[caption id="attachment_6452" align="alignleft" width="300"] Staff UAC sydd wedi cael eu cydnabod am hir wasanaeth i’r Undeb. O’r chwith i’r dde: Dai Jones, Huw Jones, Peter Davies, Llywydd UAC Glyn Roberts, Margaret Shepherd a Kate Ellis Evans.[/caption]
Cynhaliodd Undeb Amaethwyr Cymru seremoni wobrwyo arbennig yn ddiweddar er mwyn cydnabod yn gyhoeddus a diolch i’r aelodau hynny o staff sydd wedi rhoi 25 mlynedd a mwy o wasanaeth i’r Undeb.
Wrth gyflwyno’r gwobrau, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae hyn yn wobr newydd sy’n cydnabod ac yn dangos ein gwerthfawrogiad i nifer o aelodau o staff sydd wedi gweithio i’r Undeb ers 25 mlynedd neu’n fwy.
“Dywedir yn aml fod cwmni ond cystal â’i gweithwyr. Mae gan UAC ddigon o staff ardderchog, ymroddedig sy'n parchu’r sefydliad ac sy'n anrhydeddu gwerthoedd yr Undeb.
“Heddiw, rwy’n falch iawn medru cydnabod a gwobrwyo pum aelod o staff sydd wedi bod gyda ni ers 25 mlynedd neu fwy. Rhwng Kate Ellis Evans, Margaret Shepherd, Dai Jones, Huw Jones a Peter Davies, mae yna fwy na 125 mlynedd o wasanaeth rhyngddynt.
Yr un sydd wedi bod gyda’r Undeb hiraf yw Kate Ellis Evans, a hynny ers 37 mlynedd ar ôl ymuno gyda’r Undeb ym mis Ionawr 1979 fel Swyddog Cyllid.
“Mae Kate yn uchel ei pharch, ac yn aelod o staff effeithiol a chymwys dros ben. Rydym yn ddiolchgar tu hwnt iddi am ei ffyddlondeb a’i gwaith gwych,” dywedodd Glyn Roberts.
Yn ogystal â’i gwaith gyda’r Undeb, mae Kate hefyd yn helpu ar y fferm deuluol yn Llanon gyda’i g?r Ben. Mae’r cwpwl yn cadw oddeutu 700 o ddefaid ac yn rhedeg siop gig yn Llanon, yn ogystal â busnes bythynnod gwyliau.
Ymunodd Margaret Shepherd gyda UAC ym mis Mawrth 1981 ac mae wedi cael ei chyflogi gan yr Undeb ers 35 mlynedd. Dechreuodd Margaret fel Clerc/Teipydd, ac yna ymunodd gyda’r Adran Gyllid.
Yna, dechreuodd Margaret gyda’r gwaith gweinyddol, ac ers nifer fawr o flynyddoedd, hi yw goruchwyliwr y swyddfa. Mae’n briod â Jimmy, postmon o Aberystwyth, ac mi fydd ei mab Bryn, yn dechrau ar ei swydd fel athro yn ysgol gynradd Penllwyn, Capel Bangor ym mis Medi.
“Margaret sy’n gyfrifol am redeg y brif swyddfa yn Aberystwyth ac mae’n gweithio’n agos gydag aelodau o’r Pwyllgor Cyllid a Threfn Ganolog. Mae Margaret yn aelod o staff gwerthfawr, ardderchog ac yn tu hwnt o gymwys, ac nid wyf yn si?r beth y byddem yn ei wneud hebddi,” dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts.
Mae Dai Jones wedi bod yn gweithio gyda UAC ers 30 mlynedd fel Gweithredydd Cyfrif ar gyfer gogledd Ceredigion, sef yr ardaloedd o’r gogledd o Lanrhystud i Bonterwyd.
Ymunodd â UAC ym mis Rhagfyr 1986, a chyfarfod ei wraig, Elen, yng Nghynhadledd Busnes Flynyddol yr Undeb. Ar y pryd, roedd Elen yn Swyddog Ardal UAC yng Nghaernarfon.
Mae’r cwpwl yn rhedeg tyddyn 25 erw ac yn cadw oddeutu 60 o ddefaid. Mae’r ferch, Manon, yn gyfreithwraig dan hyfforddiant gyda Chyfreithwyr Arnold Davies a Vincent Evans a’r mab yn Llanbedr Pont Steffan ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd.
