[caption id="attachment_6738" align="alignleft" width="300"] Llywydd UAC Glyn Roberts (chwith) yn llongyfarch Medwyn Evans ar ennill Treialon C?n Defaid Cenedlaethol Cymru ar Fferm Tyfos.[/caption]
Beth sy’n gwneud ci defaid llwyddiannus mewn Treialon C?n Defaid? Y sylw i fanylder, bod yn graff, hyblyg, peidio â chynhyrfu? Arddangoswyd yr holl sgiliau yma yn Nhreialon C?n Defaid Cenedlaethol Cymru a gynhaliwyd ar ddiwedd mis Gorffennaf a gwelwyd gr?p arbennig o bobl a’i c?n yn ennill lle yn y tîm cenedlaethol.
Yn ogystal â’r sgiliau uchod, mae angen meistrolaeth dda, perthynas dda rhwng y ci a’r trafodwr, a dealltwriaeth o ymddygiad y defaid a’r c?n wrth gwrs.
Cynhaliwyd Treialon C?n Defaid Cenedlaethol Cymru yn Nhyfos, Corwen, sef cartref y teulu Williams ers dros 100 mlynedd.
Rhedwyd dros 150 o g?n dros y cwrs yn ystod tri diwrnod o dreialon, gyda’r nod o sicrhau lle yn y tîm cenedlaethol i gynrychioli eu gwlad yn Nhreialon Rhyngwladol blynyddol y Gymdeithas.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn noddwyr balch o’r siacedi swyddogol y bydd y tîm yn eu gwisgo yn ystod y Treialon C?n Defaid Rhyngwladol, sydd i’w cynnal ar Fferm Sandilands, Tywyn, Gwynedd rhwng Medi 9 a 11.
Cafodd y siacedi eu cyflwyno i’r tîm Cymreig newydd ar ddiwedd y Treialon Cenedlaethol ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 30 gan Lywydd UAC Glyn Roberts.
Enillodd Medwyn Evans gyda Mac; Kelvin Broad gyda Kinloch Levi; Medwyn Evans gyda Meg; Alan Jones gyda Spot; Sophie Holt gyda Hybeck Blake; Richard Millichap gyda Sweep; Kevin Evans gyda Kemi Ross; Ll?r Evans gyda Zac; Alwyn Williams gyda Max; Gethin Jones gyda Maddie; Glyn Jones gyda Roy; Aled Owen gyda Llangwm Cap; Ross Games gyda Roy; Richard Millichap gyda Don; Kevin Evans gyda Preseli Ci, le yn nhîm Cymru gyda Angie Driscoll a Kinloch Pippi wrth gefn.
Mae gan bob tîm cenedlaethol le ar gyfer 15 cystadleuydd ac un wrth gefn, felly roedd y gystadleuaeth yn frwd.
“Bydd 15 aelod mewn tîm yn cynrychioli pob un o’r pedwar gwlad ac yn cystadlu yn y Treialon Rhyngwladol. Bydd y 15 cystadleuydd gorau o’r holl wledydd yn ail-redeg ar y diwrnod diwethaf am y Brif Bencampwriaeth i ddewis y Pencampwr Rhyngwladol,” dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts.
Bu Eryl Roberts, Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio ym Meirionnydd sydd wedi bod yn gysylltiedig â threialon c?n defaid ers dros 30 mlynedd ac yn un o’r ddau feirniad yn y Treialon Cenedlaethol yn sôn wrthym yngl?n â beth sy’n gwahaniaethu tîm Cymru o’r cystadleuwyr arall.
Dywedodd: “Mae gan dîm Cymru bopeth sydd ei angen i lwyddo. Mae gan drafodwyr a ch?n tîm Cymru y gallu, profiad a llawer mwy.
“Wrth gwrs bydd yna nifer o sialensiau i’w goresgyn er mwyn sicrhau mai Cymru fydd yn ennill yn y Rhyngwladol.“
Mae’r cwrs Treialon C?n Defaid Rhyngwladol yn Nhywyn yn un heriol tu hwnt esbonia Eryl.
“Gyda chymaint o dir i’w drin, bydd rhaid bod gan y c?n y gallu i fynd yn syth at y defaid yn hytrach na dibynnu ar ffiniau’r caeau.
