Fe, Fi, Hi a merched mis Mawrth

gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg, Y Tir

Mis Mawrth - wel, am fis cythryblus a trafferthus! Cyrhaeddodd y “Beast from the East” a storm Emma gyda’i gilydd gan achosi’r tywydd gwaethaf i’r DU ei weld ers blynyddoedd lawer.

Gyda ffermwyr ar hyd y lled y wlad yn dyheu am weld y gwanwyn yn cyrraedd er mwyn hwyluso’r cyfnod wyna, gwyntoedd rhewllyd ac eira oedd yn cyfarch pawb, a hynny am gyfnod maith o amser.

Er bydd pawb yn cysylltu mis Mawrth 2018 gyda’r bwystfil, roedd yna elfen o werthfawrogiad yn perthyn i’r mis hefyd. Ar ddydd Iau, Mawrth 8, cafwyd cyfle i ddynodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched ac i ddathlu cyfraniad a llwyddiannau hanesyddol menywod yn ddiwylliannol, gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol ar draws y cenhedloedd. Cyfle gwych i gydnabod menywod a dynion yn gyfartal. Ychydig ddiwrnodau yn ddiweddarach, roedd yna ddathliad arall o ferched, a’r tro hyn, mamau oedd yn cael y sylw ar Ddydd Sul y Mamau.

Darlledwyd rhaglen arbennig ar S4C gan Alex Jones, ac yn ystod y rhaglen, gofynnodd Alex y cwestiwn oesol - ‘ydy hi’n bosibl i’r fam Gymreig gael y cyfan?’ ‘Sut mae cydbwyso bywyd teuluol a gyrfa, a beth sy’n gwneud rhywun yn fam dda?’ Beth am fynd un cam ymhellach, a gofyn a oes lle i’r wraig fferm yn y disgrifiad yna hefyd?

Petai chi’n gwglo, ‘Beth yw ystyr gwraig fferm?’ Yr ateb sy’n cael ei roi yw rhywun sydd wedi priodi ffermwr! Ond mae’n rhaid bod y term yn llawer ehangach nag hynny? 

Sefydlwyd Byddin Tir y Merched yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd oherwydd prinder llafurwyr ar ffermydd oherwydd bod y dynion wedi cael eu galw i fynd i’r rhyfel.  Roedd yn hanfodol bod y menywod yn parhau gyda gwaith llafurus y fferm er mwyn sicrhau bod cynhyrchiant bwyd yn parhau. Roedd y menywod hyn yn medru cwblhau pob tasg ar y ffermydd tra bod y dynion i ffwrdd. Roedd y gwaith yn cynnwys godro, gofalu am stoc a chasglu’r cynhaeaf.

Gyda’r fyddin wedi hen ddiflannu, nid yw’r darlun wedi newid llawer erbyn heddiw, ond mae llawer iawn o wragedd fferm yn mynd allan i weithio ac yn cynnal teulu wrth wneud hynny. Yn hytrach na gwaith uniongyrchol ar fuarth y fferm, mae rhai menywod yn dueddol i gymryd rhan fwy anuniongyrchol, er yr un mor bwysig, ym mywyd beunyddiol y fferm.

Mae’r fenyw yn aml yn cynorthwyo pan fydd angen symud yr anifeiliaid gan aros mewn bwlch neu redeg ar ôl anifail styfnig, yn coginio, yn wasanaeth tacsi i fan hyn a fan draw, yn casglu rhannau peiriannau neu rywbeth o’r milfeddyg, cwblhau’r gwaith papur, yn aelod ychwanegol o staff, y person sy’n rhan bwysig o dîm y fferm.

Dyna beth yw’r fferm deuluol, gwaith tîm, gyda phawb yn gydradd a phawb a’i rôl er mwyn sicrhau bod y fferm yn gweithredu mor llyfn â phosib, yn ddyn neu’n fenyw, neu’n blentyn. 

Nid wyf wedi bod wrth ddesg Cornel Clecs ers pythefnos, ac nid jolihoitan draw i Ynys Enlli ac i fyny’r Wyddfa fues i y tro hyn! Rwyf wedi bod yn wraig fferm 100 y cant ac yn helpu gyda’r wyna adre. Yn wir, mae gan bawb ei swydd yma hefyd, y g?r, fi a ladi fach t? ni, pawb yn pitcho mewn ynghanol un o’r tymhorau mwyaf prysur y flwyddyn.

Wrth sôn am fis Mawrth y merched, ni ellid anghofio am ferched mwyaf pwysig ffermydd defaid ar hyn o bryd, y defaid sy’n prysur wyna ac yn darparu cnwd boddhaol o ?yn er mwyn gweld y buddion yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Pob hwyl i bawb sy’n wyna ar hyn o bryd, a neges fach i’r tywydd os yw’n gwrando…Gwanwyn, rydym fwy na pharod amdanat ti erbyn hyn!

O ie, ydy mai yn bosib i’r fam Gymreig gael y cyfan, y gorau o sawl byd!