Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn dweud y dylai effeithiau presennol y tywydd ar ddiwydiant amaethyddol Cymru fod yn ffocws allweddol i lywodraethau, a ddim yn cael eu hanghofio ynghanol dadleuon pwysig eraill sy’n ymwneud a Brexit a pholisïau gwledig y dyfodol.
Yn siarad yng nghynhadledd UAC i’r wasg ar drothwy’r sioe frenhinol, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts er bod pryderon ynghylch materion fel cytundebau masnach ôl-Brexit neu bolisïau amaethyddol y dyfodol yn hollbwysig, mae’n rhaid i’r angen am ofalu am anifeiliaid nawr a sicrhau bod digon o borthiant i ofalu amdanynt trwy'r gaeaf fod yn flaenoriaeth.
“O fis Awst y llynedd ymlaen, roedd glaw cyson mewn sawl ardal yn golygu bod yn rhaid i anifeiliaid fod o dan do am gyfnod hirach na'r arfer, gan olygu ein bod ni wedi dechrau gweld prinder porthiant difrifol erbyn mis Chwefror eleni, a chrafu drwy’r gwanwyn gyda chronfeydd wrth gefn a oedd y nesaf peth i ddim,” dywedodd Mr Roberts.
“Ers hynny, rydym wedi mynd o un sefyllfa eithafol i'r llall, gyda nentydd, ffynhonnau, dyfrdylloedd ac afonydd hyd yn oed yn sychu; ardaloedd helaeth o dir pori yn cochi a’r borfa’n diflannu, ac effeithiau difrifol ar gynaeafu porthiant a fydd yn gadael cronfeydd yn eithriadol o isel wrth i ni fynd i mewn i'r hydref.
“Yn syml, hyd yn oed os bydd y gaeaf yn anarferol o fyr, sych a chynnes, efallai y bydd rhai ffermydd yn dal i wynebu trychineb y gaeaf hwn, ac mae angen cymryd camau er mwyn ystyried ffyrdd i osgoi hyn.”
Dywedodd Mr Roberts, er bod Llywodraethau Cymru a’r DU yn ymwybodol o’r sefyllfa enbyd, mae UAC yn siomedig bod ei chais am gynnal cyfarfod brys gyda’r llywodraeth i drafod beth ellid ei wneud wedi cael ei anwybyddu hyd yn hyn.
“Ymhlith llu o gamau gweithredu sydd angen eu trafod mewn cyfarfod o'r fath, dylid mynd ati i gynnal archwiliad porthiant cenedlaethol i asesu difrifoldeb y sefyllfa a pha ardaloedd sydd fwyaf mewn perygl dros y gaeaf nesaf.
“Rydym hefyd yn poeni'n fawr am yr effaith o ddefnyddio porthiant mewn gweithfeydd pŵer ac wedi galw am wahardd hyn er mwyn diogelu’r cyflenwadau y bydd eu hangen ar frys y gaeaf hwn.”
Tynnodd Mr Roberts sylw hefyd at y pwysau ychwanegol a fyddai ar y rhai sydd o dan gyfyngiadau TB oherwydd bod nhw’n methu symud neu werthu gwartheg, gan olygu bod ganddynt fwy o gegau i'w bwydo nag arfer.
“Gadewch inni obeithio y cynhelir y cyfarfod yr ydym wedi gofyn amdano yn fuan, fel y gallwn hefyd drafod sut i leddfu'r pwysau ychwanegol y mae ffermydd o'r fath yn eu hwynebu.
“Mae'r poen, torcalon a'r rhwystredigaeth o ganlyniad i'r clefyd yn ymddangos fel storm dragwyddol i lawer,” ychwanegodd, gan ddweud hefyd bod ffermwyr yn colli gobaith oherwydd bod y llywodraeth ddim yn cymryd agwedd rhagweithiol i’r clefyd ymhlith bywyd gwyllt.
O gofio bod yr ymgynghoriad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar ddyfodol ffermio Cymru yn canolbwyntio ar wydnwch ffermydd a thalu am nwyddau cyhoeddus, dywedodd Mr Roberts ei bod yn bwysig nodi bod yr argyfwng porthiant sy'n datblygu o ganlyniad i'r tywydd eithafol yn peryglu gwydnwch ffermwyr ar gyfer y gaeaf sydd ar y ffordd.
Mae’r llywodraeth, mewn ymateb i'r tywydd, wedi llacio rheolau presennol cynllun amaeth-amgylcheddol a’i cyflwyno'n benodol oherwydd bod y cyfyngiadau mae Glastir yn gosod ar ffermydd wedi tanseilio’i gwydnwch yn sylweddol.
“Gadewch i ni obeithio na chaiff y wers hon ei anghofio wrth adeiladu'r cynlluniau’r dyfodol sydd o dan ymgynghoriad ar hyn o bryd - yn amlwg byddai'n chwerthinllyd i gael un cynllun sy’n seiliedig ar wneud ffermydd yn fwy gwydn, gyda chynllun tebyg yn gosod amodau a chyfyngiadau ar ffermydd sy'n tynnu’n groes ac yn lleihau gwydnwch.”
Pwysleisiodd Mr Roberts hefyd bod angen cynllunio cynllun y dyfodol yn ofalus a dros cyfnod digon hir o amser.
“Mae Brexit yn ein gwahanu ni o'r UE, ac wrth gwrs, polisïau Llywodraeth Cymru yw'r llong yr ydym yn gobeithio y bydd yn cadw ein diwydiant a'n cymunedau gwledig i aros ar wyneb y dŵr, felly mae angen i ni gymryd digon o amser i adeiladu a phrofi'r llong honno i sicrhau ei fod yn ddiogel ar y môr ac nid yn llawn tyllau.
“Ac yn sicr nid ydym am weld cwch hwylio cywrain sy’n cael ei gadael ar ôl gan wledydd eraill sydd â’r cychod cyflymder o'r radd flaenaf.”
Dywedodd Mr Roberts fod papur trafod UAC, “Llenwi’r Gwagle yn pwysleisio’r peryglon o wahaniaethu o'r polisïau a fabwysiadwyd mewn gwledydd eraill, gan nodi egwyddorion cyffredinol fframwaith ol-Brexit cyffredin y DU a'r mecanweithiau y gellid cytuno arnynt a'i lywodraethu mewn modd sy'n parchu datganoli yn llawn, gan amddiffyn nid yn unig ein ffermwyr a'n marchnadoedd mewnol, ond hefyd ein statws a'n henw da ledled Ewrop a'r Byd.
Dros pedwar diwrnod y sioe, bydd y materion yma ac eraill yn cael eu trafod yn fanwl gydag Ysgrifenyddion Gwladol, Ysgrifenyddion y Cabinet, Gweinidogion, ASau, ACau ac eraill, meddai Mr Roberts.