Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn cynnal gweminar arbennig i daflu goleuni ar ba newidiadau technegol ac ymarferol sy’n ofynnol ar gyfer busnesau ffermio yng Nghymru o 1 Ionawr 2021 ymlaen.
Cynhelir y gweminar ddydd Iau, 17 Rhagfyr am 7yh trwy gyfrwng Zoom.
Bydd cynrychiolwyr o Gymdeithas Proseswyr Cig Prydain, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Hybu Cig Cymru a Llywodraeth Cymru yn helpu i egluro'r newidiadau hyn, a'u trosi'n bethau ymarferol. Cadeirir y gweminar gan Lywydd UAC, Glyn Roberts, gyda sylwadau cloi gan Bennaeth Polisi UAC Nick Fenwick.
Dywedodd Teleri Fielden, Swyddog Polisi FUW: “Mae newidiadau sylweddol yn digwydd i’r trefniadau masnachu gyda chwsmer allforio mwyaf amaethyddiaeth y DU - yr UE yn ogystal â ffyrdd newydd o weithio i bob rhan o’r gadwyn cyflenwi bwyd yn y DU.
“Mae hyn yn golygu bod angen i ffermwyr fod yn ymwybodol o effeithiau'r newidiadau hyn ar eu busnesau. Nid yn unig bydd pethau fel y rhwystrau di-dariff a glywn gymaint amdanynt, yn effeithio ar borthladdoedd ar ôl mis Rhagfyr - byddant yn effeithio ar bob cam o gynhyrchu bwyd, felly mae'n bwysig i ffermwyr ddeall goblygiadau posibl i'w busnesau.
“Bydd tîm o arbenigwyr yn ymuno â ni a fydd yn helpu i daflu goleuni ar rai o’r materion cymhleth hyn ac edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r digwyddiad.”
Cliciwch yma i gofrestru: https://www.eventbrite.co.uk/e/brexit-what-do-welsh-farmers-need-to-know-from-1-january-2021-onwards-tickets-131842270781