Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi disgrifio’r cyhoeddiad y bydd Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn derbyn £46,000 i hyrwyddo Iechyd a Diogelwch yn y sector amaethyddol a choedwigaeth, fel carreg filltir wrth fynd i'r afael â'r broblem.
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ymgyrch y Bartneriaeth 'Gweithio gyda'n gilydd i wneud ffermio yn fwy diogel'.
Dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: "Mae hon yn garreg filltir wrth fynd i'r afael â diogelwch fferm a chroesawaf y cyhoeddiad yn galonnog iawn.
"Gan ystyried bod 144 o weithwyr Prydeinig wedi marw o anafiadau difrifol yn 2017/2018, gydag 29% o'r marwolaethau hynny o fewn amaethyddiaeth, mae'n bryd i ni newid yr ystadegau hyn.
"Rwy'n gobeithio, diolch i’r rhaglen hon, y gallwn weld lleihad amlwg yn y nifer o ddamweiniau trist a gwneud ein ffermydd yn fannau mwy diogel i weithio ynddynt."
Mae UAC yn bartner triw o Bartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru a bydd yn parhau i hyrwyddo arferion gorau yn unol â Chanllawiau Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
"Rydym wedi ymgyrchu ers amser maith i wella ymwybyddiaeth a newid agwedd ffermwyr tuag at ddiogelwch fferm. Gyda hyn mewn golwg, rwy'n gobeithio y bydd llawer mwy yn ymgysylltu â rhaglen fentora Cyswllt Ffermio, sydd wedi bod yn gweithredu ers dwy flynedd bellach, ac wedi helpu dros 100 o ffermwyr a choedwigwyr i gael gwell dealltwriaeth o'r risgiau a'r peryglon y maent yn eu hwynebu yn eu hamgylchedd gwaith bob dydd," ychwanegodd Glyn Roberts.