rywogaethau yn ffynnu ar y tir. Rydym yn monitro hynny fel rhan o'r SoDdGA. Mae pori yn hanfodol ar gyfer y fioamrywiaeth honno. Nid yw'n ymwneud â lleihau nifer y da byw, mae'n ymwneud â gwella effeithlonrwydd cynhyrchu,” ychwanegodd Sion.

“Mae'n syniad da i feddwl y tu allan i'r bocs lle gallwch chi a gwthio'ch busnes ymlaen. Ffactor sy'n cyfyngu ar fferm fynydd fel hyn yw cynyddu nifer y da byw.  Nid oes gennym y tir i ehangu da byw heb lawer o iseldir ar gael i ni. Felly roedd angen i ni edrych ar ffyrdd eraill fel hyn, sydd wedi caniatáu i ni wella ein perfformiad amgylcheddol. Ffermio yw ein bywyd. Cefais fy magu ar fferm, priodais ffermwr ac yn ystyried fy hun yn ffermwr - nid gwraig ffermwr yn unig. Rwy’n angerddol am ffermio ac mae angen i bobl ddeall y gallwch gynhyrchu bwyd law yn llaw â’r amgylchedd. Mae angen herio canfyddiad y cyhoedd bod cynhyrchu bwyd yn ddrwg i’r amgylchedd ac mae hon yn un enghraifft, fel llawer o rai eraill yng Nghymru, o sut y gall weithio gyda’i gilydd,” meddai Lisa.