“Bydd y pellter yn her, ac mae’r tywydd, wrth gwrs, yn chwarae rhan yn safon y rhedeg. Gall tywydd gwael gael effaith enfawr ar bellter maith. Mae gan ddefaid Mynydd Cymreig gymeriad pendant.
Mae rhwystrau a chymhlethdodau yn perthyn i dreialon c?n defaid. Heblaw am y tywydd, mae yna nifer o sialensiau sydd tu hwnt i’ch rheolaeth. Ni ellid rhagweld ymddygiad digymell y defaid ymhlith pethau arall. Mae elfen o lwc yn bwysig iawn hefyd wrth gwrs!”
Yn 2015, Aled Owen o Gorwen, ac aelod o UAC enillodd y Treialon C?n Defaid Cenedlaethol ac yna aeth ymlaen i fod yn Brif Bencampwr ym Moffat, Dumfries.
Eleni, Medwyn Evans a’i gi Mac enillodd Treialon C?n Defaid Cenedlaethol Cymru, a hynny’n sicrhau lle iddo fel capten tîm Cymru yn y Treialon Rhyngwladol.
[caption id="attachment_6739" align="alignleft" width="300"] : Medwyn Evans fydd yn arwain tîm Cymru yn y Treialon C?n Defaid Rhyngwladol – UAC sydd wedi noddi siacedi’r tîm.[/caption]
Mae gan Eryl bob ffydd ym Medwyn fel capten, gan ddweud: “Mae Medwyn wedi bod yn gapten tîm Cymru lawer tro o’r blaen ac mae ganddo gyfoeth o brofiad wrth drin defaid Mynydd Cymreig ar Ystâd y Nannau, ac felly mae’n hen gyfarwydd â’r sialensiau sydd i ddod.
“Mae ganddo dîm o drafodwr profiadol a chraff a fydd yn ceisio eu gorau yn y cystadlaethau unigol yn ogystal â fel rhan o dîm Cymru.
Dechreuodd Medwyn Evans gystadlu yn y treialon lleol yn 17 mlwydd oed, ond ni aeth ati i gystadlu o ddifri tan 1995. Wrth edrych ymlaen at y treialon rhyngwladol dywedodd: “ Yr her fwyaf i fi fydd cael y c?n tu ôl i’r defaid cyn iddynt fynd allan yn rhy lydan wrth gymhwyso. Dylai gweithio gyda defaid Cymreig ysgafnach fod o fantais, felly croeswch eich bysedd i ni erbyn mis Medi.”
Felly sut mae capten tîm Cymru yn mynd i baratoi ei hun ar gyfer yr her nesaf?
“Os bydd amser yn caniatáu, rwyf am yrru’r c?n allan ar ddarnau eang o dir gyda defaid arall ynghanol y darn, ond nid wyf wedi gorffen y cynhaeaf na’r cneifio eto,” ychwanegodd.
Wrth roi darn o gyngor i’r genhedlaeth nesaf o bencampwyr treialon c?n defaid, dywedodd Medwyn: “I fod yn gallu trafod ci yn dda, mae’n rhaid medru ei hyfforddi hefyd a medru rhagweld symudiad nesaf y ddafad. Mae rhaid i chi wylio’n ofalus sut mae’r trafodwr gorau yn trin eu c?n ac amseru eu gorchmynion.”
Bu Llywydd UAC Glyn Roberts yn y Treialon C?n Defaid Cenedlaethol a dywedodd: “Cawsom dri diwrnod tu hwnt o lwyddiannus yn Nhyfos. Roedd y gystadleuaeth yn ddwys ac mae’n rhaid i fi longyfarch pawb sydd wedi ennill lle yn nhîm Cymru.
“Arwyddair tîm pêl-droed Cymru oedd “Gorau Chwarae Cyd Chwarae” a petai ni’n mabwysiadu’r un meddylfryd, yn enwedig wrth edrych ar safon ein tîm a pha mor dda y maent yn gweithio gyda'u c?n, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddant yn gwneud yn dda ym mis Medi , ac rwy'n dymuno'r gorau iddynt. "