[caption id="attachment_7509" align="alignright" width="300"] Byddai’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru yn cefnogi agwedd o’r un fath a Seland Newydd gan fod yna bartneriaeth ddiffuant rhwng y llywodraeth a ffermwyr a’r gwleidyddion yn cydnabod yr angen i ddifa bywyd gwyllt er mwyn rheoli TB.[/caption]
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi gwrthod y cynigion i rannu Cymru yn bum rhanbarth TB gwahanol yn ei hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru gan bwysleisio’r angen i ymdrin â’r clefyd ymhlith moch daear.
Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig rhannu Cymru i ddau ranbarth TB uchel, dau ranbarth TB Canolradd ac un rhanbarth TB Isel, gyda rheolau gwahanol ar gyfer pob rhanbarth. Byddai’r cynigion yn golygu dwysau rheolau TB gwartheg Cymru sydd eisoes ymhlith y rhai mwyaf llym yn y byd.
Ond yn dilyn ymgynghoriad gyda'i deuddeg cangen sirol, mae'r mwyafrif o aelodau UAC wedi gwrthod y cynigion, gan bwysleisio’r angen am reolaethau ystyrlon sy’n ystyried trosglwyddo’r clefyd o foch daear i wartheg.
Dywedodd llefarydd TB UAC Brian Walters: “Mae’r papur ymgynghori yn cydnabod bod lefel y clefyd a geir mewn moch daear yng Nghymru yn 6.6 y cant, tua 1420% yn uwch na'r lefel sydd mewn gwartheg - sef 0.4 y cant.
"Dywedodd yr aelodau yn glir bod y cynnig i rannu Cymru i fyny i bum rhanbarth ac ychwanegu ymhellach at reolaethau TB sydd eisoes y llymaf yn Ewrop ond yn briodol os bydd niferoedd y moch daear yn cael eu lleihau yn yr ardaloedd lle maent yn trosglwyddo’r clefyd i wartheg."
Yn 2012, bu is-gr?p Twbercwlosis mewn gwartheg Tasglu’r UE ar gyfer Monitro Dileu Clefydau Anifeiliaid yn feirniadol o wleidyddion Llywodraeth Cymru am ddisodli’r cynllun blaenorol o ddifa moch daear gyda rhaglen brechu moch daear, gan ddatgan: "Nid oes unrhyw dystiolaeth wyddonol i ddangos bod brechu moch daear yn lleihau nifer yr achosion o TB mewn gwartheg. Fodd bynnag, mae yna lawer o dystiolaeth i gefnogi gwaredu moch daear er mwyn gwella statws TB moch daear a gwartheg."
Mae'r adroddiad swyddogol diweddaraf ar y rhaglen brechu moch daear, a barodd pedair blynedd ar gost o £3.7 miliwn, wedi dod i'r casgliad "Ni welir tueddiadau cyson mewn arwyddion o achosion bab eto ..."
Mewn cyferbyniad, mae cyngor gwyddonol swyddogol y llywodraeth wedi dod i'r casgliad y byddai difa moch daear yn yr ardal wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn nifer y buchesi â TB a laddwyd ac mewn gwirionedd wedi arbed arian, er gwaethaf bod y costau’n debyg i rai'r rhaglen frechu.
Ymysg y cynigion yr ymgynghorwyd arnynt gan Lywodraeth Cymru oedd mabwysiadu agwedd a dull Seland Newydd o 'brynu gwybodus' o fasnachu gwartheg, ond yn ystod gwrandawiad diweddar o Bwyllgor Newid Hinsawdd y Cynulliad, dywedodd Dr Paul Livingstone, a arweiniodd rhaglen dileu lwyddiannus yn Seland Newydd fod dim byd yn cael ei wneud yng Nghymru ynghylch y clefyd mewn moch daear.
"Byddai’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru yn cefnogi agwedd o’r un fath a Seland Newydd gan fod yna bartneriaeth ddiffuant rhwng y llywodraeth a ffermwyr a’r gwleidyddion yn cydnabod yr angen i ddifa bywyd gwyllt er mwyn rheoli TB.
"Heb ymrwymiad gwleidyddion Cymreig, byddwn byth yn cyflawni’r llwyddiant a welwyd yn Seland Newydd, Awstralia a gwledydd eraill sydd wedi gweithredu rhaglenni dileu llwyddiannus drwy fynd i'r afael â'r clefyd mewn gwartheg a bywyd gwyllt,” ychwanegodd Mr Walters.