UAC yn edrych ar y camau nesaf o sicrwydd cyllid gan Ysgrifenyddion Gwladol

Mewn cyfarfod arbennig gydag Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns ac Ysgrifennydd Defra, Michael Gove, mae Undeb Amaethwyr Cymru, wedi pwysleisio’r angen am eglurhad pellach ynghylch sut y bydd arian amaethyddol yn cael ei ddosbarthu i Gymru ar ôl Brexit.

Yn siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: "Mae'r ddau Ysgrifennydd Gwladol wedi rhoi sicrwydd y bydd Cymru'n derbyn yr un dosbarthiad o arian amaethyddol tan 2022, ac y bydd hyn yn digwydd y tu allan i Fformiwla Barnett."

Dywedodd Mr Roberts fod hyn wedi bod yn neges allweddol o ymgyrch #CyllidFfermioTeg UAC, a bod yr addewidion niferus yn cael eu croesawu’n fawr iawn.

"Bellach, mae angen edrych ar y camau nesaf a’r manylion technegol ynghylch sut y bydd hyn yn digwydd.

"Dyma'r Sioe Frenhinol olaf cyn i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae llai nag 8 mis i fynd, ond mewn gwirionedd mae llai o amser na hynny gyda ni. Mae angen i gyllidebau gael eu cwblhau erbyn mis Hydref ar y diweddaraf ac er mwyn i hynny ddigwydd mae angen i ni wybod mwy o fanylion ynghylch sut y bydd arian yn cael ei ddosbarthu."