Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyhoeddi Papur Briffio Brexit yn y Ffair Aeaf, sy’n crynhoi’r prif faterion sy’n wynebu ein diwydiant ar ôl Brexit, a rhai o’r canlyniadau a’r atebion posib i amaethyddiaeth a phawb sy’n dibynnu ar y diwydiant, yn ogystal â safbwyntiau diweddaraf yr Undeb ar bolisïau allweddol.
Fel sy'n wir am y rhan fwyaf o adrannau’r llywodraeth a diwydiannau, Brexit sy’n llywio rhan fwyaf o waith yr Undeb.
Yn siarad yn y lansiad, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Ers Mehefin 23, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cynnal nifer lawer o gyfarfodydd gydag aelodau ar draws Cymru i drafod goblygiadau canlyniad y refferendwm a’r ffordd ymlaen ar gyfer Cymru.
“Pum mis yn ddiweddarach, mae llawer mwy o gwestiynau nag atebion o ran y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd a'r goblygiadau ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru a'r DU. Mae ein haelodau yn glir eu barn bod rhaid i bolisïau gael eu datblygu’n ofalus er mwyn adlewyrchu a dylanwadu ar benderfyniadau gwleidyddol.
"Er hynny, mae UAC eisoes wedi cytuno ar nifer o egwyddorion allweddol sy'n anelu at ddiogelu buddiannau Cymru, tra bod nifer o gynigion manwl wedi cael eu hawgrymu gan yr aelodau.
"Yn y cyfamser, mae'r Undeb wedi gweithio ochr yn ochr ag eraill i gasglu a dadansoddi data ar rôl bresennol amaethyddiaeth yng Nghymru a'r goblygiadau posibl o ganlyniadau gwahanol ar gyfer ein diwydiant a'r gymdeithas ehangach.
"Rwy’n hynod o falch o allu cyhoeddi Papur Briffio Brexit yma heddiw, sy’n crynhoi’r prif faterion sy’n wynebu ein diwydiant ar ôl Brexit, a rhai o’r canlyniadau a’r atebion posib i amaethyddiaeth a phawb sy’n dibynnu ar y diwydiant.”
Mae’r gwaith y mae UAC eisoes wedi ei wneud ar drafodaethau Brexit a’r gwaith o ennill cefnogaeth i amaethyddiaeth yng Nghymru yn cael ei amlinellu ymhellach yn y papur briffio.
Ychwanegodd Mr Roberts: “Yn ogystal â chyfarfodydd gydag aelodau ar draws Cymru, mae UAC wedi cyfarfod yn rheolaidd â Gweinidogion, ASau, ACau, gweision sifil a rhanddeiliaid allweddol, gan bwysleisio y dylid cadw’r cymorth i sectorau ar lefelau sydd ddim yn cyfaddawdu'r fferm deuluol nag economïau gwledig. Dylai amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd gael blaenoriaeth yn ystod yr holl drafodaethau masnach â gwledydd eraill a blociau masnachu, a ni ddylai biwrocratiaeth a chyfyngiadau gael effaith niweidiol na rhwystro amaethyddiaeth yng Nghymru a'r DU, a dylai pob corff y sector gyhoeddus yn y DU fod yn prynu cynnyrch Cymreig a Phrydeinig.
“Mae’r Undeb wedi pwysleisio bod angen camau cadarn er mwyn sicrhau bod archfarchnadoedd a sectorau preifat arall yn cefnogi cynhyrchwyr bwyd y wlad yma ac nid yn ymddwyn mewn ffordd sy’n tanseilio cynhyrchiant bwyd y DU neu hyfywedd ein sectorau amaethyddol, a bod y fferm deuluol yn cael ei chydnabod fel pwerdy ein heconomïau gwledig a’r ffynhonnell fwyaf addas o gynnyrch amaethyddol y DU.
[gview file="http://fuw.org.uk/wp-content/uploads/2016/11/Brexit-Briefing-FUW-November-2016.pdf"]