Rydym braidd yn fusneslyd ac am wybod beth sydd ar y gweill gyda’n ffermwyr ifanc ar hyn o bryd. Pwy well i’w holi na Beca Glyn o Fetws y Coed. Dyma beth mae Beca wedi bod yn ei wneud dros yr wythnosau diwethaf.
Pwy yw Beca?
Yn 23 mlwydd oed, mae Beca Glyn wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth gyda BSC yn Amaethyddiaeth a Busnes, a bellach yn gweithio ar y fferm biff a defaid teuluol 350 o aceri ym mharc cenedlaethol Eryri, Dylasau Uchaf, Padog, Betws y Coed.
Dechreuodd Beca ei diadell o ddefaid Hampshire Down ar wahân i’w thad Glyn Roberts 6 mlynedd yn ôl pan gafodd ddwy ddafad Hampshire Down fel anrhegion Nadolig.
Bellach, mae ganddi ddiadell o 15 o ddefaid Hampshire Down pur, 20 o ddefaid New Zealand Tomney a 20 o ?yn mynydd Cymreig sydd â gwerth genetig bras uchel. Yn ogystal â defaid mae Beca’n cadw dwy hwch Kune Kune o’r enw Morfydd a Matilda. Mae hefyd yn mwynhau gweithio gyda’r ast ddefaid Mona.
Gaeaf
Gyda’r nosweithiau hir a thywyll wedi cyrraedd, roedd hi’n bryd dod a’r gwartheg i mewn dros y gaeaf. O ran y defaid, cychwynnwyd yn gynnar un bore i hel y defaid ar y mynydd o’r Cynefin, sef ardal y defaid ar fynydd agored.
Mae’n amser prysur gyda throi’r meheryn at y defaid dros yr wythnosau nesaf, ac mae wedi bod yn wythnos brysur, rwy’n edrych ar gyflwr yr holl ddefaid a meheryn ac yn eu dosbarthu nhw i grwpiau gwahanol ac yn gwneud yn si?r bod nhw’n holl iach ar gyfer y meheryn. O’r diwedd mae’r defaid a’r ?yn benyw yn barod i fynd oddi ar y fferm am y gaeaf.
Yn gynnar un bore, ganwyd gefeilliaid yn y sied wartheg. Tuag at ddiwedd yr wythnos bu cyfle i mi ymarfer y sgiliau ddysgais yn y Brifysgol wrth helpu i baratoi ffurflen gais ar gyfer Grant Cynhyrchu Cynaliadwy - gobeithio y bydd yn llwyddiannus.
Cymdeithasu
Cynhaliwyd ein Eisteddfod Sir CFfI lleol dydd Sadwrn diwethaf ac rwyf wedi treulio rhan fwyaf o nosweithiau’r bythefnos ddiwethaf yn y neuadd leol yn Ysbyty Ifan yn ymarfer y ddrama fer, a fy rhan i oedd gwraig y fferm wrth gwrs!
Brexit
Rwy’n angerddol iawn am ffermio, felly rwy’n gobeithio y bydd ochr ariannol amaethyddiaeth yn darparu dyfodol hyfyw ar fy nghyfer. Ond rwy’n pryderi am y newid anferthol sydd wedi digwydd yn sgil Brexit. Mae’n hanfodol bwysig i gadw’r ffermydd teuluol oherwydd y cyfraniadau amhrisiadwy i les anifeiliaid, rheolaeth tirwedd a diwylliant, yn enwedig yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Oherwydd ein bod wedi bod yn allforio 30% o ?yn Cymru i Ewrop, un o’n sialensiau fwyaf ar ôl Brexit fydd cael cytundeb masnach gyda’r UE a chael marchnad ar gyfer ein cynnyrch.
Sialens arall yw cynhesu byd-eang – rwy’n hollol sicr mae nid y diwydiant amaethyddol yw’r broblem ond mae gan y diwydiant ateb i’r broblem. Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio a datblygu ar y cyfleoedd sy’n bodoli.
Y dyfodol
Fy nghynlluniau ar gyfer y dyfodol yw rhedeg y fferm deuluol ac aros o fewn fy milltir sgwâr. Er mwyn medru gwneud hyn, mae’n bosib bydd rhaid i mi feddwl am arallgyfeirio yn dibynnu beth yw dyfodol y diwydiant amaethyddol. Rwy’n benderfynol o fyw yng Nghwm Eidda lle mae’n hiaith a’n diwylliant yn elfen bwysig o fywyd.
[caption id="attachment_7343" align="aligncenter" width="300"] Morfydd a Matilda, hychod Beca.[/caption]