Mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) Glyn Roberts yn disgwyl ymateb blin iawn mewn cyfarfod o bwyllgorau da byw a ffermio mynydd FUW i gynnig gan y Gymdeithas Cig Eidion Genedlaethol (NBA) y dylid cyfyngu'r diffiniad o wartheg wedi'u pesgi i rai o dan 28 mis oed, ac y dylid cyflwyno “treth garbon” ar anifeiliaid sy'n cael eu lladd uwchlaw'r oedran hwnnw.
Dywedodd Mr Roberts, sy’n rhedeg fferm bîff a defaid gyda’i ferch Beca yn Ysbyty Ifan, Gogledd Cymru: “Rydyn ni wedi derbyn llawer o alwadau gan aelodau blin ers i’r NBA gyhoeddi’r cynigion yma.
“Tynnodd llawer sylw at yr effaith benodol y byddai’r cynnig yn ei gael ar fridiau traddodiadol a rhai systemau ffermio sydd o bwysigrwydd arbennig i’r amgylchedd.”
Dywedodd Mr Roberts er bod yna fuddion carbon o besgi anifeiliaid yn gyflymach ar gyfer rhai systemau ffermio penodol, i’r systemau mwy traddodiadol eraill lle mae anifeiliaid yn cael eu pesgi dros gyfnod hirach, nid oedd cynnig mor ddu a gwyn yn gwneud synnwyr o safbwynt amgylcheddol, gan gynnwys mewn perthynas â charbon.
“Heb os, bydd y pryderon hyn yn codi mewn cyfarfod ar y cyd rhwng ein Pwyllgorau Da Byw, Gwlân a Marchnadoedd a Ffermio Mynydd a Thir Ymylol yn ddiweddarach y mis hwn.
“Er nad wyf am ragweld canlyniad y cyfarfod hwnnw, yr hyn allaf sicrhau yw y bydd rhai ymatebion blin iawn i gynigion yr NBA yn unol â’r rhai a fynegwyd eisoes gan Gymdeithas Cig Eidion yr Alban,” ychwanegodd Mr Roberts.