Byddai gwahardd allforio anifeiliaid byw yn ‘hynod o annoeth’ o ystyried yr ansicrwydd ynghylch cytundeb masnach a thariffau amaethyddol ar ôl-Brexit, yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru .
Ar Ebrill 9, galwodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru am dystiolaeth ar waharddiad ledled y DU ar allforio anifeiliaid byw i’w lladd dramor - rhywbeth nad yw'n bosibl tra bod y DU yn parhau i fod yn rhan o'r UE, oherwydd rheolau masnach rydd yr UE.
Dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: "Yn naturiol byddwn yn ymgynghori ag aelodau ynghylch y mater hwn, ond ein safbwynt presennol yw y byddai'n annoeth i gyflwyno gwaharddiad ar allforion byw ar yr un pryd â chyflwyno tariffau enfawr posib ar allforion cig i'r UE."
Dywedodd Mr Roberts y gallai gwaharddiad o'r fath fod yn ergyd i ffermwyr defaid, gan y gallai tariffau o tua 50% o werth cynnyrch fod ar gig ar ôl i ni adael yr UE, ac y byddai hyn yn dirywio masnach allforion cig dafad, sy'n cynrychioli o gwmpas traean o werthiant cig oen Cymru.
"Rydym yn gwerthfawrogi pryderon pobl yngl?n ag allforion byw, ond rhaid inni gofio bod safonau lles cyfreithiol yr UE ymhlith yr uchaf yn y byd ac mae'r rhain yn berthnasol yma ac ar dir mawr Ewrop."
Mae sylwadau Mr Roberts yn adleisio rhai Llywodraeth yr Alban.
Wrth ymateb i gynnig tebyg yn gynharach eleni, dywedodd Mr Ewing: "Gadewch imi fod yn hollol glir, dyma un fframwaith ledled y DU na fydd llywodraeth yr Alban yn cymryd rhan ynddo. Ni fyddaf yn cefnogi unrhyw beth sy'n creu heriau neu anawsterau pellach i'n sector amaethyddol neu'n rhoi amaethyddiaeth yr Alban o dan anfantais."
"Felly ni fydd llywodraeth yr Alban yn cefnogi gwahardd allforion anifeiliaid byw, ond byddwn yn parhau i fod yn ymrwymedig i les pob anifail yn ystod cludiant sy'n cydymffurfio â'r safonau trylwyr cyfredol sy'n berthnasol - safonau a rheoliadau a ddarperir gan yr UE, sydd eisoes gyda’r gorau yn y byd ac yn ein hamddiffyn ni trwy'r mesurau iechyd anifeiliaid, planhigion a chemegol a galluogi ein cynnyrch i gael ei fasnachu ledled y byd. "
Dywedodd Mr Roberts fod y pryderon ynghylch y cynigion yn yr Alban yr un fath â'r rhai yng Nghymru, ac y byddai unrhyw waharddiad o'r fath yn niweidio ein buddiannau ni yn anfwriadol.