Beth well na phryd da o fwyd i ddod a phobl ynghyd i rannu syniadau, ac oherwydd bod Undeb Amaethwyr Cymru am barhau i sicrhau bod llais amaethyddiaeth Cymru’n cael ei glywed ar bob lefel, mae ffermydd ar draws Cymru yn eich gwahodd chi i’w ceginau ar ddiwedd wythnos brecwast (Ionawr 22-28).
“Mae angen i wleidyddion, rhanddeiliaid allweddol a’r cyhoedd ddeall pwysigrwydd y sector bwyd a diod i’n bywydau bob dydd, ac felly rydym am fwynhau cynnyrch gwych lleol i frecwast fel rhan o’n hymgyrch wythnos brecwast.
“Ond, rydym am i chi fod yn rhan o hyn a rhannu eich syniadau a’ch gofidiau am gyflwr y diwydiant, rydym am glywed eich hanesion chi a helpu ni i ddeall sut mae modd i ni helpu’n gilydd,” dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts.
Mae’r ymgyrch brecwast yma yn rhoi cyfle i hyrwyddo’r bwydydd gwych lleol sy’n cael ei dyfu ar ein cyfer bob dydd o’r flwyddyn, ac yn ystod wythnos brecwast, bydd UAC yn rhoi’r chwyddwydr ar bwysigrwydd ein heconomi wledig.
“Bydd y rhai sy’n gwneud y penderfyniadau yn ymuno gyda ni i weld rôl allweddol ffermwyr o gynnal ein cymunedau gwledig, cynnal sector amaethyddol hyfyw a proffidiol ac wrth gwrs cynhyrchu bwyd gwych,” ychwanegodd Mr Roberts.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae UAC wedi bod yn brysur yn pwysleisio pam bod amaeth o bwys - nid yn unig o ran diogelu'r cyflenwad bwyd, ond hefyd o ran ein heconomi a’n cymunedau gwledig.
Dros y deuddeng mis diwethaf, mae llu o fusnesau ar draws y wlad wedi bod yn cefnogi UAC i drosglwyddo’r neges yma i’n gwleidyddion, a thrwy ymweliadau fferm, trafodaethau a chyfarfodydd, mae’r Undeb wedi sicrhau bod pawb yn deall pam bod #AmaethAmByth.
“Ond, rydym am barhau gyda’r gwaith hwnnw, ac am eich gwahodd chi i ymuno gyda ni am frecwast o amgylch bwrdd y gegin. Bydd ffermydd ar draws Cymru yn eich croesawu chi i’w ceginau lle bydd cynhyrchwyr, aelodau a’n gwleidyddion lleol yn ymuno gyda ni. Felly, ewch ati i sicrhau bod lle i chi o amgylch un o’r byrddau a helpwch ni i ddangos pam bod #AmaethAmByth,” dywedodd Glyn Roberts.
Os ydych am ragor o wybodaeth am leoliad brecwastau yn eich ardal chi, am noddi rhai o’r cynnyrch neu am gynnal brecwast fel rhan o Wythnos Brecwast UAC, cysylltwch â’ch Swyddog Gweithredol Sirol.
Dyma leoliadau a dyddiadau’r brecwastau:
YNYS MÔN: Dydd Gwener Ionawr 26, lleoliad i’w gadarnhau.
BRYCHEINIOG A MAESYFED: Dydd Gwener Ionawr 26, Pafiliwn UAC, Maes y Sioe Frenhinol, LD2 3NJ.
CAERNARFON: Dydd Llun Ionawr 22, Ty’n Hendre, Tal-y-bont.
Dydd Mawrth Ionawr 23, Cefn Cae, Rowen, Conwy.
Dydd Mercher Ionawr 24, Caffi’r Mynydd, Llanllawen Fawr, Uwchmynydd, Aberdaron.
Dydd Iau Ionawr 25, Goetre, Efailnewydd, Pwllheli.
Dydd Gwener Ionawr 26, Dylasau Uchaf, Padog, Betws y Coed.
Dydd Gwener Ionawr 26, Caffi Anne, Marchnad Bryncir.
Dydd Sul Ionawr 28, Lleuar Fawr, Penygroes, Caernarfon.
CAERFYRDDIN: Dydd Iau Ionawr 25, Neuadd Llanarthne, SA32 8JD .
Dydd Gwener Ionawr 26, Neuadd Gymunedol Llanewydd, SA33 6AF.
CEREDIGION: Dydd Gwener Ionawr 26, Clwb Rygbi Tregaron.
DINBYCH/FFLINT: Dydd Gwener Ionawr 26, lleoliad i’w gadarnhau.
MORGANNWG: Dydd Gwener Ionawr 26, Lesser Hall, Town Hall Square, Y Bont-Faen, CF71 7AD.
GWENT: Dydd Mawrth Ionawr 23, Fferm Trevine, Llantillio Crosenny, Y Feni.
Dydd Gwener Ionawr 26, Fferm Ty Oakley, Hafodyrynys, Crymlyn, Casnewydd.
MEIRIONNYDD: Dydd Mawrth Ionawr 23, Caffi Frongoch, ger Y Bala.
Dydd Mercher Ionawr 24, Tymawr, Carrog, Corwen.
Dydd Iau Ionawr 25, Llew Coch, Dinas Mawddwy.
Dydd Gwener Ionawr 26, Ganolfan/Siop Y Pentref, Llanfrothen.
TREFALDWYN: Dydd Llun Ionawr 22, Pen Y Derw, Forden, Y Trallwng, Powys, SY21 8NH.
Dydd Mercher Ionawr 24, Cwmrhiewdre, Dolfor, Y Drenewydd, Powys, SY16 4BW.
Dydd Gwener Ionawr 26, Plas Du, Llanrhaeadr Ym Mochnant, ger Croesoswallt, SY10 0BQ.
PENFRO: Dydd Gwener Ionawr 26, Crundale Hall, Crundale.