Image

Cynlluniau Amaeth-Amgylcheddol

Bydd cadwraeth a’r amgylchedd yn cael dylanwad sylweddol ar ddyfodol y diwydiant. Rydym yn gobeithio y bydd y gwasanaeth hwn o gymorth i’n aelodau wrth ddygymod â’r neiwidadau hyn sydd ar y gorwel.

Pecyn Glastir Grantiau Bach
Cost - £250 (pob ffenest ymgeisio)

Mae’r cynllun Glastir Grantiau Bach yn darparu hyd at £7,500 o gyllid tuag at waith cyfalaf, megis plannu perthi/gwrychoedd newydd, bondocio perthi/gwrychoedd a chau bylchau, plannu coed, a phlygu gwrychoedd. Yn ogystal, mae gwaith cyfalaf ategol ar gael, megis ffensio, cafnau dŵr a giatiau a bydd cyllid hefyd ar gyfer adfer waliau cerrig sych ym mis Mai. 

Bydd ein tîm yn eich helpu i ddeall holl reolau’r cynllun, gyda chefnogaeth ac arweiniad trwy gydol y broses ymgeisio. Gall un camgymeriad ar y gwaith papur, neu wall yn eich cais am waith cyfalaf, arwain at gosbau llym y gellid eu hosgoi.

  • Trafod opsiynau posib ar gyfer eich fferm
  • Cyflwyno ceisiadau
  • Derbyn cytundebau
  • Tynnu lluniau geotag - cyn ac ar ôl
  • Hawlio a chyflwyno gwaith cyfalaf


Pecyn Glastir Llawn

Cost - £400 y flwyddyn

Mae gennym staff ymroddedig yn barod i roi tawelwch meddwl i chi nad ydych yn methu unrhyw negeseuon neu wybodaeth bwysig. Bydd ein tîm yn eich helpu i weithio drwy’r rheolau a chadw at ofynion prosiect gyda chefnogaeth ac arweiniad trwy gydol y broses ymgeisio. Gall camgymeriad bach ar y gwaith papur neu wall yn eich cais am waith cyfalaf arwain at gosbau costus y gellir eu hosgoi. 


  • Gwasanaethau diderfyn gan arbenigwyr amaeth-amgylcheddol trwy gydol y flwyddyn
  • Diweddaru Dyddiaduron Glastir 
  • 2 ymweliad fferm
  • Hawlio Gwaith Cyfalaf
  • Ysgrifennu a phrosesu apeliadau. 
  • Profi Pridd

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a ni yma.