Panel o siaradwyr gwych yng Nghynhadledd Iechyd Meddwl Cymru Gyfan FUW

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn cynnal Cynhadledd Iechyd Meddwl Cymru Gyfan ar drothwy Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd i daflu goleuni ar gyd-destun ehangach iechyd meddwl gwael mewn cymunedau gwledig.

Yn cael ei gynnal ar-lein trwy Zoom, dydd Gwener 9 Hydref, bydd y gynhadledd yn clywed gan banel o siaradwyr gwych. Bydd sesiwn y bore yn archwilio cyd-destun ehangach iechyd meddwl gwael mewn cymunedau gwledig a pha gamau y mae'n rhaid i'r Llywodraeth, y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a llunwyr polisi eu cymryd i fynd i'r afael â'r sefyllfa, yn enwedig gan fod Covid-19 wedi rhoi pwysau pellach nid yn unig ar iechyd meddwl pobl ond eu cyllid hefyd.

Abi Kay, Prif Ohebydd y Farmers Guardian fydd yn cadeirio’r sesiwn bore sy’n dechrau am 10.30yb, ac yn siarad bydd Sara Lloyd, Arweinydd Tîm, Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol De Ceredigion; Cath Fallon, Pennaeth Cyfarwyddiaeth Menter ac Animeiddio Cymunedol, Cyngor Sir Fynwy, Lee Philips, Rheolwr Cymru, Gwasanaeth Arian a Phensiynau, John Forbes-Jones, Rheolwr Corfforaethol Gwasanaethau Lles Meddwl, Cyngor Sir Ceredigion a Vicky Beers o’r Farming Community Network.

Bydd sesiwn y prynhawn, sy'n dechrau am 2yp, yn cymryd agwedd mwy ymarferol ac yn clywed gan elusennau iechyd meddwl gwahanol ymroddedig sy'n cynnig cyngor ymarferol i'r rhai sy'n cefnogi anwylyn sy’n mynd trwy faterion meddyliol yn ogystal â'r rhai sy'n profi iechyd meddwl gwael ar hyn o bryd.

Mi fydd sesiwn y prynhawn yn cael ei gadeirio gan y cyflwynydd teledu adnabyddus Alun Elidyr, ac mi fydd yna gyfle i glywed gan Gareth Davies, Prif Swyddog Gweithredol, Tir Dewi; David Williams, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru, Farming Community Network; Kate Miles, Rheolwr Elusen, The DPJ Foundation a Linda Jones, Rheolwr Rhanbarthol, RABI Cymru

Cefnogir y digwyddiad hefyd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, a’r ffermwr a hyrwyddwr iechyd meddwl o Seland Newydd, Doug Avery, trwy neges fideo.

Dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts: “Yn anffodus mae iechyd meddwl gwael a hunanladdiad mewn cymunedau gwledig a ffermio yn broblem gynyddol ac yn broblem y mae FUW wedi ymrwymo i fynd i’r afael â hi.

“Rydym yn deall y gall problemau iechyd meddwl effeithio ar allu unigolyn i brosesu gwybodaeth a datrys problemau, sugno eu hegni a’u cymhelliant, a chynyddu ymddygiad byrbwyll. Tra bod y symptomau'n cael eu trin, yn aml iawn, nid yw achosion sylfaenol y materion hyn yn cael sylw.

“Felly bydd y gynhadledd hon yn mynd y tu hwnt i’r pwyntiau trafod arferol ac yn archwilio’r pwnc ymhellach. Mae'n ddigwyddiad agored ac mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl ymuno â ni, yn rhithwir, ar y diwrnod.”

Mae croeso i unrhyw un ymuno a’r digwyddiad, trwy gofrestru yma: https://www.fuw.org.uk/cy/cynhadledd-iechyd-meddwl-cymru-gyfan