Mae’r ddwy Undeb Amaethyddol a’r Ffederasiynnau Ffermwyr Ifanc lleol wedi dod at eu gilydd yng Ngogledd Orllewin Cymru i sicrhau bod eu haelodaeth yn cael y cyfle i holi ymgeiswyr yn yr Etholiad Cyffredinol mewn cyfres o bedwar cyfarfod hystings yn yr ardal.
Mae NFU Cymru, Mudiadau Sirol y Ffermwyr Ifanc, ac Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyd-weithio i gynnal hystings etholiadol ar gyfer etholaethau Aberconwy, Arfon, Dwyfor Meirionnydd ac Ynys Môn, gan wahodd yr holl ymgeiswyr i fynychu.
Mae’r digwyddiadau i gymryd lle yn y lleoliadau canlynol:
Arfon – Nos Fercher 27ain o Dachwedd 2109 am 7:30yh yn Neuadd Bentref Caeathro, Caeathro
Ynys Môn – Nos Fawrth 3ydd o Ragfyr 2019 am 5:30yh yng Nghartio Môn, Bodedern
Aberconwy – Nos Fercher y 4ydd o Ragfyr 2019 am 7:30yh yn Ystafell Elwy, Canolfan Glasdir, Llanrwst
Meirionnydd Dwyfor – Nos Iau y 5ed o Ragfyr 2019 am 7:30yh yng Nghlwb Peldroed Porthmadog
Mewn datganiad ar y cyd nododd y mudiadau sy’n trefnu: “Mewn cyfnod o ansicrwydd gwleidyddol, ble mae ein dyfodol masnachu gyda’r Undeb Ewropeaidd yn parhau yn aneglur, dyma gyfle pwysig i bob ffermwr holi ei ddarpar Aelod Seneddol ar sut maent yn gweld y ffordd ymlaen.
“Gyda llawer o’r drafodaeth wedi ei chanoli ar drafodaethau cenedlaethol a rhyngwladol, bydd y digwyddiadau yma hefyd yn gyfle i’n haelodau sy’n ffermio i ymgysylltu gyda’r ymgeiswyr am rai o’r materion mwy lleol sydd yn effeithio ar ei bywoliaeth â’u cymunedau.
“Fe fyddem yn annog aelodau o’r gymuned amaethyddol i fanteisio ar y cyfle yma i gwestiynnu y rhai sydd am eu cynrychioli yn y senedd nesaf yn San Steffan.”