Ffermio yng Nghymru yw’r ateb i newid yn yr hinsawdd meddai FUW

Mae gan ffermio yng Nghymru ran fawr i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r argyfwng newid yn yr hinsawdd ac mae ffermwyr yn barod i wneud yn union hynny, meddai Undeb Amaethwyr Cymru.

Ond wrth gyfeirio at gasgliadau allweddol yr adroddiad ‘Defnydd Tir: Polisïau ar gyfer Sero-Net DU’ diweddaraf gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, rhybuddiodd Llywydd yr Undeb, Glyn Roberts, am beryglon canolbwyntio ar gynhyrchu da byw neu blannu coed yn amhriodol.

“Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at rai materion hanfodol, gan gynnwys yr angen am sector cynhyrchu bwyd cryf yn y DU a pheryglon cyflawni gostyngiadau mewn allyriadau yn y DU ar draul cynyddu ein dibyniaeth ar fwyd a fewnforir o wledydd sydd ag olion traed carbon llawer mwy,” meddai Mr Roberts

Ar hyn o bryd mae amaethyddiaeth yn gyfrifol am oddeutu 10% o allyriadau'r DU, gyda methan o gynhyrchu da byw yn cyfrannu at ychydig dros hanner y ffigur hwn. Mewn cymhariaeth, trafnidiaeth ac ynni yw tua hanner holl allyriadau'r DU.

“Mae hyn yn golygu pe byddem yn rhoi’r gorau i gynhyrchu bwyd yn llwyr yn y DU, byddai 90 y cant o’r broblem yn parhau,” meddai Mr Roberts.

“Ni all amaethyddiaeth yn unig ddatrys y broblem fyd-eang ac mae angen i bob un ohonom edrych yn ofalus ar yr hyn yr ydym yn ei fwyta a'i gynhyrchu o ran bwyd, ynni, electroneg, moduro, teithio ac yna addasu.

“Mae ffermwyr yng Nghymru yn chwarae eu rhan, ac fel y cydnabuwyd gan y Pwyllgor, byddai camu ffwrdd o gig coch a gynhyrchir yng Nghymru a’r DU yn cynyddu ôl troed carbon y genedl oherwydd mae gennym rai o’r allyriadau nwyon tŷ gwydr isaf o gig sy’n cael eu magu yn unrhyw le yn y byd.”

Dywedodd Mr Roberts fod y FUW, am y rheswm hwn, yn croesawu'r ffaith bod y Pwyllgor wedi cefnogi ei alwadau am bolisi masnach gadarn ar ôl Brexit sy'n adlewyrchu ôl troed carbon isel cynnyrch y DU.

Wrth sôn am yr alwad i gynyddu gorchudd coedwigaeth y DU o 13% i oleiaf 17% erbyn 2050 trwy blannu tua 30,000 hectar (90 - 120 miliwn o goed) o goetir llydanddail a chonwydd bob blwyddyn, dywedodd Mr Roberts:

“Mae ein haelodau yn gwbl gefnogol i blannu coed yn briodol lle nad yw hyn yn tanseilio cynhyrchiant fferm a'r amgylchedd, ac yn tynnu sylw at y rhwystrau maent yn wynebu yn rheolaidd wrth geisio plannu coed.”

Tynnodd sylw hefyd at rwystredigaethau llawer o aelodau bod eu ceisiadau i blannu coed trwy gynllun Glastir wedi cael eu gwrthod yn ystod y misoedd diwethaf.

“Ond rhaid i ni beidio ag anghofio bod arwynebedd coetir Cymru wedi cynyddu deirgwaith yn y ganrif ddiwethaf, o 5% ym 1919 i oddeutu 15% yn 2016, gyda choetiroedd fferm collddail yn bennaf yn 30% o'r ardal.”

Pwysleisiodd Llywydd yr Undeb ymhellach fod profiad dros y ganrif ddiwethaf yn tynnu sylw at ddifrod posib polisïau sydd â'r nod o gynyddu ardaloedd coetir.

“Mae ailosod tir sy’n cael ei bori gan ddefaid a gwartheg gyda choedwigoedd wedi cael ei gysylltu’n uniongyrchol gan wyddonwyr â cholli cynefinoedd a rhywogaethau mewn cannoedd o enghreifftiau o bob cwr o’r byd, gan gynnwys y DU, felly rhaid osgoi plannu brys ar bob cyfrif.”

Pwysleisiodd Mr Roberts hefyd fod defnyddio tir sydd ar hyn o bryd yn cynhyrchu bwyd i wrthweithio cynnydd mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr mewn diwydiannau eraill yn fyrbwyll.

“Yn y pum mlynedd hyd at 2018 cynyddodd allyriadau CO2 o gwmnïau hedfan wrth draean, tra bod Airbus wedi rhagweld y byddai nifer yr awyrennau masnachol sydd ar waith yn dyblu i 48,000 o awyrennau ledled y byd erbyn 2038.

“Byddai tanseilio ecosystemau a chymunedau gwledig sy'n dibynnu ar gynhyrchu bwyd trwy blannu coed ar dir fferm er mwyn gwrthweithio cynnydd o'r fath yn amlwg yn fyrbwyll iawn,” ychwanegodd.

Diwedd


Argraffu