Mae Undeb Amaethwyr Cymru'n edrych ymlaen at archwilio a thrafod y materion pwysig sy'n wynebu'r diwydiant ffermio yng Nghymru, megis troseddau gwledig, Brexit, iechyd meddwl, arloesi ac arallgyfeirio, yn ogystal â chyfathrebu symudol yn Sioe Frenhinol Cymru 2018 (Dydd Llun 23 - Dydd Iau, 26 Gorffennaf) trwy gynnal cyfres o seminarau a grwpiau trafod.
Mae’r sioe’n cychwyn gyda seminar troseddau gwledig ar ddydd Llun 23 Gorffennaf am 11yb, gyda UAC yn edrych ymlaen at drafodaeth gydag Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus; Simon Hart AS, cyn Prif Swyddog Gweithredol Y Gynghrair Cefn Gwlad ac aelod o Bwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig; Tim Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gogledd a’r Canolbarth Cyfoeth Naturiol Cymru a Rob Taylor o Heddlu Gogledd Cymru a Rheolwr Tîm Troseddau Cefn Gwlad ar droseddau bywyd gwyllt a materion gwledig yng Nghymru.
Hefyd bydd Heddlu Gwent yn arwain Fforwm i drafod caethwasiaeth fodern mewn cymunedau gwledig.
Bydd trafodaethau’r prynhawn yn canolbwyntio ar bwnc sy’n mynd i newid amaethyddiaeth am byth, wrth i UAC gynnal ei seminar 'Brexit: Beth yw dyfodol amaethyddiaeth?', a fydd yn dechrau am 2yp.
Bydd y digwyddiad yn ysgogi’r meddwl wrth i’r prif siaradwyr Pennaeth Polisi UAC Dr Nick Fenwick, Prif Ohebydd y Farmers Guardian Abi Kay a Dr Jo Hunt, Darlithydd y Gyfraith, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd yn edrych ar y gwahanol agweddau o Brexit a dyfodol ein diwydiant, gan gynnwys rhanbartholdeb a datganoli yng nghyd-destun yr UE.
Yn cadeirio’r seminar bydd Sara Jones, sydd a’i gwreiddiau’n ddwfn yn y gymuned amaethyddol. Mae ei thad yn ffermwr âr yn sir Fynwy, ac mae ei phartner a’i deulu yn rhedeg fferm defaid a gwartheg biff prysur ym Mrynbuga.
Mae gan Sara gysylltiad agos gyda CFfI Gwent ac mae'n annog ac yn cefnogi eu gweithgarwch ledled y sir, gan ddeall y rôl bwysig iawn y maent yn ei chwarae gyda ffermio a phobl ifanc. Mae hi hefyd yn cefnogi ei brawd yng nghyfraith yn ei rôl fel arwerthwr a syrfëwr gwledig, fel clerc rheolaidd mewn arwerthiannau peiriannau a da byw.
Fel Pennaeth y Consortiwm Manwerthu Cymru, mae'n gweithio'n agos gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol ar draws holl faterion manwerthu, ond yn canolbwyntio’n fanwl ar fwydydd a'r gadwyn gyflenwi.
Wrth siarad cyn y seminar, dywedodd: "Bydd y digwyddiad hwn yn sicr yn cynnig llawer o wybodaeth, trafodaeth a dadl wrth i ni glywed gan banel o siaradwyr cryf, a bydd pob un ohonynt yn dod â phersbectif unigryw i ddadl Brexit, a'r hyn y mae'r sefyllfa bresennol yn ei olygu i’n diwydiant ffermio yng Nghymru. Mae'r UAC yn parhau i arwain y ffordd ar agenda Brexit; gan drafod â rhanddeiliaid allweddol ac, yn bwysicaf oll, gwrando ar yr hyn y mae'r aelodaeth ar lawr gwlad yn ei ddweud er mwyn helpu i lywio penderfyniad polisi. Mae'r digwyddiad hwn yn parhau ar y thema honno trwy roi cyfle i aelodau UAC gael dweud eu dweud ar y mater pwysicaf sy’n wynebu ein diwydiant ar hyn o bryd."
I ysgafnhau pethau ar y diwrnod cyntaf gall y rhai sy'n ymweld â phafiliwn UAC, edrych ymlaen at ychydig o Loris Mansel Davies, Bois y JCB, Bois y Loris, Classifieds y Farmers Guardian a Ni'n Belo Nawr, gan fydd y Welsh Whisperer yn perfformio'n arbennig ar gyfer UAC yn y pafiliwn ar faes y sioe.
Bydd y noson yn dechrau am 6.30yh gyda ci poeth am ddim a bar. Gellir prynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad o swyddfeydd UAC am £15 yr un i oedolion a £5 i blant, gyda 50% o bris y tocynnau'n mynd tuag at elusennau UAC- Cymdeithas Alzheimer Cymru a'r Farming Community Network.
Cyfathrebu ac arloesedd sy’n cael y sylw dydd Mawrth gan gychwyn am 11yb, ac mewn partneriaeth a UAC, bydd Ofcom Cymru yn cynnal trafodaeth ar wella'r ddarpariaeth symudol yng Nghymru, gyda chynrychiolaeth o bob un o'r Gweithredwyr Rhwydwaith Symudol a Huw Saunders, Cyfarwyddwr Seilwaith Ofcom.
Bydd y prynhawn (2.00yp Mawrth 23 Gorffennaf) yn canolbwyntio ar sut y gall ffermwyr fanteisio ar arloesedd mewn sawl ffordd wahanol ac aros un cam o flaen y gystadleuaeth yn sgil Brexit.
