Mae cangen Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn cadw’r sylw ar faterion llifogydd lleol ac wedi mynd â’r Aelod Seneddol lleol Liz Saville-Roberts ar daith o amgylch y mannau sydd angen sylw ar frys gan yr awdurdodau sydd â chyfrifoldeb a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Wrth ymweld â sawl ardal yng Ngogledd Meirionnydd, bu swyddogion yn trafod gwaith sydd angen ei wneud ar frys o fewn yr ardaloedd draenio mewnol, ac yn enwedig Afon Gaseg ac Afon Croesor yn Llanfrothen, Afon Dwyryd ym Maentwrog, ac Afon Glyn ger Talsarnau.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Huw Jones, Swyddog Gweithredol Sirol UAC Meirionnydd: “Cawsom gyfarfod da iawn gyda Liz Saville-Roberts a diolch iddi am ei chefnogaeth barhaus. Pwysleisiwyd yn glir yn ystod ein taith o amgylch y mannau hyn fod yna sawl mater sydd angen sylw brys gan Gyfoeth Naturiol Cymru o fewn yr Ardal Draenio Fewnol.
“Mae Deddf Draenio Tir 1991 yn dangos yn glir bod gan Gyfoeth Naturiol Cymru gyfrifoldeb statudol fel y Bwrdd Draenio i gynnal a gwella'r draeniad yn yr ardal.
“Mae yna ddarnau mawr o dir amaethyddol o dan risg difrifol o lifogydd pellach, ac mae'n hanfodol bod gwaith yn cael ei wneud fel mater o flaenoriaeth. Byddwn yn parhau i roi sylw i’r mater hwn nes iddo gael ei ddatrys a rhoi gwybod i'r aelodau am y cynnydd."