#AmaethAmByth yn dwyn sylw gwobrau Public Affairs UK

Mae ymgyrch #AmaethAmByth Undeb Amaethwyr Cymru, sy’n arddangos y rôl allweddol y mae ffermio yn ei chwarae yn yr economi wledig ehangach ac yn dangos pwysigrwydd cymdeithasol a diwylliannol ehangach ffermio yng Nghymru gyda'r nod ehangach o argyhoeddi Llywodraeth Cymru ei fod yn hanfodol i amddiffyn ffermio Cymru rhag effaith negyddol posibl Brexit, wedi cael ei chydnabod yng Ngwobrau Public Affairs UK fel yr ymgyrch orau yng Nghymru.

Dros y 18 mis diwethaf bu UAC yn brysur yn tynnu sylw at pam fod amaethyddiaeth yn bwysig a phan bleidleisiodd y DU i adael yr UE ym mis Mehefin 2016, sylweddolwyd ar unwaith bod angen codi ymwybyddiaeth o'r pryderon am ffermio yng Nghymru, yn bennaf oherwydd y berthynas fasnachu gref sy’n bodoli rhwng ffermwyr Cymru â'r UE.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr UAC Alan Davies: “Yn gyntaf hoffwn longyfarch staff UAC am eu hymdrech wych, sydd wedi arwain at yr ymgyrch yn cael ei chydnabod fel yr un orau yng Nghymru. Daeth hi’n amlwg iawn i ni yn UAC, bod angen tynnu sylw at yr effaith bosibl y gallai unrhyw drafodaethau masnach aflwyddiannus ei gael ar yr economi ehangach, a’r nifer fawr o fusnesau bach yn y gadwyn gyflenwi. Roedd angen i UAC godi rhagor o ymwybyddiaeth, hyrwyddo dealltwriaeth a datblygu gwybodaeth am y sector ffermio yng Nghymru.

"Penderfynwyd bod angen i ni greu neges hawdd i’w chofio a honno’n codi proffil ffermio yng Nghymru a'r peryglon i’w dyfodol ac roeddem am ddod o hyd i ymadrodd fyddai’n hawdd i’w chofio.

Gan fod yr Undeb yn ymdrin â materion amaethyddol bob dydd, gwelwyd bod cyfle i ddefnyddio’r geiriau hyn er mwyn pwysleisio’n prif neges.  Rydym yn gweithio ar faterion amaethyddol, ond mewn gwirionedd, mae amaeth o bwys i nifer, mewn cymaint o ffyrdd gwahanol.  Chwaraewyd a geiriau, ac arweiniwyd at #AmaethAmByth.”

Gyda hyn mewn golwg, aeth UAC ati i egluro pam a sut mae amaeth o bwys i Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r cyhoedd yn ehangach, gyda’r bwriad o newid agweddau a pholisïau a chreu gwell dealltwriaeth o’r ffaith mae ein ffermydd teuluol yw asgwrn cefn ein heconomi wledig.

Sicrhaodd UAC fod yr ymgyrch yn seiliedig ar dystiolaeth o ran pwysigrwydd, gan dynnu sylw at y ffaith mai ffermio yw asgwrn cefn sector bwyd a diod Cymru, sy'n cyflogi 222,400 o bobl, 17% o weithlu Cymru. Ymhellach, dangosodd yr ymgyrch fod ffermydd teuluoedd Cymru'n gwneud cymaint mwy na chynhyrchu bwyd yn unig - nhw yw conglfaen ein heconomïau gwledig ac mae cynhyrchu bwydydd Cymreig yn cynnal degau o filoedd o fusnesau eraill fel masnachwyr bwyd, contractwyr amaethyddol, peirianwyr, cludwyr, proseswyr a manwerthwyr.

Hefyd, pwysleisiodd yr ymgyrch, am bob £100 sy’n cael ei gynhyrchu ar y fferm, caiff £60 ei wario o fewn 7 milltir i’r fferm, yn ogystal â phwysleisio wrth reoli dros 80% o ehangdir Cymru, mae ffermwyr yn chwarae rôl werthfawr yn rheoli a diogelu tirwedd sy’n darparu d?r yfed glan, yn amrywiol o ran cynefinoedd a rhywogaethau ac yn cynnwys mwy na 1,000 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Drwy’r ymgyrch #AmaethAmByth, mae UAC wedi son hefyd am fanteision arall o ffermio yng Nghymru sy’n cynnwys cyfrannu at leihau achosion a symptomau'r newid mewn hinsawdd, boed trwy storio carbon mewn coetiroedd fferm, gwrychoedd a chorsydd mawn, neu gynhyrchu trydan gwyrdd trwy dyrbinau gwynt a d?r ar y fferm.

Trwy ddarparu cyflogaeth a thwf economaidd mewn ardaloedd gwledig, mae'r sector ffermio hefyd yn lliniaru'r dirwasgiad gwledig, yn diogelu diwylliant a threftadaeth wledig ac yn cadw'r Gymraeg yn fyw.

"Roedd angen modd aml-ffordd i gyflwyno ein neges ac felly trefnwyd ymweliadau fferm ar gyfer Aelodau'r Cynulliad ledled Cymru, a mynychwyd yr holl Gynadleddau Plaid a gynhaliwyd yng Nghymru, gan gynnwys cyfleoedd siarad â dadleuon cynadledda mewn dau, cyfarfodydd ymgorfforedig rheolaidd gyda Gweinidogion, Pwyllgorau'r Cynulliad ac Aelodau’r Cynulliad, cyhoeddi datganiadau i’r wasg penodol a chynnal ymgyrch cyfryngau cymdeithasol ategol. Cefnogwyd hyn i gyd gan negeseuon rheolaidd ailadroddus a chyson ar #AmaethAmByth," dywedodd Alan Davies.

Arweiniodd yr ymgyrch #AmaethAmByth at y rhan fwyaf o Aelodau'r Cynulliad, gan gynnwys y Prif Weinidog Carwyn Jones, yn rhoi ymrwymiad clir, yn cefnogi diwydiant ffermio Cymru, ac yn mabwysiadu ein negeseuon allweddol yngl?n â masnach ar ôl Brexit, fel y dangosir ym mhapur gwyn ‘Diogelu Dyfodol Cymru: Pontio o'r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd ag Ewrop’ ym mis Mehefin 2017, gan gydnabod pwysigrwydd cynnal cefnogaeth amaethyddol ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd a chefnogi cais UAC am fframwaith amaethyddol yn y DU sy'n parchu datganoli.

"Roedd yna rai manteision annisgwyl hefyd. Oherwydd llwyddiant yr ymgyrch #AmaethAmByth, roeddem yn gallu argyhoeddi gr?p o wleidyddion o’r blaid Lafur, yn bennaf o etholaethau trefol, i ddod at ei gilydd yng nghynhadledd y Blaid Lafur yng Nghymru ym Mawrth 2017, i ddangos cefnogaeth i Gymru wledig. Gelwir y gr?p yn "Llafur Cefn Gwlad", eto yn chwarae ar eiriau gan ei fod yn golygu "llafur Cymru wledig". Byddwn yn parhau â'r ymgyrch hon dros y flwyddyn i ddod a gobeithio bydd y neges yn cyrraedd llawer mwy o bobl, gan greu rhagor o ddealltwriaeth ymysg gwleidyddion a'r cyhoedd.