Mae’r mab, Dewi, newydd gwblhau ei ail flwyddyn yn astudio amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mi fydd yn treulio blwyddyn o brofiad gwaith gyda Menter a Busnes cyn dychwelyd i’r Brifysgol i gwblhau ei astudiaethau cyn graddio ac ennill gradd yn amaethyddiaeth.
Dechreuodd Huw Jones fel ysgrifennydd sirol ym 1988 yn y swyddfa yn Nolgellau. Mae’n briod â Eirian, ac mae ganddynt ddwy ferch sef Glesni a Mererid.
Graddiodd Huw o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd mewn Hanes. Yn wreiddiol, ymunodd a Banc Barclays a bu gyda’r banc am bedair blynedd a hanner yn gweithio yng nghangen Llanllieni cyn ymuno gyda UAC.
“Mae Huw wedi gweithio’n ddiflino a diolchwn iddo heddiw am ei holl waith caled. Mae’n uchel iawn ei barch ac yn aelod gwych o staff ac yn rhoi gwasanaeth rhagorol i aelodau. Nid oes amheuaeth ei fod bob amser yn sicrhau bod yr Undeb yn weithgar ac yn amlwg yn y gymuned amaethyddol ym Meirionnydd.
“O drefnu digwyddiadau megis y brecwastau o fewn ei sir, mae Huw hefyd wedi cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau codi arian arall megis, Her y Tri Chopa a cherdded Llwybr Arfordir Cymru,” dywedodd Glyn Roberts.
Dechreuodd Peter Davies fel Swyddog Gweithredol Sirol gyda’r Undeb yng Nghaerfyrddin ym 1991 ac yna cafodd ei benodi fel Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth ym 2006. Derbyniodd Peter yr MBE fel rhan o restr anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd ym 1996. Mae’n briod â Barbara ac mae ganddynt 3 o blant sef Michael, Robert a Kate.
Mae wedi bod yn gyfrifol am nifer o ddigwyddiadau llwyddiannus ar ran yr Undeb. Mae'r rhain yn cynnwys trefnu brecwastau Cymreig yn y Cynulliad Cenedlaethol, T?’r Arglwyddi ac yn y senedd Ewropeaidd ym Mrwsel, cinio noson cyn y Sioe Laeth yng Nghaerfyrddin, ac arwain tarw Du Cymreig o amgylch Parc y Scarlets er mwyn hyrwyddo ansawdd cig eidion Cymreig cyn gem y Scarlets yn erbyn tîm o Ffrainc yng Nghwpan Ewropeaidd Heineken.
Peter hefyd oedd yn gyfrifol am dair gwobr newydd sydd bellach yn cael eu cydnabod fel digwyddiadau urddasol yn y calendr amaethyddol. Cyflwynir y gwobrau i bobl sydd wedi rhoi gwasanaeth neilltuol i amaeth yng Nghymru; gwasanaeth neilltuol i’r diwydiant llaeth yng Nghymru, a gwasanaeth neilltuol i amaeth yng Nghaerfyrddin.
Mae wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau yn sir Gaerfyrddin, gan gynnwys protest yn erbyn mewnforion cig eidion o Frasil. Hefyd, arweiniodd Peter brotestiadau yn erbyn y fyddin yn defnyddio tir amaethyddol lleol at ddefnydd hyfforddi er mwyn dangos yr angerdd yn erbyn gwahardd hela gyda ch?n.
Tu allan i amaethyddiaeth, mae ganddo brofiad helaeth o sefydliadau arall. Bu Peter yn Gyfarwyddwr anweithredol o ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin am 12 mlynedd, ac yn Gadeirydd Pwyllgor Archwilio’r Ymddiriedolaeth am bron iawn yr holl amser yna.
Gwasanaethodd fel aelod o fwrdd S4C ac mae’n gyn Gadeirydd Cymdeithas Tai Cantref ac Antur Teifi.
“Mae Peter wedi cael gyrfa hir a llwyddiannus gyda ni yma yn UAC – a gobeithio bydd hyn yn parhau am flynyddoedd eto i ddod. Rydym yn gwerthfawrogi ei frwdfrydedd a’i ddyfalbarhad. Ar ran yr Undeb, rwy’n diolch iddo am ei gyfraniadau a’i waith gwych,” ychwanegodd Glyn Roberts.