Ffermwr 3ydd cenhedlaeth yn gofyn - pa mor niweidiol yw achosion TB ar iechyd meddwl ffermwr?

O fewn y byd amaethyddol, cydnabuwyd ers amser maith bod achosion TB yn arwain at nifer o ganlyniadau, megis colli stoc, problemau gyda llif arian, costau cadw a bwydo stoc ychwanegol, colli rheolaeth fusnes ac ansicrwydd dros y dyfodol. Mae'n anochel bod pob un o'r rhain yn cael effaith ar les emosiynol teuluoedd amaethyddol.

Fodd bynnag, mae'n debyg bod y gwir effaith yn cael ei gamfarnu. Mae Rebecca John, ffermwr 3ydd cenhedlaeth o Sir Benfro, yn gofyn cwestiwn perthnasol - sut mae achos o TB ar fferm yn effeithio ein hiechyd meddwl?

Yn gyfarwydd â hynt a helynt amaethyddiaeth a ffermio da byw yn Sir Benfro, mae Rebecca’n hen gyfarwydd a gweld milfeddygon yn galw i wneud profion TB ar y fferm deuluol Rinaston, ger Hwlffordd, lle maent yn cadw gwartheg bîff, defaid ac yn godro.

“I raddau, mae pawb yn deall bod ffermwyr sy’n ceisio rhedeg eu busnes yn sgil achos o TB yn agos i’r dibyn. O ystyried bod cysylltiad annatod rhwng iechyd meddwl a chynaliadwyedd a diddyledrwydd busnes fferm, mae'n rhaid i ni ddeall canlyniadau'r clefyd hwn ar lawr gwlad.

“Rwyf wedi gweld cryn dipyn o ffermwyr yn cael eu heffeithio gan TB, ac yn bersonol rwy’n gwybod sut deimlad yw methu prawf TB yma ar y fferm a gweld anifeiliaid da yn mynd i’w lladd. Mae popeth y dod i stop,” meddai Rebecca John.

Yn fyfyriwr Amaethyddiaeth a Busnes blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae hi bellach yn cynnal arolwg ar gyfer ei thraethawd estynedig, gyda'r nod o archwilio effeithiau ehangach achosion TB ar iechyd meddwl ffermwyr ledled Cymru.

Ar gyfer fy nhraethawd estynedig, rydw i'n archwilio ymhellach y berthynas rhwng achos TB ac iechyd meddwl. Yr hyn sy'n werth ei ystyried, a rhywbeth rwy'n gobeithio y bydd y data yn taflu goleuni pellach arno yw sut mae hefyd yn effeithio ar bobl nad oes ganddyn nhw achos o TB eto. Rydyn ni'n gwybod bod yna bryder bob tro y byddwch chi'n cael eich prawf.

“Mae yna amheuaeth bob amser a ydych chi'n mynd i basio neu fethu, a beth mae hynny'n ei olygu yn y pen draw i chi a'r busnes. Rwy'n gobeithio y gall llawer o ffermwyr gwblhau'r arolwg i'm helpu i gael darlun cadarn o'r sefyllfa, a gobeithio y gellir ei defnyddio i fynd i'r afael â'r broblem ymhellach,”meddai.

Tra bod y ddadl ynghylch effeithiolrwydd polisi dileu a threfn profi TB y Llywodraeth yn parhau, mae ffermwyr fel Rebecca John, sydd am ddychwelyd adref i'r fferm ar ôl graddio, yn wynebu dyfodol ansicr. 

“Mae gen i ddiddordeb mawr mewn stoc pedigri ac mae gen i ddiadell o ddefaid Kerry Hil, ond rydw i wedi bod eisiau cadw gwartheg Aberdeen pedigri ers amser maith. Ond oherwydd ein sefyllfa TB anwadal, ac nad ydym erioed wedi cael prawf clir llawn, ni allwn fyth fynd ar drywydd hynny,” ychwanegodd.

Gellir cael mynediad at yr arolwg dwyieithog yma:<https://aber.onlinesurveys.ac.uk/effaith-y-sefyllfa-diciau-yn-nghymru-ar-iechyd-meddwl-ffe>