Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynghori’r gymuned ffermio i fod yn wyliadwrus iawn ynghylch galwadau, negeseuon testun neu e-byst amheus gan fod twyll sy’n targedu’r sector amaethyddol yn benodol wedi’i nodi.
Yn ystod mis Rhagfyr, mae ffermwyr yn dechrau derbyn cryn dipyn o arian drwy’r Taliad Sengl. Mae gwybodaeth am y taliadau ar gael yn gyhoeddus, gan olygu bod troseddwyr yn medru targedu dioddefwyr yn uniongyrchol gan wneud i’w hymagweddau ymddangos yn fwy argyhoeddiadol.
Bydd y cyfathrebiadau ffug fel arfer yn honni bod twyll wedi’i nodi ar gyfrif banc y ffermwr a bod angen gweithredu ar unwaith er mwyn diogelu cyllid.
Yna, dygir perswâd ar y dioddefydd i ddatgelu gwybodaeth bersonol neu ariannol, neu hyd yn oed trosglwyddo arian yn uniongyrchol i ‘gyfrif diogel’ honedig.
Mae rhai grantiau werth miloedd o bunnoedd, ac yn y gorffennol, mae twyllwyr wedi dwyn symiau sylweddol wrth eu dioddefwyr.
Dywedodd Paul Callard o Dîm Troseddau Ariannol Heddlu Dyfed-Powys: “Os ydych chi’n derbyn galwad neu neges o’r fath, rhowch y ffôn i lawr a pheidiwch ag ymateb yn uniongyrchol. Yn hytrach, arhoswch bum munud a galwch eich banc i’w hysbysu ynghylch y twyll, gan ddefnyddio rhif ffôn mae gennych ffydd ynddo – megis yr un o’r wefan swyddogol.”
Dywedodd llefarydd ar ran Action Fraud:
“Os fyddwch chi’n derbyn galwad am eich taliad wrth y llywodraeth, arhoswch a meddyliwch beth sy’n cael ei ofyn ichi. Gall ddiogelu chi a’ch arian. Ni fydd yr Asiantaeth Taliadau Cefn Gwlad, y llywodraeth neu swyddog o’r banc byth yn gofyn ichi ddatgelu eich manylion banc na gwneud taliad dros y ffôn. Os ydych chi’n credu’ch bod chi wedi dioddef twyll, rhowch wybod i Action Fraud yn syth drwy alw 0300 123 2040 neu drwy alw heibio i www.actionfraud.police.uk.”
Meddai Swyddog Gweithredol Sir Drefaldwyn Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Wyn Davies: “Mae ein cymuned ffermio’n darged deniadol ar gyfer twyll yn ystod yr adeg hon o’r flwyddyn, a gall canlyniadau disgyn i’r trap fod yn ddifrifol yn ariannol, ond gallant hefyd achosi straen a gofid sylweddol. Rydym felly’n annog ffermwyr i ddilyn y cyngor a roddir gan yr heddlu ac aros yn wyliadwrus.”
Cyngor ynghylch sut i osgoi’r math hwn o dwyll:
Byddwch yn wyliadwrus ynghylch:
- Unrhyw alwadau, negeseuon testun neu e-byst sy’n honni eu bod o’ch banc, yr Heddlu, corff llywodraethol neu sefydliad arall sy’n gofyn am fanylion personol neu ariannol, neu’n gofyn ichi drosglwyddo arian.
- Galwyr diwahoddiad sy’n awgrymu eich bod chi’n rhoi’r ffôn i lawr ac yn eu galw yn ôl. Gall twyllwyr gadw’ch llinell ffôn ar agor trwy beidio â rhoi’r ffôn i lawr eu pen nhw.
- Unrhyw gais i wirio bod y rhif ar eich dangosydd ffôn yn cyfateb â rhif cofrestredig y sefydliad. Ni ellir ymddiried yn y dangosydd oherwydd gall y galwr newid y rhif sy’n ymddangos.
Cofiwch:
- Ni fydd neb byth yn gofyn ichi am eich PIN 4 digid neu’ch cyfrinair bancio ar-lein, nac yn gofyn ichi drosglwyddo arian i gyfrif newydd am “resymau twyll”.
- Os ydych chi’n derbyn galwad amheus, rhowch y ffôn i lawr, arhoswch 5 munud er mwyn sicrhau bod y llinell yn glir, yna galwch eich cyhoeddwr cerdyn neu’ch banc ar y rhif maen nhw’n ei hysbysebu er mwyn adrodd am y twyll.
Peidiwch byth â datgelu’ch:
- PIN cerdyn 4 digid i neb, gan gynnwys yr heddlu neu’r banc.
- Eich cyfrinair neu godau bancio ar-lein.
- Manylion personol, oni bai eich bod chi’n gwbl sicr pwy rydych chi’n siarad â nhw. Nid yw pawb yn dweud y gwir am bwy ydynt.