[caption id="attachment_5795" align="aligncenter" width="1024"] Dafydd P Jones, Swyddog Yswiriant Llanrwst yn sylwebu ar yr arddangosfa cneifio yng Ngweldd Conwy Feast.[/caption]
Nid fferm gyffredin mo hon tu fewn i gastell, o fewn waliau treftadaeth y byd yng Ngwledd Conwy Feast.
Mae cangen Caernarfon Undeb Amaethwyr Cymru wedi trefnu casgliad o anifeiliaid fferm yn un o wyliau mwyaf Cymru.
Mae’r ?yl a gynhelir ar ddydd Sadwrn a dydd Sul (Hydref 24-25) o fewn un o safleoedd treftadaeth y byd , Conwy, yn un o uchafbwyntiau'r calendr bwyd Cymreig ac yn atynnu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.
Mae’r ?yl yn ddathliad o fwyd a diod, ac yn atynnu dros 150 o gynhyrchwyr o safon gyda’r mwyafrif o Gymru.
Dywedodd Swyddog Gweithredol Sirol Caernarfon Gwynedd Watkin, trefnydd y fferm: “Mi fydd arddangosfeydd cneifio a throelli gwlân werth eu gweld a bydd Cymdeithas Ceffylau Gwedd Gogledd Cymru yn ymuno â ni hefyd.
“Eleni bydd aelod i’r Undeb Gareth Wyn Jones o Lanfairfechan, un o sêr y rhaglen Snowdonia 1890 yn ymuno a ni a’r fore Sadwrn a Sul i siarad â’r holl ymwelwyr.
“Bydd gennym ni hefyd eifr; defaid mynydd Cymreig a moch Suffolk; heffrod Du Cymreig, Jersi, Hereford X a Holstein gan gynnwys arddangosfa gwneud ffon fugail ymysg nifer o sêr eraill.”
Gall ymwelwyr i’r digwyddiad hefyd ymweld â’r ceginau arddangos gyda chyn-gystadleuydd Bake Off Beca Lyne-Pirkis, cyflwynwraig rhaglen Becws S4C a nifer o gogyddion lleol o’r bwytai gorau, i gyd yn dangos eu talent yn y gegin.
Rhai o’r uchafbwyntiau eraill fydd dathliad o dyfu a bwyta afalau, bwyty pop-up o gynnyrch lleol, dau ddiwrnod a dwy noson o gerddoriaeth gan rai o fandiau gorau Gogledd Cymru a blinc, noswaith o wledd ddigidol yn goleuo Castell Conwy a Phlas Mawr.
“Mae Gwledd Conwy Feast yn ddelfrydol er mwyn dathlu pob agwedd o fwyd Cymreig ac yn gyfle i gefnogi cynnyrch Cymreig a busnesau bach, sydd hefyd yn gyfle i ni hybu ein hymgyrch ‘Prynwch Gynnyrch Lleol’ a rhoi bagiau siopa cotwm am ddim dros y penwythnos,” ychwanegodd Mr Watkin.
Diwedd