[caption id="attachment_7119" align="alignleft" width="300"] Aelodau UAC yn trafod #AmaethAmByth gydag AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth.[/caption]
Cynhaliodd cangen Ynys Môn o Undeb Amaethwyr Cymru ymweliad fferm lwyddiannus gyda Rhun ap Iorwerth AC yn ddiweddar.
Cynhaliwyd yr ymweliad yn Rhos Helyg, Gaerwen sy’n gartref i Iwan a Rebecca Jones, cwpwl ifanc sy’n denantiaid ar fferm y Cyngor Sir. Mae’r cwpwl hefyd yn rhedeg canolfan gasglu defaid a gwartheg sydd wedi ei leoli’n ganolig ar yr ynys ac yn agos i’r A55.
Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Ynys Môn Heidi Williams: “Hoffwn ddiolch i Iwan a Rebecca am gynnal yr ymweliad. Roedd yn gyfle i ni godi materion #AmaethAmByth gyda Rhun ap Iorwerth a cafwyd trafodaeth ar yr economi leol bresennol a phwysigrwydd y fferm deuluol yn ogystal â phryderon y diwydiant yn sgil Brexit.”
Wrth drafod pwysigrwydd ffermydd y Cyngor Sir a’i pwysigrwydd wrth roi sylfaen cychwynnol i bobl ifanc, ychwanegodd Mrs Williams: “Mae gwerthu daliadau’r cyngor lleol yn peri pryder mawr i ni yma yn Ynys Môn. Mae ffermydd y cyngor yn rhoi cyfle i’n pobl ifanc ddod mewn i’r diwydiant a tra ein bod yn gwerthfawrogi anawsterau ariannol y cynghorau, nid yw gwerthu’r daliadau yn cynnig cymorth o gwbl i’r rhai hynny sydd am gychwyn yn y diwydiant.
“Os ydyn am sicrhau bod Cymru’n cael ei ddatblygu i’w llawn botensial fel pwerdy economaidd gwledig, mae’n rhaid i ni sicrhau bod hi’n ddeniadol i deuluoedd aros yma i weithio. Gall amaethyddiaeth chwarae rhan enfawr yn hyn, o ystyried y nifer o swyddi sydd ar gael. Ond, er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cyfle i gychwyn yn y lle cyntaf yn y diwydiant, mae’n rhaid mynd i’r afael a nifer o faterion.
“Os na caiff y broblem o ddiboblogi gwledig sylw ar frys, mi all gael effaith lem ar ein cymunedau gwledig ac yn ei dro ar ein heconomi wledig”.