Gall y rhai sy'n mynychu'r seminar edrych ymlaen at glywed gan Geraint Hughes, sy'n arwain ar Fusnes ac Arloesedd yng nghynllun Academi Amaeth Cyswllt Ffermio, sy’n cynnal fforwm i annog ffermwyr Cymru i edrych ar dechnolegau megis Genomeg, Ffermio Clyfar, technoleg rithwir, Cyfryngau Cymdeithasol a ffermio fertigol.
Mae hefyd yn gweithredu fel brocer ar gyfer y rhaglen Partneriaeth Arloesi Ewropeaidd sy'n anelu at bontio academia a diwydiant trwy gynnal treialon maes o dechnolegau blaengar mewn amgylchedd masnachol.
Bydd Karina Marsden, sy'n ymchwilydd ôl-ddoethurol yn y grŵp Ecosystemau a'r Amgylchedd yng Nghanolfan Amgylchedd Cymru, ym Mhrifysgol Bangor yn siarad am ei hymchwil i ailgylchu pridd nitrogen mewn systemau cynhyrchu da byw, gan ganolbwyntio'n benodol ar allyriadau nwy tŷ gwydr, ocsid nitrus, o briddoedd amaethyddol a Shiv Kodam o Hoofprints Technologies, yn trafod datblygiadau diweddaraf o ystod o synwyryddion i helpu ffermwyr i fonitro da byw mewn systemau helaeth.
Dywedodd Swyddog Polisi UAC, Bernard Griffiths: "Rydym yn gyffrous ynglŷn â’r seminar hon, a fydd yn archwilio amrywiaeth o arloesiadau, a all gynorthwyo'r sector i ddatblygu yn y dyfodol a gobeithio y gall llawer ohonoch ymuno â ni ar y diwrnod."
Ddydd Mercher, gall y rhai sy'n dod i bafiliwn UAC edrych ymlaen at seminar ar arallgyfeirio, a fydd yn dechrau am 11yb. Bydd yr ystod amrywiol o siaradwyr yn edrych ar sut y gall ffermwyr ehangu ei busnes ymhellach a chreu ffynhonnell ychwanegol o incwm ar gyfer eu busnes fferm.
Dywedodd Swyddog Polisi UAC, Charlotte Priddy: "Ydych chi erioed wedi meddwl edrych am ffynhonnell o incwm newydd ar gyfer eich busnes? Gall arallgyfeirio ar eich fferm ddod â nifer o fuddion, ond os nad ydych wedi paratoi'n iawn, gall arwain at bob math o broblemau. Dewch draw i'r seminar i glywed gan ein panel arbenigol a fydd yn rhannu eu cyngor, yn cynnig arweiniad ac yn rhannu arferion da i weld a yw arallgyfeirio fferm yn addas i chi."
Yn y prynhawn (dydd Mercher 25 Gorffennaf) bydd pethau'n cymryd tro gwahanol wrth i UAC gynnal seminar gyffrous a fydd yn edrych ar ystyr bod yn arweinydd cadarn, goresgyn hunan-amheuaeth a bod yn ddigon dewr i ddatblygu busnes sy'n adlewyrchu pwy ydych chi.
Bydd y seminar ‘Arweinyddiaeth gadarn a chi yw chi’ yng ngofal Helwn Howells o Hwylus ac yn dechrau am 2yp.
Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Helen: "Mae bod yn gadarn mewn arweinyddiaeth a busnes yn ymwneud â datblygu eich brand personol, un gydag angerdd. Cael hyder i fyw eich gwerthoedd a theimlo dwysedd yr angerdd am yr hyn rydych chi'n ei wneud. Felly dewch draw i weld sut y gallwch chi roi gwerthoedd arweinyddiaeth gadarn i mewn i’ch busnes, teimlo'n hyderus ac elwa o’r manteision."
Mae diwrnod olaf y sioe yn cael ei neilltuo i iechyd meddwl ym mhafiliwn UAC ac mae'r Undeb yn edrych ymlaen at gynnal fforwm trafodaeth a gwybodaeth a fydd yn clywed gan Gymdeithas Alzheimer Cymru, Farming Community Network a Sefydliad DPJ, sy'n edrych ar y materion ehangach sy'n ymwneud ag iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig. Bydd y digwyddiad yn dechrau am 11yb.
Bydd y trafodaethau yn cael eu cadeirio gan Lilwen Joynson, arweinydd Agrisgop, a dywedodd: "Rwy'n gwerthfawrogi bod beth sy’n poeni llawer o ffermwyr, busnesau gwledig a theuluoedd ddim yn flaenoriaeth ynghanol prysurdeb bywyd.
“Os nad yw pobl yn siarad, nid oes yna gefnogaeth chwaith ac yn arwain at ddiwydiant sydd ddim yn wynebu gwir effaith iechyd meddwl.
"Rwyf am i chi feddwl nawr am un person sy’n dioddef o straen, pryder neu iselder. Ble maen nhw'n mynd am gefnogaeth? Yn aml iawn does dim cefnogaeth a dyna pam yr ydym wedi bod yn ddiwydiant sydd wedi brwydro ymlaen er gwaethaf popeth. Yr hyn sydd gyda ni yw diwydiant sy'n credu bod rhywun yn wirion os ydym yn teimlo'n isel ac mae pob un ohonom wedi clywed yr ymadrodd "Rho drefn ar dy fywyd".
"Dyna pam, fel meddyg, rwy'n awyddus i fwrw ymlaen a thynnu ynghyd i siarad am iechyd meddwl - gadewch i ni dynnu’r stigma allan o iechyd meddwl o fewn y byd amaethyddol. Ac rwy'n gobeithio gweld llawer ohonoch yn y seminar dydd Iau 26 Gorffennaf "
Mae'r seminarau a'r grwpiau trafod a gynhelir ym Mhafiliwn Undeb yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.